Gorffennaf 2026

5/07

Gwasanaeth ar Y Swper Olaf

Roedd y gwasanaeth cymun dan arweiniad yr aelodau yn seiliedig ar ddarlun Leonardo da Vinci  o’r Swper Olaf sydd ar wal y ffreutur ger yr Eglwys Gadeiriol ym Milan gan ystyried teimladau’r disgyblion wrth y bwrdd fel y portreadwyd hwy gan yr artist. Mae’r darlun yn ymddangos yn y ffilm a ryddhawyd yn ddiweddar sef The Devil Wears Prada 2 lle mae’r prif gymeriad, Miranda yn datgan wrth edrych ar y darlun  bod pobl yn ddynol, byth yn berffaith, yn wych ac yn ffaeledig a’u bod yn y diwedd yn twyllo, yn bradychu ac yn gadael ei gilydd i lawr.

The morning service was based on da Vinci’s  portrayal of the Last Supper on the refectory wall close to the Castello Sforzesco in Milan. The scene is prominent in the recent film starring Meryl Streep.

12/07

Sul Sbesial

Cynhaliwyd y Sul Sbesial yn Ysgol Griffith Jones eleni a daeth tyrfa dda i addoli ar y cyd. 

Rhian Evans oedd yn annerch a chryfder ei ffydd yn ein hysbrydoli. Yn y llun mae’n gwisgo sbectol arbennig sy’n disgrifio iddi ar lafar beth sydd i’w weld o’i blaen – rhyfeddol!

Roedd cyfeiliant y band  – yn cynnwys Anwen o Gibeon ar yr allweddellau a Daniel o Fethlehem ar y ffliwt – wedi bywiogi’r canu.

A dyma’r criw o’r ofalaeth fu’n gweini paned ar ddiwedd y prynhawn.

19/07

Pererindod

Aeth 25 o aelodau’r ofalaeth a chapel Tabernacl Hendy Gwyn i Eglwys Teilo Sant, Llandeilo i ymuno â’r oedfa foreol. Roedd yn amhosibl tynnu llun ohonom gan fod  y gynulleidfa  mor luosog oherwydd bod gwasanaeth bedydd yno’r bore hwnnw. Er hynny, cawsom ein croesawu gan Rhian Morgan, yr actores sydd wedi’i hyfforddi i fod yn arweinydd addoliad a chael cyfle i weld yr arddangosfa o Efengylau Llandeilo o’r 8fed ganrif dros baned. Yna cawsom fwynhau cinio hyfryd yn y Plough, Rhosmaen.

Our annual pilgrimage with Tabernacle Chapel, Whitland was to St Teilo’s Church, Llandeilo followed by lunch in the Plough,Rhosmaen.

26/07

Gwasanaeth awyr agored Gibeon

Dyna brofiad hyfryd oedd cael gwasanaeth dan arweiniad aelodau Gibeon a Bethlehem Newydd ym maes parcio’r capel. Diolch i Iona am drefnu’r oedfa yn dathlu cyfoeth ein diwylliant ar drothwy Eisteddfod y Garreg Las. Cyn mwynhau picnic fe gerddon ni lan at olion bryngaer Geltaidd o Oes yr Haearn ar fferm Bron-y-Gaer uwchlaw’r capel. Roedd yr olygfa odidog yn ymestyn at fynyddoedd y Preseli a Bannau Brycheiniog i ddau gyfeiriad ac i lawr at yr arfordir a hynny wrth i ni ganu ‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod…’

A memorable service in Gibeon chapel’s car park before  climbing to the Iron Age fort above at Bron-y-Gaer to enjoy the marvellous views – followed by a picnic.

Rhaghysbys

Ni chynhelir oedfa  am dri dydd Sul ym mis Awst gan obeithio gall nifer fynychu’r oedfa yn yr Eisteddfod ar Awst 5ed. 

Cynhelir oedfa gymun ar fore Sul, Awst 30ain.

Ym mhabell Cymdeithasau 1 mae sesiwn wedi’i threfnu gan Cristnogaeth 21 lle byddwn yn rhannu hanes diweddar Gofalaeth Bethlehem Newydd.