Digwyddiadau

Ein bwriad yw bod yn hwb i weithgareddau Cymraeg a chynhaliwyd dwy gyngerdd ers ailagor y capel – y gyntaf ym mis Mehefin gyda Cleif Harpwood a Geraint Cynan a’r ail ddechrau mis Hydref gyda Delwyn Siôn a Myfyr Isaac.

Digwyddiadau i Ddod

Nos Lun, Tachwedd 18 am 7 o’r gloch. Mynediad am ddim gyda chasgliad tuag at Ffynhonnau Byw sef Apêl Undeb y Annibynwyr. Dyma eich cyfle olaf i glywed Lleuwen yn ardaloedd y de. Dewch i fwynhau noson wefreiddiol a fydd yn aros yn y cof. Croeso i bawb.

Digwyddiadau o’r Gorffennol

Bore coffi MacMillan a chodwyd £900