Elusennau Tŷ Croeso

Plant Dewi

Mae Plant Dewi yn elusen sydd yn cynorthwyo teuluoedd gyda babanod a phlant ifanc yn Esgobaeth Tyddewi. Roedd yr elusen yn chwilio am leoliad i storio offer a nwyddau ac roeddem yn hapus i gynnig gofod iddynt yn rhad ac am ddim yn yr hen ysgoldy. Trwy ei hymweliadau ȃ chapeli  ac eglwysi a mudiadau megis Merched y Wawr ac Undeb y Mamau mae Annalyn wedi medru ysgogi rhwydwaith o wirfoddolwyr sy’n casglu offer ac yn gwneud dillad. Mae mudiad Coda Ni yn cyfrannu  dillad babanod addas i ni i’w trosglwyddo.

Os oes unrhyw beth medrwch gyfrannu, cysylltwch ag Annalyn Tŷ Croeso Bethlehem, Pwll Trap.

We are  pleased to be able to provide a location for storage for this charity and to aid with collecting equipment and clothes for families with young children who ar ein need of support.

If you have anything to contribute, please contact Annalyn at Tŷ Croeso Bethlehem, Pwll Trap.

Mae’n rhaid cydnabod cyfraniad eithriadol pedair – Iona Cartwright am y cwiltiau bach clytwaith – dros 20 ohonynt!  Ac i Ann Morris am ei chwiltiau hithau.

Hefyd – Ruth Glover, Ann Morris, Rhiannon Jones  ac Eirlys Thomas sydd wedi gwau llwyth o ddillad i bob oed.

Coda Ni

Grŵp Cristnogol yn Nyffryn Teifi  sy’n rhedeg yr elusen sy’n casglu dillad ac yn eu didoli – y rhai gorau i’w gwerthu, rhai i’w hailgylchu a’r elw yn mynd i gefnogi cymuned yn Burkina Faso, yn cynnwys ariannu ffynhonnau dŵr glân. Cefnogant hefyd elusennau lleol megis Breakthro Caerfyrddin.

https://www.carmarthen-breakthro.co.uk/

Cynhelir Sadyrnau agored yn y capel o bryd i’w gilydd i dderbyn cyfraniadau.

Open days are held from time to time to collect clothes for this charity.

Lloches Gwragedd Caerfyrddin / Womens’ refuge

https://www.carmdas.org/pages/category/refuge

Mae Annalyn wedi meithrin perthynas agos gyda’r mudiad hwn.

Cesglir bwyd dros ben o siop y Co-op Sanclêr ddeuddydd yr wythnos a rota o wirfoddolwyr yn ei gasglu a’i gludo i Gaerfyrddin. Ceisiwn ymateb i anghenion yr elusen megis trefnu apêl i gael dillad gwely, dillad nos, eitemau golchi ac ymolchi a nwyddau ar gyfer y Nadolig a wyau Pasg. Eto, trwy ymweld ȃ chapeli ac eglwysi a mudiadau eraill mae Annalyn wedi codi ymwybyddiaeth o’r angen  a bydd nifer yn cyfrannu at yr amrywiol apeliadau.

We support this charity by holding  appeals  for specific items such as duvets, night clothes and washing powder, shower gel, shampoo etc as well as chocolates at Easter and Christmas.and by collecting  and delivering leftover foods from the local Co-op two days a week.

Sied y Dynion / Menshed Sanclêr

https://www.mensshedscymru.co.uk/

Gwyddai Annalyn fod  Menshed Sanclêr yn chwilio am fan i gyfarfod ac ers ailagor y capel maent yn cwrdd yn y capel bob bore dydd Iau. Mae llawer ohonynt yn mynychu’r sesiynau Croeso Cynnes hefyd ar fore dydd Mawrth. Maent wrth eu bodd yn cael defnyddio’r gegin i wneud paned a thost. Mae sawl un ohonynt yn gogyddion ardderchog ac yn dod ȃ chacen i’w rhannu yn aml. Cyfrannodd sawl un ohonynt deisennau gwerth eu gweld i’r bore coffi Macmillan a gynhaliwyd fis Medi. Rydym fel capel wedi elwa’n fawr o’r bartneriaeth hon gyda’u cymorth yn chwynnu a thorri porfa o flaen y capel ac maent wrthi’n glanhau a pheintio’r reilins o flaen y capel. Mae ambell unigolyn wedi creu sawl mainc hefyd. Hyderwn fod y bartneriaeth hon yn fodd i godi hyder a hunanwerth ac yn gymorth o ran iechyd meddwl y grŵp. Maent wedi cymryd rhan mewn prosiect gydag artist graffiti yn ddiweddar i greu murlun i godi ymwybyddiaeth o drais casineb ar y cyd ȃ mynychwyr Croeso Cynnes.

Members of the local Menshed meet at the chapel every Thursday morning for a cuppa and a chat. They enjoy the use of the kitchen and we are very fortunate to have their help in tidying the putside area of the chapel and painting the railings. Many are great cooks, baking wonderful cakes for the Macmillan coffee morning and of course several are craftsmen who have made benches for the outside area. We hope that this partnership is a means of sustaining their confidence, self-worth and mental health. Recently they have contributed to a project with a graffiti artist to raise awareness of hate violence together with those attending Croeso Cynnes every Tuesday.

Angor

https://angor.org.uk/

Mae cynrychiolydd o Angor yn mynychu sesiynau Croeso Cynnes unwaith y mis i gynnig cyngor a chefnogaeth i’r mynychwyr. Elusen yw Angor sy’n cefnogi pobl a’u teuluoedd sydd yn dioddef o afiechyd megis cancr gan gynnig cymorth iddynt ar ôl derbyn triniaeth.

A representative of Angor attends the Croeso Cynnes sessions once a month to provide advice and support. Angor is a charity which provides advice and support to those with an illness following treatment and their families.

Digartref Sir Gȃr

Cysylltodd Annalyn ag elusen sy’n cynorthwyo’r di-gartref yn Sir Gaerfyrddin.

Yn y llun gwelir arddangosfa o’r pecyn cymorth a roddir i berson digartref. Rhoddir talebau bwyd iddynt hefyd.

Yng nghyngerdd Delwyn Siôn ym mis Hydref gwnaethpwyd casgliad i’r elusen – £350 a chyfrannwyd 8 taleb Greggs. Daeth gwirfoddolwr o’r elusen i rannu gwybodaeth ȃ ni am eu gwaith ar un o’n boreau Sadwrn agored.

O weld yr arddangosfa penderfynodd aelod o’r Sied Dynion gyfrannu 4 taleb Greggs i’r elusen yn hytrach na mynd i’r dafarn gyda’i ffrindiau Dyna i chi ddameg gyfoes!

 

We have recently been supporting a charity for the Homeless Carmarthenshire – raising £350 and  contributing 8 Greggs vouchers following a concert held in October. A volunteer for the charity left a display in the chapel of the pack provided for the homeless, They also distribute food vouchers. Having seen the display a member of the Menshed decided not to go to the pub  with others but to contribute 4 Greggs vouchers instead –  a modern parable indeed!