Mehefin 26ain

26/06/2026

Gyfeillion,

Isod gweler llythyr ymddiswyddiad Annalyn ar ddiwedd cyfnod o bum mlynedd fel Swyddog Cymunedol a ariannwyd trwy gymhorthdal Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr ac fy ymateb iddo ar ran Bethlehem Newydd. Rydym i gyd yn gwerthfawrogi’r gwaith aruthrol a gyflawnodd Annalyn. Cyflwynodd weledigaeth a brwdfrydedd i’n gobeithion wrth ei chyflogi. Bydd cyfle i ymuno i ddiolch iddi bore dydd Mawrth nesaf – felly dewch i Groeso Cynnes. Mae Annalyn yn  gobeithio medru dod erbyn 11.00 ond os na fydd yn bosibl gall ymuno gyda ni  trwy wyrthiau technoleg, ar y sgriniau. Diolch i Ceri, ein Swyddog Technegol newydd am ein galluogi ni i wneud hyn os bydd angen. Mae Ceri wedi cael ei gyflogi trwy gymhorthdal Cefnogi Cyfle Undeb yr Annibynwyr am dair blynedd.

                                   Melinycoed

                                       Bancyfelin

                                    Caerfyrddin

                                       Sir Gaerfyrddin

                                     SA33 5ND

                                      01:06:26

Cyf: Swyddog Cymunedol

Annwyl Rhodri, y Pwyllgor Rheoli a Diaconiaid Bethlehem Newydd.

Yn dilyn sgwrs a gefais gyda Rhodri ar Fehefin 1af, cyflwynaf fy ymddiswyddiad yn ffurfiol, o’m swydd fel Swyddog Cymunedol.

Oherwydd problemau iechyd parhaus a dirywiad pellach yn ddiweddar, yr wyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymddiswyddo o’m swydd. Fel a drafodais gyda Rhodri, mis o rybudd, gyda’r cyfnod felly yn dechrau o Fehefin y 1af, 2026. Fy niwrnod olaf o gyflogaeth fydd Mehefin 30ain 2026.

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb am y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gefais yn ystod y cyfnod. Mae wirioneddol wedi bod yn fraint a phleser i arwain y datblygiadau arloesol a blaengar sydd wedi cymryd  lle ym Methlehem Newydd yn sgîl Tŷ Croeso, dros yn agos i bum mlynedd.

Trosglwyddaf y cyfan o Fehefin 30ain i chi, er mwyn parhau ac adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi’u gosod.

Pob dymuniad da ar gyfer y dyfodol, a phob bendith ar y gwaith.

Yn gywir,

Annalyn

Annwyl Annalyn

Diolch am dy lythyr. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn dy ymdrechion dros y bum mlynedd diwethaf. Ar lawer ystyr roedd yn anffodus bod dy anhwylder wedi amharu ar flwyddyn olaf dy gytundeb ond roedd y gwaith wedi’i gyflawni a’r gwaddol yn hynod o gyfoethog. Mae’r fenter wedi llwyddo ymhell y tu hwnt i’n disgwyliadau. Gobeithiwn y bydd modd iti gadw cysylltiad â’r gweithgareddau a chyfrannu fel bydd dy iechyd yn caniatáu.

Diolch o galon am dy frwdfrydedd a’th ymroddiad sydd wedi bod ysbrydoliaeth inni i gyd ac a fydd yn ein harwain wrth greu dilyniant i’r hyn a gyflwyniad.

                                        Pob bendith,

                                               RGT

Cyhoeddiadau:

Bore Sul Mehefin 28ain: Arwel Evans

Gorffennaf 5ed: Oedfa Aelodau

Gorffennaf 12fed: Sul Sbesial – BN a Gibeon sy’n gyfrifol am ddarparu paned.