Tŷ Croeso
Tŷ Duw a thŷ’r bobl
Tŷ clyd sy’n cynnig croeso
Canolfan i’r Gymuned.
Derbyniodd Bethlehem Newydd gymhorthdal Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 2021, a arweiniodd at sefydlu Tŷ Croeso fel canolfan gymunedol ac elusennol. Ers hynny mae Tŷ Croeso wedi datblygu’n rhan bwysig o fywyd Bethlehem Newydd, gan gynnal gweithgareddau a mentrau sy’n dod â phobl at ei gilydd ac yn cefnogi’r gymuned leol.


Gweithgareddau cymunedol yn Nhŷ Croeso
Mae Tŷ Croeso yn ganolfan gymunedol ac elusennol o fewn Bethlehem Newydd, gan gynnig lle croesawgar ar gyfer gweithgareddau, digwyddiadau a mentrau lleol. Ei nod yw dod â phobl at ei gilydd, cefnogi’r gymuned a chreu cyfleoedd i bobl gymryd rhan.