Mehefin 2026
5/06
Cyngerdd
Ar nos Wener, Mehefin 5ed cynhaliwyd cyngerdd yng nghwmni Côr Meibion Hendy Gwyn a’r cylch a’u rhaglen yn amrywiol a hwythau yn canu gydag arddeliad o dan arweiniad medrus eu cyfarwyddwr cerdd, Hefina Jones. Y cyfeilydd cadarn oedd Owain Lewis, yntau yn ŵyr i deulu Sgubor Fawr sydd mor annwyl gennym yn y capel. Llwyddodd Daniel O’Callaghan i lywio’r noson mewn modd hwyliog ac fe gyfrannodd sawl eitem i’r noson – un yn gân a gyfansoddwyd ganddo ar gyfer seremoni cyhoeddi Eisteddfod y Garreg Las yn Arberth y llynedd. Fe gododd y to yn yr ail hanner gyda’i berfformiad o Gân y Moulin Rouge, unawd o sioe gerdd Y Ddwy Chwaer a gyfansoddwyd gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn ac yntau’n drachtio o win cymundeb – fel y gwelir yn y lluniau! Llywydd y noson oedd ein haelod seneddol, Ann Davies a roddodd anerchiad pwrpasol. Fe rannodd bwysigrwydd ei ffydd iddi a’u harfer o fynychu gwasanaethau yn rheolaidd yn y capel yn San Steffan ynghyd â chyfeiriad at waith Cymorth Cristnogol. Codwyd £800 ar y noson i’w gyfrannu at apêl 2026 yr elusen honno gan nodi parodrwydd y perfformwyr i gefnogi ein hymdrechion. Diolch o galon iddynt felly ac i bawb a fu’n cynorthwyo i drefnu’r noson, gan gynnwys y wledd o luniaeth i’r artistiaid. Cawsom noson i’w chofio.
A wonderful concert held by Whitland and district choir with Daniel O’Callaghan as soloist and president, our Member of Parliament who talked of the importance of her faith and the work of the charity, Christian Aid and a total of £800 contributed from the proceeds – with thanks to all who supported this evening.


7/09
Ffilmio gwasanaeth
Gwasanaeth arall ar lyfr yr Actau a gafwyd fore Sul gan ganolbwyntio ar dröedigaeth Saul. Mae Ceri Jones newydd ddechrau ar ei swydd fel swyddog technoleg ar ôl derbyn grant cefnogi Cyfle Undeb yr Annibynwyr a chafodd y gwasanaeth ei ffilmio – a hynny fel arbrawf cychwynnol.
We are fortunate to have had a grant from the Union of Independents and Ceri Jones has started as our digital officer – exciting times ahead!
Plant Dewi a Coda Ni
Fe alwodd Vio a Ffred o Coda Ni i gasglu dillad a gadael llawer i’w casglu gan Blant Dewi. Ein braint yw medru cynorthwyo’r ddwy elusen yma.
It’s our privilege to support these two charities – Coda Ni kindly separate young children’s clothes to be collected by Plant Dewi in the chapel.
9/06
Ymwelydd â bore Croeso Cynnes
Dyma Sheena Anderson o Elgin ger Inverness yn yr Alban. Roedd yn awyddus i gwrdd â Chymry i ymarfer ei Chymraeg. Fe ddechreuodd ddysgu’r iaith dros y Cyfnod Clo dros y we ac mae erbyn hyn yn rhyfeddol o rugl. Fe ymunodd hefyd â chriw Siawns am Sgwrs am baned fore dydd Iau canlynol.
Sheena Anderson from Elgin, Inverness was eager to practice her Welsh having learnt the language during Covid on the Internet and she was remarkably fluent!

9/06
Hwb Undeb yr Annibynwyr
Cynhaliwyd hwb arall trwy Zoom i gapeli’r ardal a hynny ar Gynllunio’n Cenhadaeth a dau arall hefyd y bythefnos nesaf, un ar y Sacramentau a’r llall a’r waith tîm dan arweiniad Peniel a Bwlchycorn. Daeth y gyfres o chwech sesiwn i ben felly gan ddiolch i bawb a’u mynychodd o’r capel – o leia 12 ohonom yn mhob un a diolch i’r rhai a baratôdd baned i bawb.
The chapel was a hub for many chapels to attend zoom meetings on a range of themes. Almost 40 were present with 10-12 from Bethlehem each week.
12/06
Diwrnod agored Heddlu Dyfed-Powys
Cafwyd diwrnod llawn o drafod.
A full day of discussion during this open day.
14/06
Gwasanaethau eraill
Dafydd Evans ac Arwel Evans fu’n arwain dau wasanaeth arall y mis a buom yng nghapel Gibeon ar un Sul a chafwyd gwasanaeth Cymorth Cristnogol yno.
Other services this month, including one at Gibeon for Christian Aid.
17/06
Sesiwn Stori

Cwrdd Blynyddol Chwiorydd
Teithiodd rhai ohonom o’r ofalaeth i’r gwasanaeth yng nghapel Bryn Iwan ar noson braf – a thema’r oedfa oedd y Pum Peth Personol i warchod yr amgylchedd.

30/06
Tŷ Croeso yn diolch i Annalyn
Daeth llond lle i’r Croeso Cynnes fore dydd Mawrth, Mehefin 30ain i werthfawrogi’r gwaith aruthrol a gyflawnodd Annalyn fel swyddog cymunedol dros y pum mlynedd diwethaf. Fe’i cyflogwyd gan Bethlehem Newydd trwy gymhorthdal Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr a gwireddwyd ei gweledigaeth gyda brwdfrydedd ac ymroddiad eithriadol. Roedd pawb mor falch i’w gweld a hithau wedi bod yn gaeth i’w chartref yn ddiweddar ond fe lwyddodd er hynny i barhau i gydlynu’r holl weithgareddau. Cafwyd teisen i ddathlu a’i anrhegu i fynegi ein gwerthfawrogiad ac yn y llun gwelir nifer o’r gwirfoddolwyr. Ein gobaith yw parhau â’r bwrlwm cymunedol ac elusennol a ysgogwyd ganddi.
We were so pleased that Annalyn was able to come to Croeso Cynnes for us to be able to convey our appreciation of all she achieved as our Community Officer over the last five years. She was employed by the chapel via a grant from the Union of Independents and she delivered her vision for Tŷ Croeso with such commitment and enthusiasm. Thanks to Sue for the cake and to the many volunteers. Our intention is to continue and develop all the community and charitable activities established by Annalyn.



Rhaghysbys:
