Chwefror 18fed
18.02.2025
Gyfeillion
Ar fy ffordd i Lundain i weld y diweddaraf o’r wyrion Macsen Jac Glyn-Jones. Mae Nadolig yn mynd i fod yn ddrutach eleni ‘to! Felly dyma anfon gair yn gynharach nag arfer.
Diolch i’r rhai ymatebodd i gylchlythyr yr wythnos diwethaf yn sôn am anerchiad fy nhad o Gadair Undeb yr Annibynwyr ym Mhenygroes yn 1968. Roeddwn innau wedi cael fy synnu gan yr argymhellion arloesol. Proffwydol, perthnasol i’r dyddiau hyn oedd sylw rhai ac un arall yn drist na chafodd gyfle i weithredu ar ei freuddwyd. Roedd wedi dechrau eu rhoi ar waith ond yn anffodus bu farw yn 1973. Gwerthwyd capel Queen Street oedd yng nghanol tref Wrecsam a threfnu adeiladu capel newydd aml bwrpas mewn lleoliad hwylus ar y cyrion.
Bu fy nhad yn gweithredu fel cyfuniad o syrfëwr a phensaer gan graffu ar bob manylyn i sicrhau bod yr adeilad newydd yn cyfateb i’w weledigaeth. Adeilad hylaw aml bwrpas, yn addas ar gyfer ystod o weithgareddau. Bu farw ychydig cyn agor yr adeilad newydd a chafodd yr angladd ei gynnal yn briodol ddigon yn yr hen gapel lle bu’n weinidog am chwarter canrif. Roedd wedi gosod y seiliau ac felly yn trosglwyddo yr awenau i’r genhedlaeth nesaf. Byddai wrth ei fodd i weld bod aelodau’r capel bellach wedi uno gyda Chapel y Groes i gynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn adeilad aml bwrpas. Mae’r capel hwnnw bellach yn cynnig cyfleoedd arloesol o addoli a gwasanaethau hanfodol yn y gymuned.
Byddai hefyd yn llawenhau o weld Undeb yr Annibynwyr wedi mentro i gefnogi arbrofi ystod o weithgareddau arloesol trwy gronfeydd Buddsoddi ac Arloesi ac erbyn hyn Ceisio Cyfle. Mae rhain wedi galluogi nifer o gapeli i gynnig amrywiaeth o weithgareddau cymunedol yn ôl y galw led led y wlad. Mae’n bwysig cofio bod eglwysi eraill yn arbofol ac arloesol gan gyflwyno gwasanaeth cymunedol gwahanol a thebyg inni yn ôl y galw.
Er mwyn cyflawni yr hyn wnaethom ym Methlehem Newydd bu’n rhaid datblygu mentrau newydd ar sail pedair egwyddor sylfaenol:
1. Creu gofod hylaw aml bwrpas.
2. Sicrhau cefnogaeth yr enwad yn ariannol i benodi y person priodol yn Swyddog Cymunedol.
3. Anelu ein gweithgareddau i fod yn uchelgeisiol ond hefyd yn ymarferol.
4. Denu criw ymroddgar a brwdfrydig o wirfoddolwyr.
Bydd angen cadw at yr un egwyddorion wrth symud i’r cam nesaf ar ein taith. Y nod yw creu eglwys ddigidol. Yn ogystal â’r egwyddorion sylfaenol mae angen dogn sylweddol o lwc. Tybed a oes na berson tebyg i Annalyn mas yna yn rhywle gyda’r sgiliau digidol angenrheidiol!
Beth os nad ydym yn cyrraedd y nod? Cofiwch – gwell mentro a methu na pheidio â mentro o gwbl. Wedi’r cyfan a lwyddodd yr Apostolion i gyflawni popeth oedd yn ddisgwyliedig wrth ymateb i alwadau Iesu?
Cyhoeddiadau:
Bore Sul nesaf: Mr Ryland Jones
Mawrth 1af: Gwasanaeth Gŵyl Dewi dan arweiniad aelodau – a chymun.
Derbyniodd Annalyn neges gan y Lloches – mae nifer o blant yno ac maen nhw’n brin iawn o ddillad gwelyau sengl. Felly os oes dillad gwely sbâr gennych byddwn yn eu derbyn dros y ddau ddydd Sul nesaf ac yn Croeso Cynnes. Byddwn hefyd yn casglu arian i’w drosglwyddo iddynt.
Noson Gawl a Chân nos Fercher, Mawrth 4ydd am 7.00yh:
– Mae’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu felly hyderwn y byddwn wedi codi
swm sylweddol at Alzheimer’s Cymru.
- Cofiwch ddod a phowlen a llwy gyda chi
- Rhowch wybod os medrwch wneud treiffl!! Mae angen ambell un eto.
Rhaghysbys: recordio Talwrn y Beirdd nos Fawrth, Mawrth 24ain am 7.00yh.