Y Capel

Adeiladwyd capel Bethlehem yn 1765, ei ehangu yn 1785 a’i adnewyddu yn 1833 a gosod seddi newydd yn 1871. Cafodd ei adnewyddu unwaith yn rhagor yn 1909. Wrth gwrs roedd y gynulleidfa yn bodoli cyn hynny yn cwrdd i addoli mewn tai ac adeiladau ffermydd lleol. Yn dilyn y cynnydd yn nifer yr addolwyr dros y canrifoedd daeth cyfnod o ddirywiad yn ail hanner yr ugeinfed ganrif a phery hynny yn yr unfed ganrif ar hugain. Serch hynny penodwyd Swyddog Cymunedol yn 2021 a sefydlu Tŷ Croeso i gynrychioli’r gweithgaredd a ddeilliodd o hynny. Ariannwyd y penodiad gan gronfa Buddsoddi ac Arloesi Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Creodd hyn fywyd newydd a newid yng nghyfeiriad gweithgaredd y capel gyda degau o wirfoddolwyr.

Yn 2023 dechreuwyd ar y gwaith o adnewyddu y capel unwaith yn rhagor. Agorwyd y capel wedi ei weddnewid ym mis Mai 2024. Y newid mwyaf oedd creu gofod aml bwrpas yng nghorff y capel. Mae hyn wedi caniatáu ystod o weithgareddau. Pwrcaswyd cadeiriau newydd yn dilyn cymhorthdal gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen a chafwyd cefnogaeth ariannol pellach gan Gronfeydd  Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a Chymunedau Cynaliadwy. Erys yr adeilad yn addoldy yn bennaf ond mae’r drysau wedi eu hagor led y pen i estyn croeso i’r gymuned ac ymateb i’w hanghenion.

Un o’r digwyddiadau rhyfeddaf yn hanes y capel yw bod y fynwent yn fangre i fedd yn dilyn y claddu Mwslimaidd cyntaf yng Nghymru a gofnodir yn 1893.

Hanes rhyfeddol yn cynnwys ystod eang a chyfoethog o weithgareddau sy’n greiddiol i fywyd y gymuned ac yn parhau i esblygu. Mae’r ofalaeth bresennol cyn cynnwys Bethlehem Newydd a Gibeon, Bancyfelin sy’n hyfyw yn dilyn gwerthiant Capel Mair Sanclêr ac Elim Llanddowror.

The chapel was renovated several times since it was first built in 1765. Our latest attempt to modernise the building to meet present requirements has now been completed and the chapel re-opened May 2024. It remains  primarily a place of worship but following the appoinment of a Community Officer, financed by a grant from the Welsh Union of Independents, it has also been developed as a community hub with the support of volunteers. A grant for furniture was received from  the Pantyfedwen Trust and further financial aid from the U.K Shared Prosperity  Grant and Sustainable Communities Grant.

The history of the chapel includes the First Muslim burial in Wales as well as a centre for a wealth of activities at the core of the community which continues to evolve. The present partnership consists of Bethlehem Newydd and Gibeon Bancyfelin which has been made viable following the sale of Capel Mair St Clears and Elim Llanddowror.