Roeddem mor ffodus o gael Cynwyl i gofnodi pob cam o’r daith gyda’i gamera ac fe ymwelodd â’r capel yn wythnosol a thynnu cannoedd o luniau o bob ongl posibl. Detholiad fechan ohonynt geir yma. Buom yn ffodus yn ein hadeiladydd hefyd sef Rhydian Phillips a’i frawd Rhys yn ddiacon, yn grefftwr o saer ac yn meddu ar amynedd Job ac wedi cyflawni ei waith yn ddi-dâl.
Dechreuwyd ar y gwaith ddechrau mis Hydref 2023 gyda lluniau cyntaf o dynnu’r festri ar led a thynnu seddi’r capel. Roedd rhaid gorchuddio’r oriel a’r organ. Ym mis Tachwedd codwyd blociau pren y llawr – dros 5 mil ohonynt a phob un ohonynt wedi’u gorchuddio ȃ thar y bu’n rhaid ei dynnu’n ofalus gyda chryn amynedd. Yna daeth y jac codi baw bychan i godi’r llawr pridd a oedd oddi tanynt cyn i’r lori sment arllwys y concrid a gosod damp course o amgylch yr adeilad. Roedd peth o lawr pren y set fawr a’r pulpud wedi pydru – diolch na chwympodd yr un pregethwr!
Yna daeth plymiwr a thrydanwr i osod gwres dan y llawr cyn i haenen arall o ddeunydd gael ei chwistrellu dros y pibau plastig trwchus. Dechreuwyd gosod cypyrddau’r gegin ac yn y cyfamser codwyd sgaffaldau i ddechrau tynnu hen blastr oddi ar wal allanol un ochr. Cyflawnwyd hyn oll erbyn y Nadolig.
Gyda dechrau’r flwyddyn dechreuwyd ail osod y blociau pren ar y llawr – am jigso! Yr unig ofyniad gan y pensaer oedd i gadw’r rhai ar y ddwy eil ond llwyddwyd i osod y cyfan – rhyfeddol! Canol y mis daeth cwmni ag enghreifftiau o gadeiriau i’r aelodau ddewis ohonynt. Gyda chymorth grant o gronfa Pantyfedwen bu modd i ni ddewis y rhai gorau ac ysgafnaf.
Bu modd defnyddio llawer o’r hen bren i’w osod o amgylch rhan isaf y waliau a gosod rhai o’r seddi o amgylch y capel ac erbyn mis Chwefror roedd Rhys wedi gwneud 6 ffenest fawr newydd i’w gosod. Yna daeth y rheiddiaduron haearn smart. Defnyddiwyd dwy hen sedd i greu cornel eistedd yn y festri a’r rheini’n creu canllaw cadarn ar gyfer y ramp ar gyfer rhai anabl.
Erbyn diwedd mis Mawrth roedd pethe’n siapo! Paentio’r gegin a llawr gwaelod y capel, ail-polisho’r llawr. Daeth carped y pulpud a’r llwyfan a llawr i’r gegin ganol mis Ebrill a glaniodd yr organ newydd. Roedd yr hen organ yn darfod ond fe’i cedwir yn ei lle. Cafodd y pren i gyd ei drin rhag pryfed a bu’n rhaid cael cwmni glanhau i waredu’r holl lwch! Daeth y cadeiriau a’r byrddau bach crwn ddiwedd Ebrill mewn pryd i’r gwasanaeth cyntaf ar fore Sul cyntaf mis Mai. Edrychai braidd fel bistro!
Gosodwyd sgaffaldau ar gyfer paentio’r oriel a’r nenfwd dros fis Awst. Mae peth gwaith i’w wneud o hyd ond bydd yn rhaid i hynny aros am y tro. Mae’r stori i’w pharhau…