Mawrth 27ain
27/03/2026
Gyfeillion
Fe fydd yn Sul y Blodau dydd Sul. Wel, a bod yn fanwl gywir, Sul y Blodau neu Sul y Palmwydd. Yn sicr cofnodi gorymdaith Iesu i mewn i Jerwsalem yw’r bwriad ac felly mae ei gynnal ar y Sul cyn y Pasg yn gwbl briodol ac o ran hynny y cyfeiriad at Balmwydd. Wedi’r cyfan gyda phalmwydd y croesawyd y Crist fel brenin ac Arglwydd i’r ddinas.
Mae Sul y Blodau yn draddodiadol yn cofnodi’r arfer o deuluoedd yn mynd at fedd neu feddau y teulu i’w tacluso ac i osod blodau arnynt. Gweithred o barch a choffadwriaeth am anwyliaid sydd bellach wedi ein gadael. Cofnodi hefyd eu cyfraniad at ein bywydau ni a’n dyled iddynt.
Traddodiad sy’n perthyn i Gymru ac i Anghydffurfiaeth yw gosod blodau ar feddau ar y Sul arbennig yma. Gellir ei olrhain yn ôl i’r ddeunawfed ganrif a hwyrach hyd yn oed ynghynt. Ond tybed a yw wedi goroesi? Gallwch daro draw i’r fynwent cyn neu ar ôl yr oedfa fore Sul i weld faint o feddau sydd wedi eu haddurno a’u tacluso! Nid beirniadu yw’r bwriad – mae amgylchiadau pawb yn wahanol. Dydw i, er enghraifft, ddim yn gallu mynd at fedd fy rhieni i gyflawni’r ddefod. Dw i’n dibynnu ar fy nghyfnither i wneud ar fy rhan. Dim ond nodi’r ffaith bod yr arfer wedi prinhau ydw i.
Os ewch chi i ambell fynwent ar y cyfandir mae’r arferiad yn llawer mwy lliwgar. Ceir beddau yn y fan honno sy’n cynnwys llun o’r ymadawedig a phob math o ychwanegiadau i’w haddurno. Dw i ddim yn siŵr a oes na air Cymraeg sy’n llawn cyfieithu ‘ornate’ yn y cyd-destun yma ond dyna sy gen i dan sylw.
Mae’n arfer i osod adnod neu eiriau priodol ar y bedd. Ambell waith mae englyn wedi ei ysgrifennu a’i osod yno. Yn ôl pob hanes nid yw pob un yn ganmoliaethus nac ychwaith yn gwblhau chwaethus. Rhaid holi eraill am hynny – dydy crwydro mynwentydd yn nodi’r pethau hyn ddim yn arfer gen i – ond wedi dweud hynny mae e’n arferiad cwbl Gymreig ac wedi datblygu i fod yn boblogaidd.
Y cwestiwn sylfaenol roeddwn i am ei godi, cyn imi ddechrau crwydro yn ormodol, oedd sut ydym ni yn parchu a chydnabod ein cyn-dadau a sut mae hynny wedi ei gysylltu â Sul y Blodau ac â Iesu yn gorymdeithio i mewn i Jerwsalem- a hyd yn oed ymateb y dorf?
Dw i ddim yn gwybod yr ateb yn llawn fy hunan heb sôn am awgrymu ei fod yn berthnasol i bawb – ond mae e’n rhywbeth i’w ystyried ar y Sul arbennig yma!
Cyhoeddiadau:
Bore Sul: Elonwy Phillips – a chofiwch mai dyma’r cyfle olaf i gyfrannu Wyau Pasg.
Bore Sul y Pasg: Gwasanaeth dan arweiniad aelodau a gweinyddir y Cymun
Ebrill 12fed: Nid yw’r Parch Irfon Roberts yn medru gwasanaethu a’r oedfa yn y prynhawn yn nôl yr Adroddiad – felly fe’i newidir i’r bore.