Ebrill 3ydd
3/04/2026
Gyfeillion
Cawsom fonolog rymus gan Elonwy Phillips y Sul diwethaf yn holi beth fyddai ein hymateb ni i’r orymdaith Meseianaidd i Jerusalem petaem yn y dyrfa oedd yn ei groesawu. Mae gosod ein hunain mewn cymeriad a wynebai’r sefyllfaoedd a’r penderfyniadau oedd yn eu hwynebu hwy yn ddull effeithiol iawn o ddod i adnabod cymeriad a deall yr hyn oedd yn greiddiol i’w hendid a’u gweithredoedd.
Mae’r wythnos yma yn cofnodi rhai o’r digwyddiadau pwysicaf yng ngweinidogaeth y Crist. Mae’n dechrau gyda’r Iesu yn cyrraedd Jerwsalem ar gefn ebol asyn ond yn cynnwys hefyd y Swper Olaf, bradychiad Jwdas, dwyn Iesu i’r ddalfa a’i draddodi i farwolaeth ynghyd â gwadu Pedr. Yn olaf cawn y ddau ddigwyddiad mwyaf dirdynnol – y croeshoeliad a chladdu’r corff cyn yr atgyfodiad. Ond mae’r digwyddiad rhyfeddol hwnnw yn mynd â ni i fewn i’r wythnos nesaf.
Gadewch inni aros gyda’r wythnos sanctaidd a gofyn y cwestiwn – petaem ni yn gymeriad yn y ddrama fawr sut byddem ni’n ymateb?
Rydym yn gwybod sut yr ymatebodd Simon Pedr – gyda gweithred dreisgar ac yna gwadu ei fod erioed wedi adnabod y Crist ac yn gwybod am weithred Jwdas yn bradychu Iesu a’i drosglwyddo i’r awdurdodau. Gweithredoedd annigonol ac anheilwng gan ddisgyblion Iesu – ond beth amdanom ni – p etaem mewn cymeriad ac yno ar y pryd- sut fyddem ni yn ymateb?
Fe wnaeth y cwestiwn hwnnw fy arwain at Dietrich Bonhoeffer am nifer o resymau. Yn gyntaf ei farwolaeth erchyll (crogi gan ddioddef am bum awr) a hynny am herio yr awdurdodau fel Cristion ond yn bennaf ei gyfrol bwysicaf “The Cost of Discipleship’ – ie dyna chi ein hymddygiad ni mewn cymeriad. Ar ben hynny i gyd roedd cyd-destun bywyd Bonhoeffer yn debyg iawn i ninnau – byd cythryblus a pheryglus ac os ga i fentro dweud ffigwr yr un mor fygythiol â Hitler, sef, Donald Trump.
Felly roedd y cwestiwn naturiol yn codi – sut ddylai disgyblion i Iesu ymddwyn hyd yn oed yn wyneb cosb. Ar ben hynny i gyd roedd rhywbeth yn dweud wrthyf ein bod yn dathlu rhyw agwedd neu gilydd o fywyd Bonhoeffer eleni. Ar ôl craffu canfyddais iddo farw ar y 9fed o Ebrill ac felly wythnos yn hwyrach na’r wythnos sydd dan sylw. Y flwyddyn oedd 1945 – dim byd yn cyfateb yn y fan honno chwaith. Ond fe aned e yn 1906 – cant ag ugain o flynyddoedd yn ôl ac mae hynny werth ei gofnodi a dweud y lleiaf.
Ond yr hyn sydd bwysicaf amdano yw ei ddewisiadau. Fe fu’n astudio yn America – gallai fod wedi aros yn y fan honno. Fe fu’n darlithio mewn gwahanol brifysgolion yn Ewrop – lle gallai fod wedi ymgartrefu. Roedd wedi dyweddïo â merch o deulu cyfoethog – gallen nhw fod wedi ei warchod.
Ond dewisodd ddychwelyd i’r Almaen ac amlygu ei hun yn y mudiadau oedd yn gwrthwynebu Natsïaeth. Roedd yn gyfrifol am ysgrifennu llenyddiaeth oedd yn herio’r awdurdodau a’r modd o ymdrin â lleiafrifoedd. Mae hyd yn oed awgrym ei fod â rhan yn y cynllwyn i lofruddio Hitler (ond dim tystiolaeth).
Cafodd ei grogi ar y 6ed o Chwefror 1945 cyn iddo gyrraedd deugain mlwydd oed. Ond erys ei lyfrau yn dystiolaeth i’w wrhydri. Beth yw cost bod yn ddisgybl i’r Crist heddiw? Beth a wnawn ni wrth ddathlu yr wythnos fawr – ei goleddu fel Bonhoeffer neu ei osgoi fel Jwdas a Pedr.
Ond hwyrach nad oes angen inni wneud safiad – hwyrach na fydd! Ond beth petai y dewis yn ein hwynebu – dyna ystyr bod mewn cymeriad! Beth fydden ni’n ei wneud?
Cyhoeddiadau
Sul nesaf: Oedfa bore dan arweiniad aelodau – yn wahanol i’r hyn sydd yn yr Adroddiad.
Ebrill 19eg: Oedfa Gibeon
Diolch i bawb a gyfrannodd at yr apêl wyau Pasg – trosglwyddwyd 96 i’r Lloches sydd hefyd â gofal am blant bregus yn y gymuned; a 36 i gartrefi Brookfield a Frondeg yn Sanclêr.