Chwefror 27ain

27/02/2026

Gyfeillion,

Gwnewch y pethau bychain…

Rydym ar drothwy Gŵyl ein nawddsant Dewi. Yn rhyfeddol, o ystyried pa mor greiddiol yw Dewi i hanes y genedl, y datganiad mwyaf cyffredin a briodolir iddo yw, “Gwnewch y pethau bychain”. Mae angen bod ychydig yn ofalus gydag union eiriad y dyfyniad gan fod amrywiadau. ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd a  welsoch ac a glywsoch gennyf i ,’ac yn y blaen – er eu bod i gyd yn cynnwys y gorchymyn hwnnw. Prif ffigwr hanes ein cenedl a gyflawnodd bethau rhyfeddol – y pethau gwirioneddol fawr yn ein cymell i wneud y pethau bychain.

Ond dyna’r allwedd i fodolaeth Dewi fel nawddsant – ei fod yn ein hysbrydoli i wneud y pethau bychain. Petai wedi galw arnom i gyflawni pethau enfawr, rhyfeddol a fyddai’n newid cwrs bywyd gallem esgusodi ein hunain – dyw’r adnoddau na’r amser ‘da ni. Ond pethau bychain – mae rheini o fewn cyrraedd bob un ohonom.

Un o’r rhai oedd yn sylfaenol i’r trawsnewidiad gwleidyddol mwyaf a welwyd yn ystod ein bywydau ni, sef, dileu apartheid yn Ne Affrica oedd Desmond Tutu. Cyfrinach ei lwyddiant oedd ei fod yn ŵr y pethau mawr  ac eto y gallai pobl deimlo bod ganddynt lawer yn gyffredin ag ef – bod modd iddynt uniaethu ag ef a’r hyn roedd yn ceisio’i gyflawni. Dyma a ddywedodd:

           “Tu cefn i bob Gandhi, pob Mam Teresa, pob Romero, pob Mandela,

                mae na filiynau o bobl yn byw bywydau o gariad ac arwriaeth.”

                                          (God has a Dream :Tud 115).

Dyma nhw ’r bobl gyffredin sy’n byw bywydau cyffredin ac yn gwneud y pethau bychain. Pobl di-nod ond pobl hanfodol. Gelwir arnynt i ddilyn yn hytrach nag arwain.

Cyfrwng i gyflawni hyn yw’r eglwys Gristnogol. Galw arnom i ddilyn y Crist, i fod yn ddisgyblion iddo, nid i gystadlu ag ef ond i wneud y pethau bychain a welsom ac a glywsom ganddo ef. Os ych chi am wybod beth yw rheini darllenwch adnodau agoriadol y pumed bennod o Efengyl Mathew. Datganiad cenhadol y Crist a’i alwad i’r bobl sydd am ei ddilyn. Galwad i gyfrannu at gyflawni y pethau mawr trwy wneud y pethau bychain.

Cyhoeddiadau:

Mawrth 1af: Gwasanaeth Gŵyl Dewi dan arweiniad aelodau a chymun. Gwneir casgliad i’r Lloches.

Mawrth 4ydd: Noson Gawl a Chân am 7.00yh gyda Bois y Frenni ** Cofiwch fod angen powlen a llwy arnoch!** Cyfrennir yr elw at Alzheimer’s Cymru.

Mawrth 8fed: Lyndon Lloyd

Mawrth 24ain: Recordio Talwrn y Beirdd – Dewch i gefnogi.