Hydref 2ail
Gyfeillion,
Does unman i ddechrau’r neges hon ond trwy gofio gyda diolch am Annalyn a’i chyfraniad a’i gwaddol. Rydym yn tristau o’i cholli wedi gwaeledd creulon a ddaeth i’w chymryd oddi wrthym mor fuan. Wrth gwrs y ffordd orau o’i chofio yw parhau â’r gwaith a ddechreuodd hi gyda’r fath frwdfrydedd, yn troi’r capel o fod yn sefydliad oedd yn gwasanaethu ei hun i estyn allan i’r gymuned ac agor drysau gan wahodd pob un oedd yn dymuno i ddod atom.
Annalyn – ‘Gofynnwch a chwi a gewch.’
Fel rhan o’r cynllun i ail lunio Gofalaeth Annibynwyr Cylch San Clêr er mwyn wynebu her y dyfodol gwerthwyd dau gapel a chanoli yr addoliad ym Methlehem Newydd. Y cam nesaf oedd buddsoddi arian y gwerthiant yn y gwaith o weddnewid y capel a’i wneud yn hygyrch ar gyfer y gymuned. Y cwestiwn oedd sut? Cafwyd cymhorthdal gan Undeb Annibynwyr Cymru i benodi Swyddog Cymunedol. Y cwestiwn wedyn oedd pwy?
Yn rhyfedd ddigon roedd y person delfrydol yn ein plith. Penodwyd Annalyn.
Y cwestiwn nesaf oedd sut i gyflawni’r weledigaeth? Tra roedd y gweddill ohonom yn synfyfyrio aeth Annalyn ati fel corwynt. Roedd hi’n berson cyhoeddus ac ymysg pethau eraill roedd hi’n gynghorydd tref ac yn ei thro yn Faer. Roedd hyn yn agor y drws i gysylltu â llu o fudiadau ac unigolion. Yn ddiarwybod roedd grwpiau cymunedol ac unigolion wedi cael eu tynnu i mewn i weithgareddau cymunedol y capel. Yn yr un modd trwy ei chenhadaeth fel pregethwr cynorthwyol roedd yn ymweld â chapeli yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro a chynnig y cyfle iddyn nhw ymuno â gwaith cymunedol Bethlehem Newydd.
Sefydlwyd yr egwyddor o’r cychwyn na fydden ni’n ceisio cyflawni unrhyw weithgaredd oedd eisoes yn cael ei gyflawni gan eraill ond yn hytrach cefnogi eu hymdrechion hwy. Cyfrannwyd miloedd o bunnoedd a thunelli o ddefnyddiau i wahanol achosion. Canfuwyd bod rhai mudiadau nad oedd yn derbyn unrhyw nawdd, megis lloches y gwragedd, a phenderfynwyd eu mabwysiadu gan ymateb i unrhyw gais ganddynt.
Ei chyfraniad mwyaf oedd sefydlu Tŷ Croeso – estyn Croeso i bob un ymuno yn yr amrywiol weithgareddau oedd yn cael eu cynnal yn feunyddiol. Canolbwynt y gweithgareddau oedd Croeso Cynnes pan roedd hyd at hanner cant o bobl yn dod ynghyd i gymdeithasu dros baned ar fore Mawrth. Dihangfa a hafan i lawer a nifer ohonynt heb gysylltiad â’r capel. Fel dywedodd un – “Mae fy ffrindiau yn synnu pan rwy’n dweud i fy mod i’n mynd i’r capel bob wythnos.”
Beth oedd y gyfrinach dros lwyddiant yr holl weithgaredd yma? Fel y dywedodd wrthyf sawl gwaith – Os nad wyt ti’n gofyn chei di ddim byd. Roedd ganddi ddigon o hyfdra i ofyn i unrhyw un am unrhyw beth. Wedi’r cyfan roedd yr achos yn deilwng.
Ochr yn ochr â hyn bu’n gweithio’n ddiflino i gynnal ei hannwyl Gibeon gan ddilyn ei mam fel ysgrifenyddes. Roedd hefyd yn fawr ei gofal o’i theulu – ei harwr, sef ei thad David a theulu Mared ei merch a’i hwyresau annwyl. Bu hefyd yn gefn diflino i’w gŵr, Lyn yn ystod ei fywyd.
Mae mwy i’w ddweud ond yn bryd i dewi. Diolch amdani a heddwch i’w llwch.
Cyhoeddiadau:
Bore Sadwrn: Bydd y capel ar agor 10.00-12.00 eto i dderbyn dillad i Coda Ni.
Bore Sul, Hydref 4ydd: Gwasanaeth dan arweiniad criw Coda Ni – dewch yn llu i gefnogi’r oedfa arbennig hon a gweinyddir y Cymun.
Bore Sul, Hydref 11eg: Gwasanaeth dan arweiniad aelodau.
Diolch i bawb a gefnogodd fore coffi Macmillan ddydd Mawrth diwethaf mewn unrhyw fodd – llwyddwyd i godi’r swm anhygoel o £1008 hyd yn hyn!