Mawrth 20fed

20/03/2026

Gyfeillion

Mae’r adnod sy’n datgan ‘lle bo dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i yno yr wyf innau hefyd’ wedi cael ei defnyddio dro ar ôl tro i esgusodi ein cyflwr fel Eglwysi y dyddiau hyn. Mae’n ymddangos fel petaem ar adegau yn awgrymu bod rhyw rinwedd mewn bod yn gynulleidfa fach o ddau neu dri. Yn ddiweddar cyhoeddodd pregethwr oedd ar ymweliad â ni ei bod yn fraint iddo bregethu i gynulleidfa o dri y Sul blaenorol.

Wrth inni symud ar ein taith i weddnewid natur yr Eglwys yma ym Methlehem Newydd awgrymwyd imi taw’r cam nesaf y gallem ystyried oedd cyfuno gydag Eglwysi cyfagos i greu gofalaeth a allai gyflogi gweinidog gan fod rheini yn brin yn ngorllewin Caerfyrddin. Fy ymateb i oedd nad prinder gweinidogion oedd y broblem ond gormod o gapeli.

Roedd yn braf ymweld â Gibeon dydd Sul diwethaf a chael ein hatgoffa bod yr Eglwys honno yn cynnig rhywbeth gwahanol a rhai agweddau o addoliad nad ydynt ar gael ym Methlehem Newydd. Yn gyntaf roedd ieuenctid yn arwain yr oedfa – cynnyrch yr Ysgol Sul sy’n cynnig egni i’r oedfa a gostwng cyfartaledd oedran y gynulleidfa yn sylweddol. Yr elfen arall oedd anerchiad Beti-Wyn. Cyflwynodd neges bwysig yn effeithiol a graenus yn ôl ei harfer. Mae Gibeon yn ffodus iawn o’i chyfraniad ond o bosib yn or-ddibynnol arni. Tybed a oes na rywun ym Methlehem Newydd yn fodlon rhoi tro ar drefnu gwasanaeth?  Bydd angen i rywun wneud cyn bo hir!

Mae rhinweddau i gynulleidfaoedd mawr neu bach, hen neu Ifanc a hyd yn oed talentog neu beidio. Y cwestiwn sylfaenol yw a ydym yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym. Mae Duw yn bresennol lle bo ei bobl yn weithgar yn ei Enw boed yn un neu ddau neu gant a mwy. Dyna ein cyfrifoldeb a’n braint –  gweithredu yn enw Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.

Cyhoeddiadau:

Bore Sul: Gwasanaeth dan arweiniad Nigel Davies.

Nos Sul: Cymanfa dathlu 300 mlwyddiant Capel Heol Awst am 6.00

Croeso Cynnes bore dydd Mawrth: Bydd côr o blant Ysgol Griffith Jones yn canu am 11.00.

Nos Fawrth: Recordio Talwrn y Beirdd – i ddechrau’n brydlon am 7.00. Mae angen cynulleidfa felly ceisiwch ddod!

Bore Sul, Mawrth 29ain: Elonwy Phillips – a’r cyfle olaf i gyfrannu at yr apêl am wyau Pasg**

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i:

  • Huw Glynderi ar ddathlu pen blwydd arbennig heddiw.
  • Mair a Jim ar ddathlu Priodas Ddiemwnt – 60 ml – dydd Iau nesaf, ar y 26ain.