Mai 2026

Gwasanaethau Suliau mis Mai

Ar Fai’r ail daeth Parch Robin Samuel atom i weinyddu’r cymun ar Sul cyntaf y mis; yna Tudur Dylan, Catrin Isaac Thomas a’r Parch John Gwilym Jones ar Sul ola’r mis. Diolch iddynt.

Hwb Undeb yr Annibynwyr 05,12,19/05

Cynhaliwyd 3 chyfarfod ar Zoom o’r Hwb yn y capel ar dair nos Fawrth a daeth nifer fawr iddyn nhw!  Y cyntaf am weinyddu eglwys, yr ail am gynnal cwrdd eglwys a’r trydydd ar rôl y diaconiaid – cymaint a 38 yno!!

3 Zoom meetings met as a hub for chapels in the area.

14/05

Cwrdd Chwarter Gibeon

Tro Gibeon oedd hi i groesawu’r Cwrdd Chwarter a Llywydd yr Undeb, y Parch Owain Llyr Evans oedd yn annerch yng nghyfarfod yr hwyr. Diolch i bawb a gyfrannodd at y trefniadau ac at y lluniaeth rhwng y ddau gyfarfod – a diolch yn arbennig i’r ieuenctid a roddodd gyflwyniad arbennig ar ddechrau oedfa’r hwyr gan ddiolch i Beti- Wyn a Iona am drefnu hynny.

17/05

Croesawu gofalaeth Casblaidd

Daeth 17 o aelodau Casblaidd i ymuno yn ein gwasanaeth a gyflwynwyd gan 20 o aelodau ar Lyfr yr Actau a hanes Steffan y merthyr cyntaf.

17 members from Wolfscastle joined us for our morning service.

 18/05

Erthygl yn Golwg

Ymddangosodd enw Bethlehem mewn erthygl am hanes Moslemiaid yng Nghymru.

Bethlehem Chapel was mentioned in a magazine article about a book on Muslims in Wales, as our cemetery contains the first known Muslim grave in the country.

19/05

Casgliad i’r Lloches

Ers tua mis buon ni’n casglu nwyddau glanhau, golchi ac ymolchi a daeth aelodau Casblaidd â’u cyfraniadau hefyd. Diolch i Wendy am ddod i’w casglu.

We responded once again to a request from the refuge by collecting cleaning, washing, and toiletry items over the past few weeks. Many thanks to everyone who contributed, including our visitors from Wolfscastle.

19/05

Bore coffi a stondinau i elusen Jay C Trust

Roedd hi’n fore prysur dros ben yn Croeso Cynnes a drefnwyd gan y criw crefft, aelodau o Sefydliad y Merched a gwirfoddolwyr y capel. Roedd y stondinau cacennau a chrefft yn werth eu gweld a llwyddwyd i godi’r swm rhyfeddol o £978 – a’r capel yn ei wneud yn £1000 o gyfraniad i’r Ymddiriedolaeth sy’n cefnogi rhai  yn byw gyda Glioblastoma a’u teuluoedd.

A heartfelt thank you to everyone who baked, crafted, worked hard, donated raffle prizes, or supported the event in any way. Special thanks to Sue, Audrey, Janet, and Lynette for leading this outstanding effort in support of a worthy charity that helps people living with glioblastoma and their families.

20/05 Llythyr o ddiolch

Derbyniwyd llythyr o ddiolch gan fudiad Merched y Wawr am ein cyfraniad o £1500 tuag at yr ymgyrch i godi arian i Ymchwil Cancr Cymru o dan arweiniad brwdfrydig y Llywydd, Bethan Picton Davies a’i Positifrwydd Pinc. Llwyddwyd i godi ychydig dros £36,000 hyd yn hyn er mis Medi y llynedd.

A letter of appreciation received for our contribution of £1500 to Cancer Research Wales from the proceeds of the fashion show held last month.

27/05

Bore Hwyl

Gan ei bod yn hanner tymor cynhaliodd y Fenter Iaith fore o chwarae anniben, crefft  a mwy, ynghyd â’r amser stori a chân arferol.

Rhaghysbys!

Dewch i gefnogi ein cyngerdd i godi arian tuag at apêl Cymorth Cristnogol.

Please come to support this event to raise funds for the 2026 Christian Aid appeal – it will be a bilingual concert.

A rhaghysbys arall:

A Community focus Group session held by Dyfed-Powys Police at Bethlehem, Friday, June 12th 12.00-3.30.