Mai 22ain
22/05/2026
Gyfeillion,
‘Ni all dyfroedd y gorffennol droi’r felin.’
Dw i ddim yn siŵr am darddiad y dywediad. A bod yn onest dw i ddim yn gwbl sicr ei fod yn bodoli. Serch hynny, mae’n digwydd cyfleu yr hyn sy gen i’w rannu gyda chi yn dilyn trafodaethau’r Hwb dros y tair wythnos diwethaf. Diolch yn fawr i’r rhai hynny ohonoch a fynychodd y cyfarfodydd Zoom – llawer iawn yn fwy nag unrhyw ganolfan arall trwy Gymru!
Trafodwyd rhai o gonglfeini traddodiad yr Annibynwyr. Rydym felly yn ddyledus i’r trefnwyr a’r traddodwyr. Fel pob Eglwys mae ein sefyllfa ni yn unigryw. Mae pawb yn gwneud yr hyn sydd ei angen yn eu ffordd eu hunain. Felly, fy meirniadaeth fyddai bod y cyfraniadau yn cyffredinoli ac yn gyfundrefnol. Hanfod yr Annibynwyr yw yr eglwysi sy’n sofran ac yn perthyn i enwad ffederal. Felly, o fewn rheswm, mae pob capel a gofalaeth yn rhydd i ddilyn ei lwybr ei hunan.
Roedd y cyfarfod cyntaf yn ymwneud â gweinyddiaeth. Hanfod gweinyddiaeth effeithiol yw ei fod yn caniatáu inni ganolbwyntio ar weithgareddau’r capel. Yn syml mae gennym ni ddau gorff sy’n gyfrifol am weinyddu. Mae’r diaconiaid yn gyfrifol am yr adeiladau, y fynwent a’r maes parcio ac yn bwysicach na dim arall yr addoliad. Ar y llaw arall mae’r Pwyllgor Rheoli yn gyfrifol am y gweithgareddau beunyddiol yn y gofod a grëwyd yn y capel. Mae’r naill a’r llall yn cyflawni swyddogaeth holl bwysig ac nid yw un yn bwysicach na’r llall – yr hyn sy’n hanfodol yw eu bod yn cydweithio.
Testun yr ail drafodaeth oedd y Cwrdd Eglwys. Dyma sylfaen ein bodolaeth – mae popeth yn ddarostyngedig i benderfyniadau’r Cwrdd Eglwys. Rhaid cynnal o leiaf un yn flynyddol ac yna cyfathrebu yr hyn a drafodwyd ac a benderfynwyd yn effeithiol. Y prif gyfryngau i hyn yw’r Adroddiad Blynyddol a’r cylchlythyr wythnosol. Dyma ddyfyniad o neges a gyflwynwyd yn y naill a’r llall ar droad y flwyddyn – golwg yn ôl ac ymlaen a chofnod o’r presennol.
“Buom yn ddigon ffodus i dderbyn cymhorthdal gan Undeb yr Annibynwyr yn 2021 i benodi Swyddog Cymunedol. Roeddem yn hynod o ffodus bod Annalyn ar gael i dderbyn y swydd ac i ymgymryd â’r dyletswyddau. Mae’n siŵr gen i y byddech i gyd yn cytuno i’r penodiad brofi’n llwyddiant di-amheuol ac i’r ystod o weithgareddau a ddeilliodd o hynny ein rhyfeddu i gyd.
Roedd cymhorthdal Arloesi a Buddsoddi Undeb yr Annibynwyr o bum deg mil o bunnoedd dros bum mlynedd, sef, deg mil o bunnoedd y flwyddyn, yn ein galluogi i wneud y penodiad ac roedd y newidiadau i’r adeilad yn cynnig cartref naturiol i’r gweithgareddau. Ond bydd angen ystyried yr isod dros y misoedd nesaf gan fod cytundeb Annalyn fel Swyddog Cymunedol yn dirwyn i ben ddiwedd mis Awst 2026.
.
- Beth yw’r dyfodol? Sut ydych chi’n credu y dylem ddechrau paratoi ar gyfer hynny? Rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau dilyniant. Dewiswyd diaconiaid newydd i gynorthwyo gyda’r gwaith o weinyddu’r capel a sefydlwyd Pwyllgor Rheoli i fod yn gyfrifol am y defnydd o’r adeilad ar gyfer y gweithgareddau cymunedol newydd.
- Mae gennym gyfle i gyflwyno cais newydd ar gyfer o gronfa Cefnogi Cyfle yn 2026. Bydd yn rhaid i’r cais hwnnw fod yn wahanol i’r hyn a gyflwynwyd yn 2021. Bydd y gronfa yn cynnig swm o chwedeg mil o bunnoedd dros dair blynedd, hynny yw, ugain mil o bunnoedd y flwyddyn i gyflawni gweithgaredd newydd, gwahanol ac arloesol.
- Yn fy marn i mae gennym fwlch mawr mewn sgiliau digidol o fewn yr aelodaeth ac mae’r sgiliau hynny yn mynd i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol hyfyw i’r capel. Amgrymaf felly ein bod yn gwneud cais am Swyddog Digidol a fydd yn:
- Datblygu elfennau digidol yn ein haddoliad ac elfennau eraill o weithgaredd y capel.
- Gweithredu’n genhadol.
3. Datblygu sgiliau digidol yr aelodau.
4. Sicrhau bod gan yr aelodau a defnyddwyr y capel y cyfle i ddatblygu sgiliau sylfaenol a fydd yn caniatáu iddynt fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol ac ariannol a’u diogelu rhag sgamiau.
- Nid yw’n fwriad gennym i wneud ceisiadau am symiau ariannol sylweddol yn y dyfodol – mae’n broses feichus sy’n mynd â chryn amser ac amynedd.
- Credaf fod gennym bellach y strwythurau a’r adnoddau i gynnal gwaith yr ofalaeth gan wirfoddolwyr. Byddwn felly yn awgrymu mai’r nod yw peidio cyflogi unrhyw un ag eithro Swyddog Digidol pe baem yn ddigon ffodus i dderbyn y cymhorthdal Buddsoddi ac Arloesi.
Byddaf yn cyflwyno yr uchod ger eich bron yn y Cwrdd Eglwys dydd Sul. Byddem yn gwerthfawrogi eich barn a sylwadau ar yr uchod, er nid dydd Sul o reidrwydd! Wedi ystyried eich ymateb bydd y diaconiaid yn gosod cynnig ffurfiol ger eich bron wedi inni gynnal trafodaethau gydag Undeb yr Annibynwyr.
Rydym wedi Arloesi a llwyddo ond mae angen mentro eto os ydym am oroesi – dyna her ar gyfer y flwyddyn newydd!
Cofiwch yr adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym yw ein gwirfoddolwyr ac mae’n rhaid inni eich canmol a’ch gwerthfawrogi.”
Dau gorff sy’n orfodol ar gyfer pob capel yw diaconiaid ac ymddiriedolwyr. Dyma gynnwys y drydedd ddarlith. Mae modd cael sawl ffurf o ddiaconiaid a sawl teitl arnynt ond mae eu hangen. Nid yn unig mae eu hangen ma eisie iddyn nhw wneud job o waith. Yr ymddiriedolwyr yn gyfreithiol sydd yn gyfrifol am asedau y capel a hwy yn unig sydd â’r cyfrifoldeb i ddwyn yr achos i ben. Un ffordd yn unig sydd i’w penodi a hynny trwy eu cofrestru’n gyfreithiol.
Mae’r uchod yn ffordd braidd yn hirwyntog o ddweud ein bod gwneud y cyfan sy’n ofynnol ond yn ein ffordd ein hunan. Dull sy’n digwydd ein siwtio ni gan ein bod yn ystyried ein hunain yn deulu yn hytrach na sefydliad.
Cyhoeddiadau:
Bore Sul y 24ain: Catrin Isaac ym Methlehem Newydd ac nid yn Gibeon fel sydd yn yr Adroddiad.
Mai 31ain: Parch John Gwilym Jones
Dosbarthwyd pentwr o nwyddau i’r Lloches yr wythnos hon a diolch yn fawr am eich cyfraniadau. Cyfrannwyd llawer hefyd gan ein hymwelwyr o Gasblaidd y Sul diwethaf.
Codwyd swm rhyfeddol o £978 yn y bore coffi yn Croeso Cynnes bore dydd Mawrth i’r J C Trust sy’n cefnogi rhai yn cael triniaeth at gancr Gliobastoma a’u teuluoedd a bydd y capel yn cyfrannu i godi’r swm i £1000. Diolchwn i’r rhai a’i drefnodd o’r criw crefft, Sefydliad y Merched a’r nifer a gynorthwyodd o’r capel.
Cofiwch am y gyngerdd nos Wener Mehefin 5ed i godi arian at gasgliad Cymorth Cristnogol. – dewch ag arian y tocynnau a werthwyd eisoes os yn bosibl bore Sul.