Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i lunio ar sail erthygl yn y rhifyn diweddaraf o’r cylchgrawn Cristion.
Emyr Phillips yw awdur yr erthygl – Pori Trwy’r Beibl – ac mae’n trafod sut mae’r Iesu’n gweithredu i ddileu rhagfarnau a gwahaniaethau rhwng pobl.
Mae’n dechrau trwy ddweud mai negeseuon syml sydd â chysylltiad gyda bywyd pob dydd yw Cristnogaeth iddo. A meddai:
‘Down ar draws bob math o bobl sydd â phrofiadau gwahanol o fywyd. Mae rhai nad ydynt wedi mentro y tu allan i’w milltir sgwâr, ac eraill wedi symud cartref mor aml nes eu bod wedi colli cyfri. Cawn bobl sydd wedi teithio’r byd ac eraill sy’n fodlon ar fywyd syml a diogel gartref. Agweddau eraill sy’n dylanwadu ar fywydau pobl yw eu gwaith, i ba genedl maent yn perthyn a beth yw eu credoau crefyddol.’
Mae’n dewis edrych ar dri hanesyn o’r Testament Newydd lle mae’r Iesu’n ymwneud â phobl sydd o gefndir hollol wahanol iddo fe. Mae’r Iesu meddai am gymysgu â phobl sydd â syniadau a chredoau gwahanol.
Ond cyn eu trafod gadewch i ni ganu’r emyn cyntaf:
Emyn: 16: O! Arglwydd Dduw, y Brenin mawr…
Mae’n dewis tri hanesyn ac mae’n ein herio gan ddweud wrthon ni i ofyn i ni’n hunain beth yw ein hagwedd ni at bobl y cwrddwn â nhw am y tro cyntaf.
Daw’r hanes cyntaf o bedwaredd bennod Efengyl Ioan – am y wraig wrth ffynnon Jacob lle gwelwn y Crist yn torri sawl rheol yn ymwneud â statws cymdeithasol a hil.
Yn nghyfnod y Crist roedd menywod yn cael eu diystyru a’u diraddio ac roedd y disgyblion wedi synnu gweld yr Iesu yn siarad â’r wraig hon. Roedd tipyn o hanes iddi – wedi priodi bum gwaith ac yn byw gyda dyn arall erbyn hyn. Byddai’r rhan fwyaf wedi troi cefn ar berson felly, ac yn arbennig menyw – ond nid yr Iesu. Nid ystyried gwendidau’r wraig wnaeth yr Iesu ond gweld modd i’w gwneud hi’n berson newydd. Roedd yn ymwybodol ei bod wedi cael ei gwrthod gan gymdeithas a’i thaflu i’r naill ochr. Gwelai’r Iesu hyn gan ei bod yn arferiad gan ferched i ddod at ei gilydd wrth y ffynnon i gymdeithasu mewn grwpiau ond roedd hon ar ei phen ei hun.
Dyma’r hanes fel y mae yn Efengyl Ioan:
Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria. Daeth i bentref o’r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi’i roi i’w fab Joseff ers talwm. A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino’n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.
Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi:
Iesu: Ga i ddiod gen ti?
(Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i’r dre i brynu bwyd.)
Gwraig: Iddew wyt ti. Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i’n wraig o Samaria.”
(Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio’r un llestri â’r Samariaid.) Atebodd Iesu:
Iesu: Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i’w roi i ti, a phwy ydw i sy’n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai’n gofyn wedyn, a byddwn i’n rhoi dŵr bywiol i ti.”
Gwraig: Syr, ble mae’r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae’r pydew yn ddwfn. Ti’n meddwl dy fod di’n fwy na’n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e’n yfed y dŵr yma, a’i feibion hefyd a’i anifeiliaid.”
Iesu: Bydd syched eto ar bawb sy’n yfed y dŵr yma, ond fydd byth dim syched ar y rhai sy’n yfed y dŵr dw i’n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i’n ei roi yn troi’n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
Gwraig: Syr, rho beth o’r dŵr hwnnw i mi! Fydd dim syched arna i wedyn, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.
Yna dwedodd Iesu wrthi,
Iesu: Dos i nôl dy ŵr, a thyrd yn ôl yma wedyn.
Gwraig: Does gen i ddim gŵr.
Iesu: Ti’n iawn! Does gen ti ddim gŵr. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a ti ddim yn briod i’r dyn sy’n byw gyda ti bellach. Ti wedi dweud y gwir.
Gwraig: Dw i’n gweld dy fod ti’n broffwyd syr. Dwed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni’r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond rydych chi’r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy’r lle iawn i addoli.
Iesu: Cred di fi, mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli’r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith. Rydych chi’r Samariaid ddim yn gwybod beth rydych chi’n ei addoli go iawn; rŷn ni’r Iddewon yn nabod y Duw rŷn ni’n ei addoli, am mai drwy’r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod. Ond mae’r amser yn dod, ac mae yma’n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy’n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy’n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.
Gwraig: Dw i’n gwybod fod y Meseia (sy’n golygu ‘Yr un wedi’i eneinio’n frenin’) yn dod. Pan ddaw e, bydd yn esbonio popeth i ni.
Iesu: Fi ydy e, yr un sy’n siarad â ti.”
Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw’n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi hi, “Beth wyt ti eisiau?”, nac i Iesu, “Pam wyt ti’n siarad gyda hi?”
Dyma’r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i’r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno:
Gwraig: Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?
Felly dyma’r bobl yn mynd allan o’r pentref i gyfarfod Iesu.
Mae Emyr yn disgrifio sut roedd y wraig wedi cael tipyn o sioc – nid yn unig bod Iesu yn gallu dweud ei hanes ond hefyd am ei fod yn barod i siarad â hi a hyd yn oed yn gofyn iddi estyn dŵr iddo. Gwnaeth hyn iddi feddwl fod rhywbeth yn wahanol am y dyn hwn.
Onid ydyn ni’n tueddu i fod yn amheus o unrhyw rai sy’n wahanol i ni?
Mae’r Iesu, meddai Emyr, yn sôn am ddŵr bywiol sy’n wahanol i’r dŵr o’r ffynnon. Mae’r dŵr bywiol, meddai, yn deillio o’n teimladau mewnol. Sut rydyn ni’n teimlo amdanom ein hunain a hefyd sut rydym yn teimlo am bobl sydd o’n cwmpas. Y dŵr bywiol sy’n datblygu ffydd ynom – ffydd yn Nuw ac yn ei Fab, Iesu Grist. Ydyn ni’n barod i garu eraill a’u caru fel y carodd yr Iesu nhw, beth bynnag eu cefndir, eu gwaith a’u daliadau?
I’r Iesu, person yw person beth bynnag ei hil a’i gefndir.
Emyn: 372 Dwylo ffein oedd dwylo Iesu ymhob man…
Yr ail ddarn yw hanes y wraig bechadurus yn eneinio’r Iesu o Efengyl Luc 7.
Roedd un o’r Phariseaid wedi gwahodd Iesu i swper, felly aeth Iesu i’w dŷ ac eistedd wrth y bwrdd. Dyma wraig o’r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre’r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr. Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crio. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â’i gwallt a’u cusanu, ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai’r dyn yma yn broffwyd byddai’n gwybod pa fath o wraig sy’n ei gyffwrdd – dydy hi’n ddim byd ond pechadures!”
Ond dyma Iesu’n dweud wrtho:
Iesu: Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.
Simon: Beth athro?
Iesu: Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall. Ond pan oedd y naill a’r llall yn methu ei dalu’n ôl, dyma’r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o’r ddau wyt ti’n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”
Simon: Mae’n debyg mai’r un gafodd y ddyled fwyaf wedi’i chanslo.
Iesu: Rwyt ti’n iawn.
Yna dyma Iesu’n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon.
Iesu: Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â’i dagrau a’u sychu â’i gwallt. Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed ers i mi gyrraedd. Wnest ti ddim rhoi croeso i mi drwy roi olew ar fy mhen, ond mae hon wedi tywallt persawr ar fy nhraed. Felly dw i’n dweud wrthot ti, mae pob un o’i phechodau hi wedi’u maddau – ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.”
Wedyn dyma Iesu’n dweud wrth y wraig ei hun:
Iesu: Mae dy bechodau wedi’u maddau.
A dyma’r gwesteion eraill yn dechrau siarad ymhlith ei gilydd, “Pwy ydy hwn, yn meddwl y gall faddau pechodau?”
Dyma Iesu’n dweud wrth y wraig:
Iesu: Am i ti gredu rwyt wedi dy achub; dos adre! Bendith Duw arnat ti!
Roedd y ffaith bod yr Iesu wedi cael ei wahodd i swper gan Pharisead yn ddigon o ddigwyddiad heb sôn am y ferch adnabyddus yn y dref a ddaeth i olchi traed yr Iesu ac arllwys persawr drostyn nhw. Byddai’r Pharisead wedi disgwyl i’r Iesu ddwrdio’r wraig a’i cheryddu a’i hanfon allan o’i olwg. Ond fe drodd yr Iesu’r sefyllfa yn ben i waered gan ddangos i’r Pharisead nad oedd ef wedi ceisio’i groesawu yn y ffordd draddodiadol trwy olchi ei draed ac felly wedi israddio’r Iesu.
Dangosodd y wraig, a gâi ei hystyried yn hollol wrthun yn y dref, ei bod hi’n parchu’r iesu, yn ei garu ac un credu ynddo. Felly derbyniodd faddeuant am ei phechodau. Roedd yr Iesu wedi gweld ochr i’w phersonoliaeth nad oedd eraill yn gallu ei weld.
Dyma wers i ni meddai Emyr – i beidio beirniadu pobl wrth yr hyn a welwn ar yr olwg gyntaf a’r label a roddir arnyn nhw.
Emyn: 345: O’r fath gyfaill ydyw’r Iesu…
Daw’r trydydd hanes o wythfed bennod Efengyl Mathew lle mae’r Iesu yn ein synnu eto wrth ymwneud â dyn y byddech yn meddwl y byddai’n cadw’n glir oddi wrtho.
Ffydd y Swyddog Milwrol Rhufeinig
Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i’w helpu:
Milwr: Arglwydd, mae ngwas i gartref, yn gorwedd yn ei wely wedi’i barlysu. Mae’n dioddef yn ofnadwy.
Iesu: Dof i’w iacháu.
Ond meddai’r swyddog wrtho:
Milwr: Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.”
Roedd Iesu wedi’i syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn:
Iesu: Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o’r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu. Ond bydd ‛dinasyddion y deyrnas‛ yn cael eu taflu allan i’r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.”
Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol:
Iesu: Dos! Cei di beth wnest ti gredu allai ddigwydd.
A dyna’n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
Roedd ffydd y swyddog milwrol Rhufeinig yn ddigon cryf nes iddo gredu y gallai Iesu wella’r gwas.
Credai Emyr bod yr Iesu’n dangos yn glir i ni ei fod am i ninnau weld bod pob person y down ar ei draws yn blentyn i Dduw. Er efallai bod rhywun o wahanol hil, o wahanol gred, o wahanol grefydd, neu o wahanol wisg i ni, gall fod ganddynt ffydd fel y wraig o Samaria a’r swyddog milwrol.
Ac mae’n dyfynnu o Lyfr Samuel 16:7:
Mae pobl yn edrych ar eraill ar y tu allan, ond mae’r Arglwydd yn edrych ar sut berson ydy e go iawn.’
Gweddïwn: (Addasiad o’r weddi yn Cristion a luniwyd gan Rhosier Morgan)
Ein tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, derbyn ein diolch am dy holl ddaioni a bendithion i ni, dy blant, a maddau i ni, bob un, ein holl droseddau.
Ein braint fwyaf yw cyfri ein hunain yn blant i ti. Ym mha bynnag leoliad neu sefyllfa yr ydym, yr wyt ti, yn dy drugaredd, yn cynnig i ni’r cyfle i ymuno â’th gymuned ffydd fyd-eang, wrth gredu yn dy fab, Iesu Grist.
Ble bynnag yr edrychwn, er maint drygioni dynoliaeth, fe welwn ôl dy law sanctaidd a grasol, O Arglwydd, ein crëwr a’n cynhaliwr.
Clyw ein gweddi ar ran anwyliaid pell ac agos.
Boed i ti gael lle canolog ym mhob peth a wnawn, a chynorthwya ni i goncro’r drwg ac i arddel y da bob amser.
Amddiffyn ni rhag drwg, a gwna ni’n onest er mwyn y gwir, yn faddeugar er mwyn tangnefedd ac yn ddewr er mwyn yr Iesu.
Mewn byd o newyn a thristwch, creulondeb a dioddefaint, fe gofiwn am ein brodyr a’n chwiorydd dros y ddaear gyfan, heb gymryd dim yn ganiataol yn ein bywydau breintiedig yma yng Nghymru.
Diolchwn i ti, O Dduw, am dy deyrnas sy’n dal i ddangos a dysgu i’r byd werth cyfiawnder, tangnefedd a llawenydd yr Ysbryd Glân.
Caniatâ ni yn ein cymdeithas i rannu dy gariad a’n gilydd, llawenhau gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylo gyda’r rhai sy’n wylo ac, ym mhob peth, ddwyn d’oleuni i’r byd.
Gofynnwn hyn oll yn enw ein Harglwydd Iesu Grist a ddysgodd i ni ddweud gyda’n gilydd, Ein Tad…
Gorffennwn gyda sylw olaf Emyr yn ei erthygl:
Gwelsom gryfder ffydd mewn gwahanol fathau o bobl yn yr hanesion hyn ond rhaid i ni ystyried a yw ein ffydd ninnau’n cyrraedd yr hyn a welwn ni ynddyn nhw. Nid yw ein ffydd yn dibynnu ar neb arall – cawn ni ddewis derbyn Crist a’i gariad i’n bywydau, neu ei wrthod a byw i ni ein hunain. Beth bynnag yw ein safle yn y byd, beth bynnag ein gwisg a’n gwaith, mae Duw trwy ei Fab yn barod i’n derbyn ac fe fydd yn llawenhau wrth ein derbyn, pwy bynnag ydyn ni.
Emyn: 402 Hapus wyf fi am fod Iesu’n y nef…
Y fendith: Gras ein Harglwydd, Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd
Glân fyddo gyda chwi oll. Amen.