Mawrth 13eg
13/03/2026
Gyfeillion
Sonnir yn aml am ddysgu o’r gorffennol er mwyn deall gofynion y presennol a chaniatáu i brofiadau’r presennol ein paratoi ar gyfer cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ond fel gyda chynifer o ystrydebau mae’n cynrychioli gwirionedd sylfaenol. Mae angen y broses hon ar addoldai er mwyn goroesi. Buom ychydig yn hwyr yn symud i’r ail gam ond rydym wedi llwyddo i wneud hynny. Mae’r adeilad yn wahanol a’r hyn sy’n digwydd o fewn y muriau yn newydd.
Rydym yn ffarwelio ar hyn o bryd ag un a fu’n ganolog i’r daith o’r gorffennol i’r presennol. Bu’r daith honno yn ddigon poenus i lawer ond yn fwy felly i Les Evans na’r rhelyw. Les Bach ydoedd i’r mwyafrif ohonom. Nid oherwydd ei ddiffyg taldra gan fod hynny yn gyffredin i lawer iawn ohonom. Disgrifiad o’i gymeriad oedd y ‘bach’ – dyn annwyl a charedig ac i lawer ohonom, cyfaill cadarn a dibynadwy. Doedd gan neb air cas i’w ddweud am Les. Dyn y bobl ydoedd yn estyn cyfarchiad llawen i’w gydnabod a dieithriaid.
Dyn traddodiadol oedd ar lawer ystyr. Doedd e ddim wedi newid rhyw lawer yn yr hanner can mlynedd roeddwn i wedi ei nabod. Ychydig yn fwy araf ei gerddediad a thrwm ei glyw erbyn hyn ond yr un yn y bôn. Traddodiadol oedd e yn ei grefydd hefyd. Gŵr y Gair a’r Gân ydoedd o ran addoliad. Gwrandäwr heb ei ail a pharch ganddo at unrhyw gennad a gwerthfawrogiad o’i genadwri. Fe oedd yr ysgrifennydd a’r cyhoeddwr yng Nghapel Mair a phan fyddai galw ef hefyd oedd yn cynnal yr oedfa. Go brin bod unrhyw un wedi gwneud mwy o ddefnydd o’r Llawlyfr Gweddïo blynyddol.
Y gân oedd agosaf at ei galon. Roedd yn manteisio ar bob cyfle i arfer ei ddawn. Canai mewn corau ac roedd yn Godwr Canu a chonglfaen y Gymanfa Ganu wrth reddf gyda’i lais tenor cyfoethog. Yr oedd yn cael yr un mwynhad o ganu yn y galeri mewn capel llawn a chynnal y gân gyda dau neu dri o ffyddloniaid. Bu’n addoli yng Nghapel Mair gydol ei oes ac roedd yn ymfalchïo yn y traddodiad hwnnw a’r cyfrifoldeb o’i gynnal hyd y gallai. Cam anodd oedd ymuno â’r addoliad ym Methlehem Newydd iddo a’r euogrwydd a deimlai wrth gloi y drws am y tro olaf.
Doedd y ‘pethau modern’ ddim yn apelio ato yn naturiol. Rheidrwydd oedd y newid yn hytrach na dewis. Eto i gyd gallem ddibynnu arno. Roedd Les Bach yn gawr yn ein plith a mawr fydd y bwlch ar ei ôl. Go brin y daw unrhyw un i lenwi y gwacter ond gallwn geisio cynnal y traddodiad a’i esblygu er cof amdano.
Mae’r elw o’r Noson Gawl Gŵyl Dewi bellach yn £665 ar gyfer Alzheimer’s Cymru – newyddion gwych unwaith yn rhagor a gwaith ychwanegol i’r Trysorydd a’r Ysgrifennydd Ariannol. Erbyn hyn mae derbyniadau a throsglwyddiadau ariannol yn digwydd yn ddyddiol. Fe ellir gweld tystiolaeth o hyn yn yr Adroddiad Blynyddol sy’n cael ei ddosbarthu ar hyn o bryd. Mae’r gwaith o baratoi Adroddiad, ei lywio trwy’r wasg a’i ddosbarthu yn gyfrifoldeb enfawr. Gobeithio ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad gwirfoddol Rhian a Rhys i weithgaredd y capel. Diolch o galon iddynt.
Cyhoeddiadau:
Bore Sul y 15fed – Gwasanaeth yng nghapel Gibeon dan arweiniad y bobl ifanc ac aelodau.
Mawrth 22ain: Nigel Davies yn BN.
Cymanfa dathlu tri chanmlwyddiant Heol Awst am 6.00 yr hwyr.
Mawrth 24ain: Recordio Talwrn y Beirdd – dewch i gefnogi ogydd.
** Byddwn yn casglu wyau Pasg rhwng nawr a diwedd mis Mawrth i’r
Lloches ac ambell gartref arall lleol.**
Mae Annalyn yn amcangyfrif y bydd angen 86 i ddiwallu’r gofyn eleni.
Hefyd os oes gennych offer cegin sbâr megis sosbenni mae eu hangen ar y Lloches.