Ebrill
04/2026
1/04 Bleinds newydd!
Chaiff neb eu dallu gan yr haul yn Croeso Cynnes bellach na Dai ar yr organ chwaith!

2/04 Noson Gwis y Savoy
Diolch i Sied y Dynion am enwebu Croeso Cynnes fel elusen Cwis y Savoy ac aeth criw ohonom draw – ond heb lawer o lwyddiant. Yn wir, roeddem yn ymddangos yn hynod o dwp! Ond fe gawsom £45 o elw’r cwis a’r dynion wedi cyfrannu £45 arall. Diolch iddynt eto.
Many thanks to the Men’s Shed for nominating Croeso Cynnes for the proceeds of the quiz and for matching the sum pound for pound – your support is much appreciated.

5/04 Gwasanaeth y Pasg
Roedd cynnwys ein gwasanaeth ar fore Sul y Pasg eleni yn seiliedig ar gyfres o luniau gan artist o’r enw Jeremy Thomas sy’n arddangos ei waith yn Y Fenni. Bu Beti-Wyn a Iona yn gweld ei arddangosfa – The Human One – Yr Un Dynol – y llynedd. Felly, diolch iddyn nhw am gael benthyg y llyfryn. Mae’n dilyn hanes yr Iesu yn yr Efengylau. Mae’r mwyafrif o’r lluniau’n cynnwys 30 darn o arian yn rhywle yn y lluniau – weithiau yn guddiedig yn y dafnau o law, yn y sêr neu yn llewyrch y goleuni, a hynny’n adlais o bob darn a dalwyd i Jwdas am fradychu Iesu. Yn ei gyflwyniad fe ddywed bod y lliw aur wedi’i neilltuo ar gyfer y dwyfol yng Nghrist. Dyma ei lun yn cyfleu’r Swper olaf.
Our Easter Sunday Service was based on a series of paintings by the artist Jeremy Thomas and 20 members took part in narrating the Easter story. The picture below depicts the Last Supper.

Diolch i’r 20 a gymerodd ran a chafwyd cynulleidfa dda.

12/04 Oedfa aelodau
Cafwyd oedfa arall o dan arweiniad yr aelodau ar y thema : ‘Chwi yw halen y ddaear.’
Halen yn rhyfeddod: Ni yng Nghrist a Christ ynom ninnau.
Mae’r gwasanaeth ar y wefan gyda gwasanaethau eraill gan aelodau.
You are the salt of the earth… was the theme of this Service.
17/04 Sioe Ffasiynau Duet a Lan Lofft
Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol a phawb wedi mwynhau gan lwyddo i godi’r swm o £1550 ar gyfer elusen Llywydd Merched y Wawr sef Ymchwil Cancr Cymru gan ddiolch i bawb a gynorthwyodd ar y noson a diolch yn arbennig i Bethan Picton Davies am ein cefnogi.
Diolch i Eileen a Beti-Wyn am lywyddu, i Lilwen am y trefniannau blodau hyfryd, i Ann ac Eirwen am weini diodydd – ac wrth gwrs i’r modelau!
The event was a great success, raising the amazing sum of £1550 for Cancer Research Wales.





24/04 Tiwtor y dosbarth Cymraeg
Edrychwch pwy oedd ar Pnawn da heddi! Neb llai na David ein tiwtor Cymraeg a llongyfarchiadau iddo ar raddio gyda gradd meistr yn y Gymraeg yn yr haf.

26/04 Te Prynhawn
Gan fod oedfa prynhawn gyda ni o dan arweiniad y Parch Ddr Euros Jones Evans penderfynwyd cael te pnawn i ddilyn i ddathlu pen blwyddi arbennig ambell ddiacon!
Dymuniadau gorau iddynt.

Rhaghysbys!
