Chwefror 13eg
13/02/2026
Gyfeillion,
‘Y Chwalfa a’r Cychwyn’, oedd testun anerchiad fy nhad o Gadair Undeb yr Annibynwyr yn 1968. Fe ddes i ar ei draws wrth geisio gwaredu llyfrau a oedd bellach wedi goroesi eu defnyddioldeb. Mae hynny’n destun ar gyfer cylchlythyr arall rywbryd yn y dyfodol. Ta beth, dyma’r tro cyntaf imi ei ddarllen – doedd gen i fawr o ddiddordeb mewn pethau felly yn 1968!
Dyn y stydi oedd fy nhad – fe fyddai’n hala fwy o amser yn y fan honno na gweddill y tŷ. Fe allai fod yn ffraeth iawn ar yr adegau prin pan fyddai’n dewis a’i hiwmor yn dal sylw ac wedi ei amseru’n berffaith. Ond dyn yn byw wedi ei amgylchynu gan lyfrau oedd e – cannoedd ohonynt. Roedd yn academaidd, yn ysgolhaig yn ôl rhai ond yn bennaf yn bregethwr. Pregethwr y cyrddau mawr gan gynnwys dathliad dau gan mlynedd Bethlehem yn 1965. Dw i’n dweud hyn fel rhagymadrodd i’r anerchiad yn hytrach nag esgus i’w glodfori.
Cafodd ei anrhydeddu gan yr Undeb a chafodd ei ethol yn Llywydd gan roi’r cyfle iddo draddodi’r anerchiad yn 1968. Mae ‘na bethau annisgwyl ynddo – cic bach slei at bobl oedd yn derbyn anrhydeddau y Frenhines a beirniadaeth o arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru yn 1967. Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn weriniaethwr a dw i ddim yn siŵr a fyddai’r rhelyw o’i gynulleidfa yn rhannu ei farn. Roedd hefyd arwyddion pendant o’i genedlaetholdeb a’i Gymreictod – dylanwad fy mam! Ond stori arall yw honno.
Ond yr hyn oedd yn fy synnu fwyaf oedd ei ddadansoddiad o’r chwalfa a’i weledigaeth ar gyfer y cychwyn. Os na fyddai’r eglwysi yn newid eu harferion a hynny ar fyrder byddai’r rhelyw ohonyn nhw wedi cau erbyn diwedd y ganrif. Roedd hyn ddegawd cyn imi ddechrau yn y weinidogaeth a doedd ‘na ddim arwydd bod unrhyw un wedi cymryd sylw o’i rybudd bryd hynny. Ond nid bod yn negyddol oedd e gan ei fod yn canolbwyntio ar bum cam cadarnhaol y gellid eu gweithredu.
Y cyntaf oedd i edrych allan i’r gymuned yn hytrach na bod yn fewnblyg a chanolbwyntio ar weithgareddau’r capel. Roedd hynny yn ddweud go fawr pan oedd y capeli yn weddol llawn – hyd yn oed y galeri. Ond y gwir oedd eu bod yn cau eu llygaid i anghenion y gymdeithas. Roedd y capel wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned ond ar y cyrion oedd e erbyn hynny.
Yr ail bwynt oedd bod angen i’r gynulleidfa fod yn llai ffurfiol wrth ymgynnull i addoli – dim angen siwtiau tywyll a hetiau cymanfa ganu. Nid crefydd un diwrnod ar wahân i weddill eu bywydau oedd Cristnogaeth i fod.
Yn drydydd, doedd dim angen tair oedfa ar y Sul – roedd un bregeth yn ddigon i’r gynulleidfa a’r pregethwr. Ar ben hynny doedd amserau’r oedfaon ddim bob amser yn gyfleus a dylid felly eu hamrywio yn ôl y galw.
Yn bedwerydd, dylai’r enwadau fod yn barod i gydweithio. Ni ddylid gwneud ar wahân yr hyn y gallent ei wneud yn fwy effeithiol gyda’i gilydd. Doedd ganddo, serch hynny ddim rhyw lawer o amynedd gyda’r trafodaethau i uno’r enwadau – gweithredu oedd ei angen nid geiriau.
Yn bumed ac yn olaf, yr alwad i fod yn Grist debyg. Nid ein gwaith ni yw penderfynu natur ein cenhadaeth – roedd yr esiampl wedi ei osod ym mywyd daearol Iesu – yn arbennig yr elfen hunan aberthol.
Dyna nhw – aralleiriad o’r argymhellion ar gyfer y Cychwyn. Mae ‘na lawer iawn mwy na hynny yn yr anerchiad ond dyna ddigon am y tro! Mae’n amlwg y dylwn i fod wedi darllen yr anerchiad ynghynt ac yn sicr, ceisio gweithredu’r argymhellion. Dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach rydym yn agosáu at y llinell “Gychwyn” ac wedi cydnabod y “Chwalfa.”
Cyhoeddiadau:
Sul 15fed Chwefror: Oedfa Gymun dan arweiniad yr aelodau – Gibeon am 10.30.
Sul 22ain Chwefror: Dr Ryland Jones. Bethlehem Newydd.
Gwasanaeth Gŵyl Dewi dan arweiniad aelodau ar fore Sul, Mawrth 1af.
Cofiwch
Swper Gŵyl Dewi Nos Fercher, Mawrth 4ydd am 7.30
– Cofiwch ddod â phowlen a llwy!
Talwrn y Beirdd Mawrth 24ain am 7.00.
Cofion
RGT