Mai 29ain
29/05.2026
Gyfeillion,
Mae hi’n braf iawn ar Ynys Môn. Dw i ddim cweit ar faes yr Eisteddfod yr Urdd ond yn hytrach yn y cyffiniau. Dw i fel eraill sy llawer pellach o’r maes yn ddibynnol ar ddarllediadau S4C i gael cipolwg ar y cystadlu. Rhyfeddod technoleg yn caniatáu i filoedd na all fynychu’r maes i fod y rhan o’r dathliad blynyddol. Os nad ydych am eistedd o flaen set deledu mae pob math o declynnau yn eich galluogi i gadw mewn cysylltiad â’r gweithgareddau. Rhyfeddodau dathliad blynyddol unigryw – Gŵyl Ieuenctid mwyaf Ewrop. Llongyfarchiadau i’r trefnwyr ac wrth gwrs y rhai fu wrthi’n cystadlu.
Dw i’n ddigon hen i gofio’r pebyll yn Llangrannog a’r gweithgareddau ar lyn y Bala na fyddai rheolau iechyd a diogelwch yn eu caniatáu bellach. Ond roedden nhw’n ddyddiau da o ben rhyddid. Gweithgareddau oedd wedi esblygu’n rhyfeddol o weledigaeth Syr Ifan ab Owen Edwards. Gallwn fod yn sicr o un peth bydd gweithgareddau’r Urdd yma mewn trigain mlynedd arall. Ond wyddom ni ddim ar ba ffurf a bydd angen addasu i ddulliau newydd o gyfleu’r weledigaeth.
Fe sefydlwyd yr achos ym Methlehem Pwll Trap nôl yn 1765. Byddai rhai yn dadlau bod dyddiau gorau yr Eglwys wedi mynd heibio a bellach ein bod yn ymladd dros ein bodolaeth. Yr esboniad amlwg wrth gwrs yw ein bod wedi methu addasu i wynebu’r sialens o oroesi ac esblygu. Wrth gwrs mae’r heriau yn ddiddiwedd ac yn dod o bob cyfeiriad. Ond y cwestiwn sylfaenol yw a ydy’r weledigaeth yn ddigon pwysig i’w gwarchod a’n bod ni yn ddigon dewr i fentro i’w chynnal a’i chadw.
Byddai Cymru a’r cyfleoedd i’n hieuenctid tipyn tlotach heb yr Urdd -shwd siâp fydd ar ein bywydau ni a’n cymunedau heb ein capeli!
Cyhoeddiadau:
Mai 31ain: Parch John Gwilym Jones ym Methlehem Newydd.
Nos Fawrth: Hwb yr Undeb yn y capel am 7.00 gyda Gwilym Jeffs: Cynllunio’n Cenhadaeth.
Nos Wener am 7.30: Cyngerdd Côr Meibion Hendy Gwyn a’r ardal gyda Daniel O’Callaghan a’r llywydd, Ann Davies A.S.
Mehefin 7fed: Gwasanaeth aelodau yn parhau â Llyfr yr Actau gyda thröedigaeth Paul.