Mehefin 12 fed
12/06/2026
Gyfeillion
Roedd yr oedfa y Sul diwethaf i fod yn arbrawf er mwyn gweld beth fyddai’r rhwystrau wrth geisio ei ffilmio. Yn syfrdanol aeth y cyfan yn rhyfeddol o dda. ‘One take’ fyddai’r disgrifiad yn y cylchoedd proffesiynol. Doedd dim angen poeni – roedd hyn i gyd yn rhwydd iawn. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a wnaeth eu gwaith yn ardderchog. Diolch yn arbennig i Ceri a sicrhaodd fod popeth yn ei le a’r cyfan wedi ei gyflawni’n llwyddiannus.
Ond o fewn dim cawsom ein hatgoffa nad yw hi cweit mor rhwydd â hynny. Wrth inni gynnig cartref i’r Hwb nos Fawrth methwyd â throi y ddau sgrin teledu ymlaen a bu’n rhaid dibynnu ar y gliniadur yn unig. Yn yr un modd gyda’r dosbarth Cymraeg dydd Mercher doedd dim ‘signal’ i’w gael. Bu’n rhaid troi at arbenigedd Ceri unwaith yn rhagor a chanfod mai mater syml o wasgu un botwm oedd angen i unioni’r broblem. Bydd y ddau sgrin yn gweithio’n iawn dydd Sul nesaf fel roedden nhw dydd Sul diwethaf – neu ydy hynny yn temtio ffawd yn ormodol!
Mae’n ddiddorol bod proses mor gymhleth yn gallu bod yn ddibynnol ar un weithred fach ddi-nod. Ond ymhell cyn dyfodiad y dechnoleg diweddaraf cawsom ein rhybuddio o hyn. Yn y 12fed bennod o’i lythyr cyntaf at y Corinthiaid mae’r Apostol Paul yn disgrifio gweithrediad y corff. Mae na aelodau hanfodol o’r corff – rhai o’r organau mwyaf cymhleth – ond hefyd mae aelodau digon di-nod sy’n cael eu cymryd yn ganiataol. Dadl yr Apostol Paul yw fod y corff yr un mor ddibynnol ar yr aelodau di-nod a’r rhai mwyaf sylweddol a chymhleth. Er bod yr Apostol Paul yn ddyn galluog a gwybodus doedd ganddo ddim arbenigedd meddygol hyd y gwn i! Mynegi gwirionedd syml oedd e bod y corff fel pob uned arall yn ddibynnol ar bob elfen, y mwyaf a’r lleiaf, i gyd-weithio er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu yn llwyddiannus. Darllenwch y dadansoddiad – 1af Corinthiaid 12: 12-27.
Nid sôn am y gwahaniaeth rhwng y ganrif gyntaf a’r unfed ganrif a’r hugain rydym ond yn hytrach gwirionedd sylfaenol nad yw holl ddatblygiadau gwyddonol a meddygol y ddynoliaeth yn ei danseilio. Mae’r pethau lleiaf a mwyaf di-nod yn gallu tanseilio ein hymdrechion a’n bwriadau. Mae angen bod yn wyliadwrus ac ni ellir cymryd dim yn ganiataol.
Diolch i bawb a fynychodd cyfarfodydd yr Hwb. Mae’n dda cael adrodd taw Hwb Bethlehem Newydd oedd y mwyaf llewyrchus o lawer iawn. Yn anffodus nid oeddwn yn gallu bod yn bresennol nos Fawrth diwethaf ond clywais ei fod yn sesiwn ddiddorol a defnyddiol heblaw am fethiant y sgriniau wrth gwrs! Mae oddeutu cant wedi mynychu’r cyfarfodydd hyn ym Methlehem Newydd yn barod (ac un i ddod) ond a yw cynnal chwech yn olynol gyda dim ond wythnos o seibiant yn y canol yn gofyn gormod ohonom? Gadewch imi wybod er mwyn cael adrodd yn ôl. Mae’r sesiwn olaf nos Fawrth nesaf ar Weinidogaeth Tîm o dan arweiniad Peniel a Bwlchycorn yn argoeli’n ddiddorol a pherthnasol i ni ym Methlehem Newydd.
Cyhoeddiadau:
Mehefin 14eg: Dafydd Evans ym Methlehem Newydd.
Mehefin 16eg: Yr Hwb ym Methlehem Newydd am 7.00yh
Mehefin 21ain: Oedfa Aelodau yng Ngibeon.
Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo gyda threfniadau’r gyngerdd nos Wener diwethaf yn enwedig ar gyfer y wledd o luniaeth a baratowyd ar gyfer yr artistiaid. Cawsom gyngerdd ardderchog a llwyddwyd i godi £800 i’w gyfrannu at Apêl Cymorth Cristnogol 2026.
