Mai 8fed

8/05/2026

Gyfeillion

Cawsom oedfa gymun hyfryd y Sul diwethaf dan arweiniad y Parch Robin Samuel. Thema’r oedfa oedd y gair Groeg Kairios – wna i ddim defnyddio y sillafiad Groegaidd neu fe fydda i wedi mwydro pennau pawb gan gynnwys fy un i. Ystyr traddodiadol y gair oedd yr amser tyngedfennol. Erbyn hyn mae’r ystyr wedi esblygu i amser neu dywydd ond yr ystyr gwreiddiol oedd gan Robin dan sylw. Mae hi’n amser tyngedfennol ar lawer ystyr ac i bawb. Amser tyngedfennol i ystyried dyfodol yr amgylchedd, tlodi y gwledydd llai datblygedig, gormes pwerau y byd, newyn cyfandiroedd cyfan a llu o argyfyngau ar lefel cenedlaethol a chymunedol. Mae na ddywediad yn Saesneg ‘ last chance saloon’ nad ydw i’n siŵr sut i’w gyfieithu yn llythrennol ond mae’r ystyr yn glir – y Cyfle Olaf!

Cyn dechrau am y cwrdd sylwais bod Robin yn gwisgo tei ac fe’i rhybuddiais mai ef o bosib fyddai’r unig un i wneud hynny. Yn rhyfedd ddigon roedd ambell un yn y gynulleidfa yn gwisgo tei. Ond roedd y rhan fwyaf ohonom wedi rhoi heibio yr arfer. Nid bod unrhyw beth yn bod â gwisgo tei! Yr hyn sy gen i dan sylw yw nad oedd unrhyw un yn teimlo ei bod yn rheidrwydd gwisgo tei. Yn yr un modd doedd y rhan fwyaf ohonom ddim yn gwisgo siwt a doedd na ddim het yn agos at y lle. Bellach does na ddim iwnifform swyddogol i fynd i’r capel. Hynny yw mae addoliad yn rhan naturiol o’n bywydau beunyddiol.

Dyna neges un o hanesion mwyaf adnabyddus y Testament Newydd – y Samariad Trugarog. Darllenwch eto – Luc 10: 25-37. Pa gymeriad ydym ni yn uniaethu ag e? Nid gofyn ydw i pwy hoffem ni ymdebygu iddo ond pwy sydd yn ein cynrychioli ni? Yn cynrychioli ein hagwedd ni at ambell sefyllfa – ambell gyfle – ambell ddewis.

Mae na arwyddion ein bod yn newid ein hagwedd at ein ffydd – ei fod yn fater o weithredu yn ogystal â chredu. Nad yw aelodaeth o gapel yn fater o wisgo dillad parch ond yn hytrach ei weithredu yn ein cymuned – bod yn gymydog! Dyna wnaethom ni trwy benodi Swyddog Cymunedol – dyna mae pob un sy’n gwirfoddoli i’n gweithgareddau cymunedol yn ei wneud. Gallwn ei wneud yn gwisgo tei neu het hyd yn oed neu mewn dillad anffurfiol. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn ei wneud. Y cwestiwn oedd ‘pwy oedd ei gymydog?’ nid pwy oedd yn parchu’r drefn.

Dw i ddim am awgrymu nad yw parch yn bwysig. Ond y cwestiwn perthnasol erbyn hyn yw cwestiwn Iago – Beth yw gwerth ffydd heb weithredoedd? Rydym wedi dechrau ar y daith – gallwn longyfarch ein hunain am hynny. Mae’r gweithgareddau cymunedol wedi llwyddo ymhell y tu hwnt i’n disgwyliadau ond – ac mae hyn yn ond go fawr. Mae’r sialens yn enfawr – yn fwy nag y gallwn ni obeithio ei gyflawni. Mae’n rhaid inni ymdrechu i wneud hynny.

Mae hi’n Kairios – yn amser tyngedfennol. Mae’r her yn enfawr a’r gweithwyr yn brin – ond mae’n dyngedfennol!

Cyhoeddiadau

Dydd Sul, Mai 10fed: Oedfa am 2.00 dan arweiniad Tudur Dylan – sylwch ar yr amser**

Hefyd – Oedfa bwnc Gibeon am 1.30

Bore Sul, Mai 17eg: Ymweliad gofalaeth Casblaidd a gwasanaeth dan arweiniad aelodau.

Nos Fawrth y 12fed; Ail gyfarfod yr Hwb: Y testun y tro hwn fydd Cynnal Cwrdd Eglwys. Daeth cynulleidfa dda i’r cyfarfod diwethaf ond yn anffodus mae nifer o alwadau eraill yn gwrthdaro’r wythnos hon felly byddem yn dra diolchgar pe byddai rhai sy’n rhydd i ddod yn mynychu’r cyfarfod.

Dydd Iau, Mai 14eg: Cynhelir Cwrdd Chwarter yng nghapel Gibeon: Oedfaon am 4.00 a 7.00. Pregethir yng nghyfarfod yr hwyr gan lywydd Undeb yr Annibynwyr, y Parch Owain Llyr Evans.

Darperir lluniaeth rhwng y ddwy oedfa.

Bydd yr apêl am nwyddau ymolchi a glanhau i’r Lloches yn parhau tan wythnos i’r Sul, sef Mai’r 17eg.

Cofiwch hefyd am yr angen i werthu tocynnau i’r gyngerdd ar nos Wener, Mehefin 5ed a’r elw i Gymorth Cristnogol.