Mai 1af

1/05/2026

Gyfeillion

Roedd y Sul diwethaf wedi ei ddynodi yn ddiwrnod pontio’r cenedlaethau. Mae’r egwyddor o bontio yn weddol glir – estyn allan o’r naill at y llall a cheisio eu dwyn at ei gilydd neu o leiaf sicrhau eu bod yn gallu cyd-weithio a deall ei gilydd. Nid tasg rhwydd mo hynny bob tro. Ond beth yn union yw ystyr cenhedlaeth? Mae’n debyg bod y term Saesneg ‘generation’ yn fwy cyfarwydd. A ydych felly yn defnyddio cenhedlaeth i ddisgrifio cyfnod o amser neu grŵp o bobl. Yr hyn sy’n gyffredin yw ein bod yn perthyn i’r naill a’r llall.

Dyma restr o’r cenedlaethau a’r teitlau a roddir iddynt:

1946-1964(Baby Boomers)

1965-1980( Gen X)

Millennials(1981-1996)

Gen Z(1997-2012)

Gen Alpha(2013-2025)

Gen Beta(2025-)

Mae’n debyg y gallaf fentro dweud bod y mwyafrif ohonom yn Baby Boomers. Yr hyn sy’n gyffredin rhyngom felly yw fod na lot fawr ohonom – mwy na’r cenedlaethau eraill! Heblaw rhifau y gwahaniaeth rhwng y cenedlaethau yw profiadau a dylanwadau a’r rheini yn amrywio o genhedlaeth i genhedlaeth. Dyw hyn ddim yn golygu bod pawb sy’n perthyn i genhedlaeth arbennig yn debyg i’w gilydd ond yn hytrach eu bod yn rhannu yr un dylanwadau.

Mae hefyd, yn golygu yn gyffredinol, bod gwahaniaeth rhwng y cenedlaethau. Hwyrach ei fod hefyd yn esbonio pam mae tensiynau yn datblygu ar adegau rhyngom â’n plant. Yn wir mae’n rhwyddach, weithiau, i neidio cenhedlaeth a magu perthynas heb densiynau â’n hwyrion! Ond yr esboniad, mae’n debyg, yw ein bod yn fwy goddefgar yn ein perthynas â hwy!

Ta beth, cyn imi grwydro yn rhy bell, yr hyn roeddwn i am drafod oedd profiad yr Atgyfodiad. Wedi’r cyfan mae’r profiad hwnnw wedi goroesi y cenedlaethau ac yn wir y canrifoedd. Rydym yn dal i’w ddathlu ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Nid yw pawb yn dathlu yn yr un ffordd ond mae’r profiad a’r dylanwad sy’n cael ei greu gan y digwyddiad yr un heddiw ag ydoedd i’r disgyblion.

Y peth cyntaf i’w nodi yw mai Cristnogaeth yw’r grefydd fwyaf poblogaidd yn y byd – er bod hyn yn anodd i’w amgyffred inni yng Nghymru. Mae 75% o boblogaeth y byd yn grefyddol a 28.5% o’r rheini yn Gristnogion. Mae hynny yn gyfystyr â thua 3 biliwn o bobl. Mae rhain yn bobl sydd wedi esblygu o wahanol gefndiroedd a dylanwadau ond gyda un peth yn gyffredin, sef, cred yn y Crist atgyfodedig.

Y neges yw bod angen inni fel Cristnogion geisio deall yr amrywiadau ymhlith traddodiadau Cristnogol y byd a phontio rhyngom â chredinwyr eraill a’r di-gred er y gall hynny fod yn heriol. Dyna mae’n siŵr gen i yw ystyr pontio!

Cyhoeddiadau

Bore Sul: Y Parch Robin Samuel a gweinyddir y Cymun

Nos Fawrth  nesa cynhelir y cyfarfod cyntaf o HWB Undeb yr Annibynwyr am 7.00yh ym Methlehem. Testun y cyfarfod hwnnw yw gweinyddu eglwys. Gobeithio bydd rhai ohonoch yn medru bod yn bresennol. Hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o 6 sesiwn.

Mai 10fed: Tudur Dylan – am 2.00 y prynhawn**

Mai 17eg: Ymweliad gofalaeth Casblaidd a gwasanaeth dan arweiniad aelodau.

Yn hytrach na chasgliad dewch â nwyddau ymolchi / golchi a glanhau i’r Lloches os medrwch chi os gwelwch yn dda.

Bydd tocynnau Cyngerdd Côr Meibion Hendy Gwyn a’r Cylch ar gael bore Sul – yr elw tuag at Apêl Cymorth Cristnogol eleni – I’w gynnal nos Wener, Mehefin 5ed am 7.30.