Mawrth 6ed
6/03/2026
Gyfeillion
Roedd hi’n Ddiwrnod y Llyfr wythnos yma. Diwrnod i blant wisgo fel eu hoff gymeriadau a gwerthfawrogi’r llyfrau sydd wedi eu hysbrydoli. Yn y dyddiau hyn sy’n frith o deganau a thechnoleg mae’n dda gweld llyfrau a’u dylanwad yn cael eu cydnabod. Dw i’n darllen cofiant Aled Eirug o Dafydd Elis-Thomas – ‘ Nation Builder’ ar hyn o bryd. Llyfr sydd wedi ei sgwennu yn gywrain a’r gwrthrych yn enigma charismataidd. Mae na ryw gymaint o eilun addoliad ynddo ond yn werth ei ddarllen.
Roeddwn i’n cyfeirio y Sul diwethaf at Griffith Jones a’i Ysgolion Cylchynol. Gwnaeth gyfraniad unigryw a syfrdanol. Rhwng 1730 a 1761 trawsnewidiodd Gorllewin Cymru o fod yn rhanbarth lle roedd y Cymry Cymraeg i bob pwrpas yn anllythrennog i fod y mwyaf darllengar yn Ewrop. Gellid dadlau mai dim ond darllen y Beibl a wnaent ond roeddent yn ei ddarllen a’i ddeall.
Pan ddechreuais i’n y weinidogaeth roedd hi’n arferiad, yn enwedig wrth ymweld ag aelwyd mewn galar, i ofyn i’r Gweinidog ddarllen o Feibl y teulu. Erbyn hyn er mwyn gwneud hynny byddai’n rhaid chwilota ac yna o’i ganfod sychu y llwch oddi arno. Rwyf ar hyn o bryd yn gwaredu llyfrau di-angen ac os oes unrhyw un am gopi o Feibl Peter Price mae gen i dri ar gael yn rhad ac am ddim. Maen nhw heb eu defnyddio fel cynifer o’r lleill sydd ar eu ffordd allan.
Darllen y We y mae’r mwyafrif ohonom erbyn hyn. Ond allwn ni fod yn sicr bod yr hyn sydd yno yn gywir? Gallai’r unigolion a fynychai Ysgolion Cylchynol Griffith Jones ddarllen eu Beibl yn sicr mai Gair Duw ydoedd. Gallwch ei ddehongli fel y mynnwch a dadlau pwy a ysgrifennodd beth – ond Gair Duw yw e. Yn bwysicach na dim dyw AI ddim yn gallu ei gymylu na’i weddnewid.
Diolch byth bod arwyddion bod ein plant yn troi yn ôl at ddarllen llyfrau. Trueni nad oedd cenhedlaeth eu rhieni wedi gwneud hynny ddegawdau yn ôl. Y gobaith yw y byddant yn parhau i wneud hynny i’r dyfodol. Hwyrach y byddwn nhw yn troi at y llyfr sy wedi ac yn gwerthu mwy nag unrhyw un arall yn y byd – ie dyna chi – y Beibl.
Cyhoeddiadau:
Heno yng nghapel Cana: Cwrdd Gweddi’r Byd am 7.00
Bore Sul , Mawrth 8fed: Lyndon Lloyd
Mawrth 12fed: Cwrdd Chwarter yng nghapel y Graig, Trelech: 10.30 a 1.30. Darperir cinio rhwng y ddau gyfarfod.
Mawrth 15fed: Oedfa Gibeon gyda’r bobl ifanc ac aelodau yn cymryd rhan.
Nos Sul, Mawrth 22ain am 6.00: Cymanfa dathlu 300 mlwyddiant Capel Heol Awst.
Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y Noson Gawl a Chân – codwyd swm sylweddol i Alzheimer’s Cymru.
Diolch hefyd i bawb a gyfrannodd at Apêl diweddar y Lloches – Trosglwyddwyd pentwr o ddillad gwely a swm o £214. Derbyniwyd llythyr gan reolydd y Lloches yn gwerthfawrogi ein cefnogaeth iddynt yn fawr.
Cofiwch: BBC yn recordio Talwrn y Beirdd nos Fawrth, Mawrth 24ain.
Hefyd mae tocynnau’r Sioe Ffasiynau nos Wener Ebrill 17eg ar werth! Yr elw at Ymchwil Cancr yng Nghymru.