Medi 2026
6/09
Oedfa wahanol
Cafwyd oedfa wahanol gan wylio gwasanaeth a ffilmiwyd cyn yr haf a thrafodaeth yn dilyn. Diolch i Ceri am drefnu.
13/09
Roedd yr oedfa dan arweiniad aelodau yn seiliedig ar erthygl gan Emyr Phillips ar yr Iesu’n dileu gwahaniaethau rhwng pobl a ymddangosodd yn rhifyn yr haf o’r cylchgrawn Cristion.

20/08
Golau Gras yn Gibeon
Daeth Helen Gwenllian i roi hanes gwaith Golau Gras sy’n cynnig cefnogaeth i ferched ar wardiau seiciatrig. Sefydlwyd yr elusen gan grwp o ferched o Eglwys Ffynnon, Llandysul. Cyflwynwyd casgliad y bore o £170 a chyfraniad gan gapel Bethlehem Newydd o £100 yn ychwanegol. Roedd llawer o’r gynulleidfa dan deimlad o glywed Helen yn rhannu ei phrofiad personol.
Golau Gras is a charity established by a group of women in Ffynnon, Llandysul to support women on psychiatric wards. A contribution of £270 presented to the guest speaker, Helen Gwenllian.

26/09
Casglu dillad bore Sadwrn
Diolch i’r rhai a fu’n gweini paned wrth i nifer ddod draw gyda’u bagiau o ddillad.
Bydd y capel ar agor eto bore Sadwrn, Hydref 3ydd.
Two Saturday mornings to drop off bags of clothes – the second on October 3rd.
27/09
Oedfa dan arweiniad Arwel Evans
Gyda diolch i Hilary am gyfeilio.
28/09
Casgliad y Lloches
Daeth Wendy i gasglu’r pentwr o nwyddau golchi a glanhau – gan ddiolch i bawb a gyfrannodd mor hael unwaith eto.
Many thanks to all who contributed generously again to the appeal for the Refuge.

29/09
Bore Coffi Macmillan
Llwyddwyd i godi’r swm sylweddol o £1008 gan ddiolch i bawb a fu’n pobi a choginio, yn trefnu’r raffl, yn gweini wrth y byrddau ac yn cyfrannu mor hael i’r achos teilwng hwn.
Many thanks to all who baked, arranged the raffle, served the coffee and contributed so generously to this worthy cause, raising the fantastic sum of £1008.


Rhaghysbys

Cyngerdd Nadolig Al Lewis ar nos Iau, Rhagfyr 3ydd. Bydd tocynnau ar werth yn fuan!