yn seiliedig ar ddarlun Leonardo da Vinci
Un o olygfeydd amlycaf y ffydd Gristnogol yw’r Swper Olaf.
Pa lun ddaw i’r cof tybed wrth i chi feddwl am y Swper Olaf? Mae’n bosibl mai darlun Leonardo da Vinci a lywiodd ein dychymyg.
Slawer dydd byddai copi o’r darlun i’w weld yn hongian ar wal yng nghartrefi ein cyndadau neu efallai ’r llun wedi’i gerfio o bren neu fetel. Tybed faint ohonoch sy’n cofio ei weld? Llun mewn ffrâm hirsgwar heb fod yn fawr iawn ei faint oedd e fel arfer.
Mewn gwirionedd mae’n lun mawr iawn a baentiwyd gan yr artist ar wal ffreutur ym Milan. Mae’r cymeriadau yn y llun yn fwy o faint na phobl arferol. Dechreuodd ar y gwaith o ddarlunio’r Swper Olaf yn 1494 a’r lleoliad, sef y ffreutur yn rhan o fynachlog – Castello Sforzesco yn Milan. Roedd Dug Milan, Ludovico Sforzo am adeiladu eglwys fawreddog yno – y Santa Maria delle Grazie a fe gomisiynodd waith da Vinci.
Dywedir i’r artist ddal emosiwn y foment trwy gyfleu’r mynegiant ar wynebau’r disgyblion. Fe ddywedodd:
“ Unless you represent the figures in action such that it is sufficient to demonstrate what the figure feels in his heart, your art is not praiseworthy.”
Dewisodd Leonardo gyfleu eiriau dramatig yr Iesu yn Efengyl Marc (14:18) yn y darlun:
Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i. Un ohonoch chi sy’n bwyta gyda mi yma.”
Emyn: 629 – Rho i mi, nefol Dad…
Ydy, mae’n llwyddo i gyfleu teimladau cymeriadau’r olygfa o glywed geiriau’r Iesu – y deuddeg wrth y bwrdd. Maen nhw wedi’u gosod mewn grwpiau o dri. Mae tair ffenest y tu ôl i’r Iesu ac yntau wedi’i lunio ar siâp triongl.
Dyma nhw gan symud o’r chwith i’r dde.
Y tri cyntaf yw Bartholomeus, Iago ac Andreas.
Bartholomeus sy’ ar y pen ar y chwith – mae’n pwyso ymlaen â’i law ar y bwrdd fel pe bai’n dweud – ‘Beth oedd hynny glywes i?
Iago fab Sebedeus sy’ nesa ato ac mae’n ymestyn at Pedr gyda’i law chwith tra’n pwyso’r fraich arall ar ysgwydd Andreas fel pe bai am gael ei gysuro.
Ac wyneb Andreas wedyn yn cyfleu ei syndod a’i anghredinedd a bysedd ei ddwylo wedi’u hymestyn o’i flaen fel pe bai’n dweud – “Amhosibl”.
Y tri nesaf yw Jiwdas, Pedr ac Ioan.
Mae Jiwdas yn pwyso nôl yn erbyn y bwrdd fel pe bai’n ceisio ymbellhau oddi wrth y Crist ond mae ei lygaid yn syllu arno. Yn ei law dde mae pwrs o arian sy’n awgrymu’r taliad a gafodd am fradychu’r Iesu ac mae golwg garw ar ei wyneb. Mae hefyd yn plygu dros yr halen – y ‘salt cellar’ – gan gyfeirio o bosibl at yr ymadrodd dwyreiniol – to betray the salt – sef bradychu meistr. Fe yw’r unig un â’i benelin ar y ford a’i ben ef sydd isaf ohonyn nhw.
Mae Pedr, y cymeriad â thymer tanllyd, yn pwyso tuag at Ioan, ei law chwith yn pwyso i’w ysgwydd a’i law dde yn gafael mewn cyllell tu ôl i Jiwdas – a hynny’n rhagweld yr olygfa honno yng ngardd Gethsemane wrth iddo ymateb yn dreisgar pan gafodd yr Iesu ei arestio.
Nesa’ at yr Iesu mae Ioan, y disgybl addfwyn. Mae ei lygaid wedi’u gostwng, ei ben ar dro a’i ddwylo gyda’i gilydd fel pe bai’n gweddïo a’i wyneb yn cyfleu llonyddwch a ffydd yng ngeiriau’r Crist.
Mae’r onglau a’r goleuo yn ein tynnu at y Crist sydd yn y canol, ei ben yn gwyro ymlaen â’i lygaid yn edrych tuag at i lawr. Mae ei law yn agored a’r llall yn ymestyn tuag at y plât mae’n ei rannu gyda Jiwdas. Mae ei osgo yn awgrymu’r geiriau –
“ Ewyllys fy Nhad a wneler,”
a’i lygaid a’i fraich tuag at y bara ar y ford.
Y tri nesa i’r dde o’r Crist yw Thomas, Iago a Philip.
Mae Thomas yn amlwg wedi’i dristau a’i fys yn pwyntio i fyny fel pe bai’n gofyn i Grist – “A’i un ohonon ni?” Mae’r bys ar i fyny hefyd yn awgrym o’r amheuaeth a ddangosodd ar ôl yr atgyfodiad.
Mae wyneb Iago fab Alffeus yn llawn syndod ac anghredinedd, ei wyneb yn mynegi dicter a’i ddwylo ar led yn cyfleu ei ddryswch.
Yna, wyneb Philip sy’n cyfleu’r cwestiynu wrth osod ei ddwylo ar ei frest, ei ben wedi’i wthio ymlaen tuag at yr Iesu, yn mynegi ei ofn ac fel pe bai am eglurhad.
A’r grwp olaf o dri yw Mathew, Thadeus a Seimon y Selot.
Mae pen Mathew yn troi tuag at Thaddeus a’i ddwylo yn ymestyn tuag at y meistr fel pe bai yntau hefyd yn gofyn, “ A glywsoch chi?”
Mae gwedd Thadeus yn ddigalon, ei law agored ar ei frest gan gwestiynu eto wrth wynebu Seimon.
Ac yn olaf, Seimon y Selot gyda’i lygaid yn chwilio wynebau’r lleill gan ymddangos i ddweud -” Fyddai’r un ohonom ni yn gwneud y fath beth?”
Mae’r lliain ar y ford yn wyn gyda streipiau glas, y lliwiau yn gysylltiedig ag Iddewon.
Mae’r gwaith yn orchestol ac mae’n debyg iddo ddefnyddio geometreg wrth ffurfio’r cymeriadau a sylwch ar y triongl yn y canol. Mae wedi cynnwys lluniau o natur yn y cefndir ac uwchben y prif lun sy’n enghraifft o’i gariad at y byd naturiol.
Mae’n wahanol i luniau cynharach o’r olygfa lle roedd yr artistiaid yn dewis gadael Jiwdas allan o’r llun neu yn ei roi i eistedd ar ochr arall y ford. Os oedd Jiwdas yn y darlun byddai cylch o olau ar ben pob cymeriad heblaw amdano fe, Jiwdas.
Tybed faint ohonoch sydd wedi darllen nofel Dan Brown, The Da Vinci Code neu wedi gwylio’r ffilm? Mae rhai wedi yn awgrymu mai wyneb Mair Magdalen sydd ar y chwith i’r Iesu a dyna yw sail stori’r nofel. Roedd Leonardo yn aml yn gwneud i ddynion a merched edrych yn debyg fel yn ei lun o Ioan Fedyddiwr.
Dyma ddisgrifiad Matteo Bandello yn 1497 o’r ffordd byddai da Vinci yn gweithio:
“Bydden yn ei weld yn aml yn cyrraedd yn gynnar ac yn dringo’r sgaffaldau gan fod y Swper Olaf yn uwch na lefel y llawr. Byddai’n aros yno o fore gwyn tan nos heb roi ei frws i lawr o gwbl gan anghofio hyd yn oed i fwyta nag yfed tra yno. Yna byddai’n aros dau neu dri diwrnod wedyn heb gyffwrdd â’r llun ac weithiau byddai’n gwneud dim ond myfyrio gan ystyried y ffigyrau yn ei feddwl ac yn eu barnu.”
Roedd darlun Leonardo i’w weld yn amlwg yn y ffilm ddiweddar The Devil Wears Prada – yr ail un – am olygydd cylchgrawn ffasiwn, Miranda, y wraig bwerus gyda Meryl Streep yn chwarae’r brif ran eto, ugain mlynedd ar ôl y ffilm gyntaf. Mewn golygfa sy’n ganolog i’r ffilm mae ym Milan ar gyfer yr wythnos ffasiwn yno ac yn sefyll o flaen darlun da Vinci. Dewiswyd y lleoliad mae’n debyg fel enghraifft o orchest a chyflawniad dyn ar ei orau.
Wrth iddi syllu ar y llun mae’n datgan yn feddylgar bod pobl yn ddynol, byth yn berffaith, yn wych ac yn ffaeledig a’u bod yn y diwedd yn twyllo, yn bradychu ac yn gadael ei gilydd i lawr. Ac onid yw da Vinci yn cyfleu hynny hefyd?
Mae’r llinell honno yn treiddio ymhellach na byd ffasiwn a phŵer ond yn cyffwrdd â gwirionedd am gyflwr dynoliaeth. Mae’r cymeriadau yn swpera wedyn o amgylch y ford ac yn trafod y dyfodol a hithau’n holi cymeriad arall – Ai ti yw Jiwdas?
Mae’n amlwg mai dyma olygfa allweddol y ffilm – y frwydr rhwng creadigrwydd dyn a’r hyn sydd i ddod nesaf. Ni wyddwn ond fe ddaw.
Dyma’r hanes yn Efengyl Mathew:
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd i’w baratoi.”
Iesu: Ewch i’r ddinas at hwn a hwn. Dwedwch wrtho: ‘Mae’r athro’n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu’r Pasg gyda’i ddisgyblion yn dy dŷ di.’
Felly dyma’r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, a pharatoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, meddai wrthyn nhw,:
Iesu: Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.
Roedden nhw’n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy’r un, nage?” Atebodd Iesu:
Iesu: Bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!
Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i’w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy’r un, nage?”
Iesu: Ti sy’n dweud.
Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion.
Iesu: Cymerwch y bara yma, a’i fwyta. Dyma fy nghorff i.
Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud:
Iesu: Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”
Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
Emyn: Gadewch i ni ganu emyn cymundeb arall sef rhif 667:
Â’n hyder yn yr Iesu mawr…
Ceir yr un olygfa yn Efengyl Marc wedi’i chofnodi’n debyg.
Yn Efengyl Luc, yn dilyn gweini’r bara a’r gwin mae dadl yn codi rhwng y disgyblion ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysicaf.
Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy’n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‛Cyfaill y bobl‛! Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai’r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai’r un sy’n arwain fod fel un sy’n gwasanaethu. Pwy ydy’r pwysica fel arfer? Ai’r sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd neu’r sawl sy’n gwasanaethu? Y sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy’n gwasanaethu.
Ac yn Efengyl Ioan:
Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu’n amlwg wedi cynhyrfu drwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.” Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy roedd e’n sôn. Roedd y disgybl oedd Iesu’n ei garu yn eistedd agosaf ato. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.
Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy wyt ti’n sôn?”
Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi’i drochi’n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a’i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti’n mynd i’w wneud.” Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu’n ei olygu. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu’n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu’r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi’n nos.
Er gwybodaeth, cafodd y gwaith o adfer y llun ei gwblhau yn 1999 yn dilyn ugain mlynedd o waith manwl yn ei lanhau. Ac mae cyflwr y llun yn cael ei fonitro’n barhaus. Mae’n rhaid i ymwelwyr gerdded trwy fynedfa sydd â matiau arbennig ar y llawr ac awyr wedi’i ffiltro gyda drws sy’n agor a chau i sicrhau does dim llwch yn mynd i’r ffreutur a dim ond ychydig o bobl ar y tro gaiff fynediad i’w weld.
Ond yn y ffilm, mae pwysigion y byd ffasiwn yn gwledda yn y ffreutur yng ngŵydd y llun – fyddai hynny wrth gwrs fyth yn digwydd!
Eleni dros y Pasg yn yr Eglwys yn Abertawe roedd cerflun mawr gan Peter Barnes wedi cael ei arddangos. Roedd wedi efelychu darlun da Vinci ond hynny gyda 50,000 o lythrennau allweddi cyfrifiadur – pob un wedi’i lanhau yn symbol o gyfathrebu cyfoes – gan roi ystyr newydd iddynt.
Mae’r Crist yn y canol a’r siâp triongl yn symbol o drefn dwyfol a’r disgyblion o’i amgylch yn cyfleu mewn tonnau eu syndod, eu gwadu a’u hofnau. Mae’r defnydd o bersbectif yn tynnu ein llygaid yn union at y Crist.
Daw’r darlleniad a ddewiswyd i gyd-fynd â’r cerflun yno o Lythyr Cyntaf Paul at y Corinthiaid. Mae Paul yn ceryddu fel hyn:
Dw i ddim yn gallu’ ch canmol chi wrth ymateb i’r mater nesa chwaith. Mae’n ymddangos fod eich cyfarfodydd chi’n gwneud mwy o ddrwg nag o dda. Dw i’n clywed yn gyntaf fod rhaniadau yn eich plith chi pan fyddwch yn cyfarfod fel eglwys, a dw i’n credu’r peth i ryw raddau. “Mae’n amhosib osgoi gwahaniaethau” meddech chi, ac mae hynny i fod i ddangos yn glir ar ochr pwy mae Duw, ydy e? Os felly, dim Swper yr Arglwydd rydych chi’n ei fwyta pan ddewch at eich gilydd! Mae rhai pobl yn bwrw iddi i fwyta heb feddwl am neb arall. A’r canlyniad ydy bod rhai yn llwgu tra mae eraill wedi meddwi! Oes gynnoch chi ddim cartrefi i bartïo ac i yfed ynddyn nhw? Neu ydych chi wir am fwrw sen ar eglwys Dduw, a chodi cywilydd ar y bobl hynny sydd heb ddim? Beth alla i ei ddweud? Ydw i’n mynd i’ch canmol chi? Na, dim o gwbl!
Dw i wedi rhannu gyda chi beth wnes i ei dderbyn gan yr Arglwydd:
Ac yng ngeiriau Paul y gweinyddir y sacrament:
Ar y noson honno pan gafodd ei fradychu cymerodd yr Arglwydd Iesu dorth. Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe’n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd mae Duw’n ei wneud, wedi’i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono. Bob tro byddwch chi’n bwyta’r bara ac yn yfed o’r cwpan, byddwch yn cyhoeddi ystyr marwolaeth yr Arglwydd nes iddo ddod yn ôl eto.
Ydy mae’r sacrament o gymun yn fodd i gofio am ei farwolaeth, yn ddathliad o’i atgyfodiad ac yn ddisgwyliad am ei ailddyfodiad.
Mae’r elfennau o’r bara a’r gwin yn cynrychioli corff a gwaed y Crist, ac yn arwydd o’n cred ninnau yn aberth Crist drosom.
Mae ymgymryd o’r Swper Olaf hwn yn ddatganiad o ffydd, yn ddatganiad o’n hundod fel credinwyr wrth i ni gofio am ei aberth drosom gyda’n gilydd.
Dathlwn hynny yn y sacrament gyda geiriau Salm 117:
Molwch yr ARGLWYDD!
Molwch yr ARGLWYDD, chi genhedloedd i gyd!
Canwch fawl iddo, holl bobloedd y byd!
Mae ei gariad tuag aton ni mor fawr!
Mae’r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon.
Haleliwia!
Emyn: Felly fe ganwn ninnau’r Haleliwia yn emyn rhif 274: Ceisiwch yn gyntaf…
Roedd yr Iesu wedi datgan:
“Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chi.”
Gadewch i ni gyd-adrodd rhannau o’r weddi Ewcharistaidd:
Nesawn atat, O Dduw, ein tad,
i glodfori dy enw a dyrchafu dy glod;
i ryfeddu at fawredd dy gariad
a dyfnder dy ras tuag atom.
Pan oeddem ni yn feirwon mewn pechodau a chamweddau, trugarheaist wrthym
ac anfon dy fab Iesu Grist i’n gwaredu.
Diolchwn am ei aberth drud ar groes Calfaria
ac am iddo roi ‘ei ddwylo pur ar led a gwisgo coron ddrain,
er mwyn i’r brwnt gael bod yn wyn fel hyfryd liain main.’
Pâr i ni weld mai trosom ni yr aeth i’r groes:
‘Archollwyd ef am ein troseddau ni,
a’i ddryllio am ein camweddau ni;
roedd pris ein heddwch ni arno ef,
a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd.’
Wrth ddiolch i ti am ei aberth
gweddïwn y bydd y bara a’r gwin
yn arwyddion gweledig i’n ffydd ni
o gorff Crist a dorrwyd trosom
ac o waed gwerthfawr Crist a dywalltwyd trosom.
Trwy gyfranogi ohonynt,
clyma ni yn agosach atat.
Cynorthwya pawb ohonom
i fwyta ac i yfed yn deilwng o’r elfennau hyn.
Wrth dy fwrdd cofiwn hefyd am deulu’r ffydd;
anwyliaid i ni; aelodau o’n teuluoedd,
cyfeillion a chymdogion sydd mewn angen.
Cofiwn am y rhai sydd wedi’u huno yn yr Iesu
a chyflwynwn y rhai sy’n galaru i’th ofal di.
Cofiwn hefyd am y byd a’i anghenion…
Derbyn ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
y bo trwyddo ef, ynddo ef a gydag ef,
yn undod yr Ysbryd Glân,
bob anrhydedd a gogoniant i ti, O Dad,
yn awr ac yn dragywydd. Amen.
Am hynny, nesawn mewn hyder
i weddïo gyda’n gilydd gan ddweud: Ein Tad…
Cyn gweinyddu’r cymun fe ganwn emyn James Nicholas ar gyfer y cymun o’i gyfrol Ffordd y Pererinion ar dôn Troyte.
Mawr yw ei wyrth, y mae rhin
I’r enaid yn y rhannu cyfrin;
Briwiau Ei gorff yw’r bara a’r gwin
A roed mor anghyffredin.
Hon yw’r rhodd inni a roddwyd
O’r cnawd hwn daw’r cnwd hael gynaeafwyd,
Gwaed yr archoll a gollwyd,
Brenin y boen – bara ein bywyd.
Diolch a wnawn yn dawel
Am ein rhan, yma’n rhinwedd dirgel:
Y dorth, y gwaed, y wyrth gêl;
Yn y naws, plygwn yn isel.
Gwnewch hyn er cof, dyna’r cofio
Yn falm ar fwrdd y cymuno;
Yn y wledd, rhown fawl Iddo,
Trwy Ei wae cawn fywyd dro.
Y Cymun:
Emyn Gadewch i ninnau ganu emyn mawreddog T. Rowland Hughes, rhif 131:
Tydi a roddaist…
Y fendith