Gorffennaf 17eg

17/07/2026

Gyfeillion,

Rai blynyddoedd yn ôl byddem yn holi ai rhamantu oedd y rhai hynny oedd yn cyfeirio at hafau pan oedd yr haul yn tywynnu am wythnosau. Hwyrach ein bod yn iawn i ofyn y cwestiwn hyd at eleni. Ond dyma ni yng nghanol haf crasboeth. Er bod rhai ohonom yn mwynhau yr haul (hwyrach yn ormodol) – ma sens i’w gael da bopeth. Bydde cawod neu ddwy yn dderbyniol iawn erbyn hyn a hynny gennym ni i gyd nid yn unig y garddwyr a’r amaethwyr. Pwy bellach all amau newid hinsawdd? Yn anffodus mae ambell un i’w gael!

Y gwirionedd na all unrhyw un (wel unrhyw un call) amau bod ein arferion meidrol ni nid yn unig yn herio a thanseilio trefn Duw ond y creu peryglon i’r cenedlaethau sy’n ein dilyn ni. Beth fydd ein gwaddol ni? A fydd ein plant a phlant ein plant yn diolch inni am yr hyn y maen nhw wedi etifeddu? 

Meddyliwch am gyngor doeth yr emynydd – dyma rai ohonynt o’r Caneuon Ffydd:

65, 79, 81, 97,130,160, 246 – a mwy a mwy. Chwiliwch a chwi a gewch!

Ond dyna fe – hen bethau amherthnasol yw emynau.

Ond gadewch inni fynd yn ôl ymhellach at y Diarhebion yn yr Hen Destament. 

Pennod 6: 6-8

6 Ti’r diogyn, edrych ar y morgrugyn;

astudia beth mae e’n ei wneud, a dysgu.

7 Does ganddo ddim arweinydd,

swyddog, na rheolwr,

8 ac eto mae’n mynd ati i gasglu bwyd yn yr haf,

a storio’r hyn sydd arno’i angen adeg y cynhaeaf.

Beth – so chi’n licio’r gymhariaeth gyda morgrugyn? 

Gallwch droi at Lyfr y Pregethwr hefyd: Pennod 3.

1 Mae amser wedi ei bennu i bopeth,

amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd:

Ond dyna fe does na ddim byd yn yr Hen Destament i’w ddweud wrthym ni yn yr unfed ganrif ar hugain!

Gadewch inni droi at y ganrif diwethaf at geidwaid y tir – yr Amaethwyr a rhybudd Dic Jones yn y gerdd Y Cynhaeaf a enillodd y Gadair yn Aberafan yn 1966:

Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu,

A chyw hen linach yn ei holynu,

A thra bo gaeaf bydd cynaeafu

A byw greadur tra bo gwerydu,

Bydd ffrwythlonder tra pery – haul a gwlith,

Yn wyn o wenith rhag ein newynu.

Yn olaf dyma eiriau un o broffwydi ein hoes ni – David Attenborough: – 

    “Cherish the natural world, because you’re a part of it and you depend on it.”

Digon o bregethu – dw i off i Sbaen i osgoi’r haul sy’n llosgi’r ddaear a’r croen.

Unrhyw ymholiadau yn ystod yr wythnos nesa cysylltwch ag un o’r diaconiaid os gwelwch yn dda.

Cyhoeddiadau:

Dydd Sul 19eg: Pererindod i Eglwys Llandeilo – y gwasanaeth yn dechrau am 11.00 a chinio yn dilyn am 12.45 yn Rhosmaen. 

Gorffennaf 26ain: Oedfa Gibeon – yn yr awyr agored – gwasanaeth am 10.30 a wac at olion y gaer Rhufeinig i’r rhai sydd am gerdded i weld yr olygfa. Dewch â chadair a phicnic gyda chi – byddwn yn yr ysgoldy os bydd y tywydd yn anffafriol.

Ni fydd gwasanaeth dechrau Awst – cyfle i fynychu’r oedfa yn yr Eisteddfod.oedfa yn yr Eisteddfod.