Awst 2026

1/08

Rhodd er cof am Mrs Gwen Thomas, Dolwerdd gynt

Derbyniwyd rhodd hael er cof am aelod annwyl iawn o’r capel ac rydym mor ddiolchgar iddi hi a’i theulu am gofio am y capel.

A generous donation received in memory of Mrs Gwen Thomas who was a much loved and respected member of the chapel.

5/08

Oedfa a Chymanfa Eisteddfod y Garreg Las.

Roedd yr oedfa yn arbennig gyda phwyslais ar heddwch a chyfiawnder ac arweinydd y Gymanfa, sef y postmon Daniel Rees, wedi sicrhau’r Gymanfa orau erioed! Os na fuoch yn Llantwd a heb gyfle i’w gwylio ar y teledu ceisiwch ddala lan â’r ddwy raglen.

6/08

Dolen Teifi

Dyma ambell lun o Annalyn yn manteisio ar wasanaeth Dolen Teifi i fynd â hi i apwyntiad ysbyty  – gwasanaeth y bu hi’n ei hyrwyddo gyda Tŷ Croeso. Diolch i’r holl wirfoddolwyr a drefnwyd ganddi.

Here is Annalyn taking advantage of the Dolen Teifi service to attend a hospital appointment – which she promoted so well. Many thanks to all volunteers.

8/08

Llongyfarchiadau Daniel!

Llongyfarchiadau lu iddo ar ennill ar y llefaru o’r Ysgrythur ac fel hyfforddwr parti Cerdd Dant.

What a successful Eisteddfod for one of our members. Congrats Daniel!

Cyflwyniad Cristnogaeth 21

Braint oedd rhannu hanes diweddar Bethlehem Newydd yn cynnwys gwaith arloesol Annalyn fel ein swyddog cymunedol dros y bum mlynedd diwethaf. Trefnwyd y sesiwn ym mhabell y Cymdeithasau gyda Cris Tomos a Hefin Wyn a’r Parch Gareth Ioan yn cadeirio.

The story of Bethlehem Newydd and the role of Annalyn as our Community Officer over the last 5 years was shared in a session on the second day of the Eisteddfod.

12/08

Cefnogaeth i’r Lloches

Braf oedd gweld yr isod ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn datgan y gwaith pwysig a gyflawnir gan yr elusen a gefnogir gennym yn enw Tŷ Croeso. 

So encouraging to see the data for 2025 achieved by the charity supported regularly by Tŷ Croeso. 

30/08

Oedfa Gymun

Cynhaliwyd oedfa gan edrych yn ôl dros ddatblygiadau’r capel dros y bum mlynedd diwethaf gan ystyried y ffordd ymlaen.

Dechreuwyd casglu nwyddau ymolchi a golchi i’r Lloches – bydd yr apêl yn parhau tan ddiwedd mis Medi. 

In our morning service we started our appeal for washing and cleaning items for the Refuge,

3 Rhaghysbys

Byddwn yn casglu dillad cyn gwasanaeth Codi Ni fore Sul cyntaf mis Hydref. Gweler y poster  isod am ddyddiadau casglu.

Bydd y sesiynau stori i’r plantos yn ail ddechrau bore Mercher, Medi’r 9fed.

Cynhaliwn fore coffi MacMillan yn ystod Croeso Cynnes bore Mawrth, Medi’r 29ain gan ddiolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.

Information below of a clothes collection, the story session for young children and our Macmillan coffee morning.