Awst 2026

1/08 Rhodd er cof am Mrs Gwen Thomas, Dolwerdd gynt Derbyniwyd rhodd hael er cof am aelod annwyl iawn o’r capel ac rydym mor ddiolchgar iddi hi a’i theulu am gofio am y capel. A generous donation received in memory of Mrs Gwen Thomas who was a much loved and respected...

Gorffennaf 2026

5/07 Gwasanaeth ar Y Swper Olaf Roedd y gwasanaeth cymun dan arweiniad yr aelodau yn seiliedig ar ddarlun Leonardo da Vinci  o’r Swper Olaf sydd ar wal y ffreutur ger yr Eglwys Gadeiriol ym Milan gan ystyried teimladau’r disgyblion wrth y bwrdd fel y portreadwyd...

Mehefin 2026

5/06 Cyngerdd Ar nos Wener, Mehefin 5ed cynhaliwyd cyngerdd yng nghwmni Côr Meibion Hendy Gwyn a’r cylch a’u rhaglen yn amrywiol a hwythau yn canu gydag arddeliad o dan arweiniad medrus eu cyfarwyddwr cerdd, Hefina Jones. Y cyfeilydd cadarn oedd Owain Lewis, yntau yn...

Mai 2026

Gwasanaethau Suliau mis Mai Ar Fai’r ail daeth Parch Robin Samuel atom i weinyddu’r cymun ar Sul cyntaf y mis; yna Tudur Dylan, Catrin Isaac Thomas a’r Parch John Gwilym Jones ar Sul ola’r mis. Diolch iddynt. Hwb Undeb yr Annibynwyr 05,12,19/05 Cynhaliwyd 3 chyfarfod...

Ebrill

04/2026 1/04 Bleinds newydd! Chaiff neb eu dallu gan yr haul yn Croeso Cynnes bellach na Dai ar yr organ chwaith! 2/04 Noson Gwis y Savoy Diolch i Sied y Dynion am enwebu Croeso Cynnes fel elusen Cwis y Savoy ac aeth criw ohonom draw – ond heb lawer o lwyddiant. Yn...

Mis Mawrth

Newyddion Mis Mawrth 1/03 Gwasanaeth Gŵyl Dewi Cawsom ddathlu Gŵyl ein nawddsant gyda gwasanaeth yn trafod stori ein hiaith a  rôl crefydd yn ei chynnal a’i chyfoethogi. Dechreuwyd gyda hanes dymchwel Tŵr Babel a hwnnw’n symbol o awch y ddynoliaeth am rym a’r...