Gwasanaeth dechrau 2026
Gwasanaeth dechrau’r flwyddyn 2026
Y Geni Gwyrthiol
Ganwyd y Mab o gnawd Mair – un bore oer
tan y seren ddisglair,
yn wyrth o Dduw o’r groth ddiwair
yn y gwellt, Hwn oedd y gair.
meddai’r bardd o Sir Benfro, James Nicholas, yn ei englyn.
Do, yn ein gwasanaeth Nadolig buom yn dathlu’r Gair a ddaeth yn gnawd ac fe ddwedodd C.S.Lewis y ‘daeth Mab Duw yn ddyn i alluogi dynion i ddod yn feibion Duw’.
Er bod y Nadolig drosodd gadewch i ni ddechrau’n gwasanaeth trwy ganu’r garol: Emyn: 476: Dos dywed ar y mynydd… a’n gwnaeth yn wylwyr cyson ar furiau dinas Duw, a’m rhawd, fi Gristion eiddil, mor ddedwydd, dedwydd yw.
Gadewch i ni atgoffa ein gilydd o’r modd y mae’r Beibl yn sôn am ddyfodiad y Crist:
Yn y dechreuad
Yn y dechreuad yr oedd y Gair.
A’r Gair oedd gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.
Am hynny, Gair ein Duw ni a saif byth.
Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn:
gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn.
ond gair ein Duw ni a saif byth.
Nef a daear a ânt heibio.
Ond Gair ein Duw ni a saif byth.
A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd,
ac a drigodd yn ein plith ni.
Iesu yw, gwir Fab Duw.
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.
Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith
a llawer modd…
yn y dyddiau diwethaf hyn
a lefarodd wrthym ni yn ei Fab.
Iesu yw, gwir Fab Duw.
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.
Os cofiwch chi, fe gyfeiriwyd at William Temple yn ein gwasanaeth Nadolig am iddo ddisgrifio adnod 14 o bennod gyntaf Efengyl Ioan fel y frawddeg fwyaf yn y llyfr mwyaf yn y byd :
Daeth y gair yn berson o gig a gwaed; daeth i fyw yn ein plith.
Y logos – y gair – bod Duw wedi dod mewn ffurf ddealladwy i ddynion.
Bu Temple yn Archesgob Caergaint yn mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf. Fe gyhoeddodd ei lyfr Christianity and the Social Order yn 1942 lle y cyflwynodd ei weledigaeth o gymdeithas yn dilyn yr Ail Ryfel Byd a oedd yn gosod y sylfeini ar gyfer y Wladwriaeth Les – roedd yn lladmerydd cadarn dros y tlawd. Dyma ddyfyniad enwog o’i eiddo:
“The Church is the only organisation
that does not exist for itself,
but for those who live outside of it.”
Roedd yn hyrwyddo deialog rhwng crefyddau’r byd ac yn un o sylfaenwyr y Cyngor o Gristnogion ac Iddewon sydd yn parhau i sefyll yn erbyn gwrth -Semitiaeth a phob math o ddiffyg goddefgarwch ym Mhrydain ac ar draws y byd – rhywbeth y mae mawr angen amdano heddiw yn enwedig o gofio’r drychineb erchyll ar draeth Bondi yn Sydney, Awstralia cyn y Nadolig. Ei ddylanwad ef a arweiniodd at sefydlu Cyngor Eglwysig Prydain a Chyngor Eglwysi’r Byd.
Dyma ddyfyniad arall o’i eiddo i’w ystyried:
“It is a great mistake to think that God is chiefly concerned with our being religious.”
Yn y cyfnod hwn yn dilyn dathliadau’r Nadolig boed i ni gofio geiriau Oscar Romero:
Ni ddylem geisio’r plentyn Iesu yn ffigyrau prydferth ein preseb Nadolig. Rhaid ei geisio ymhlith y plant llwglyd a aeth i’w gwlâu yn y nos heb ddim i’w fwyta, ac ymhlith y bechgyn papurau newydd tlawd a fydd wedi’u gorchuddio gan bapurau newydd wrth ddrysau ein siopau.
Mae Ioan yn disgrifio’r Arglwydd Iesu trwy ddefnyddio’r darlun ohono fel y Gair – sef y syniad bod Duw yn siarad ac yn cyfathrebu gyda ni. Siaradodd Duw gydag Adda ac Efa yn yr Ardd; siaradodd â Moses drwy’r berth oedd yn llosgi ac felly hefyd yn hanes proffwydi’r Hen Destament – Duw yn siarad â’r ddynoliaeth.
Sut y bydd Duw yn siarad â ni heddiw yn 2026? A fydd yn sibrwd yn ein clust? A fydd ei lais yn atseinio yn y gwynt? Gall siarad â ni:
- trwy i ni ddarllen y Beibl.
- trwy wrando ar bregethu’r gair.
- efallai trwy ein profiadau bob dydd.
- wrth i ni gael ein cyfareddu gan brydferthwch byd natur.
- wrth weld caredigrwydd pobl at eraill.
A fyddwn yn clywed ei lais tybed pan fyddwn yn wynebu sefyllfa anodd?
A fyddwn yn ceisio ei lais pan mewn cyfyng gyngor?
Ar ddechrau blwyddyn fel hon gadewch i ni weddïo y bydd ein llygaid, ein clustiau a’n calonnau ar agor i wrando ar ei lais.
Gweddïwn:
Ers talwm, roedden ni’n arfer chwarae yn y gerddi a’r caeau. Troi pob carreg a gweld y mân greaduriaid yn sgrialu i’r tywyllwch. Eu bywyd nhw oedd y tywyllwch a’r mwrllwch, ddigon hapus eu byd nes i ni godi’r garreg. Mae yna gyfnodau, Arglwydd, pan mae dy wirionedd di yn ein llorio, yn mynd â’n gwynt ni, yn ein gwneud yn llipa. Y goleuni’n rhy lachar, a’r pryd hwnnw y tueddiad, fel y mân greaduriaid yw sgrialu i’r tywyllwch. Methu deall, ddim yn deall a labelu’r cyfan ‘Rhy anodd i mi’ a throi cefn am byth. Wrth i ni astudio’r ‘Gair’ heddiw wnei di ein goleuo o’r newydd, nid fel cannwyll yn ffenest bwthyn ein breuddwydion ond fel goleuni llachar sy’n ein harwain i adnabod o’r newydd. Ac yn sydyn mae’r cyfan yn disgleirio. Nid goleuni na phŵer na Gair yw’r hyn a addolwn, ond cariad a enwir Iesu. Arglwydd, wnei di’n cadw ni yn y goleuni ac os oes yna ysfa i sgrialu i’r tywyllwch, symud y garreg, unwaith yn rhagor. Amen.
Roedd canhwyllau’r Adfent ar y dorch a oedd gennym yma cyn y Nadolig yn symbolau o’r goleuni hwnnw.
Mae Emyn 449 gan Sion Aled yn cyfeirio at y Gair –Duw’r digonedd yn ddi-annedd, gwisgo’n gwaeledd wnaeth y Gair:
Heddiw’n erfyn in ei ddilyn
lle bo’n wrthun dlodi byd;
gyfoethogion, awn yn dlodion,
dyna’r goron orau i gyd.
Ac yn cloi trwy ein herio: i gyd-wisgo agwedd gwas;
gwagio’n balchder, brwydro’n dyner,
dyna gryfder eithaf gras.
Yn dilyn yr agoriad am y gair yn dod yn berson o gig a gwaed ac a ddaeth i fyw yn ein plith ar ddechrau Efengyl Ioan ceir hanes Ioan Fedyddiwr yn gwadu mai ef ydy’r Meseia:
Dyma’r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd. Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw:
Ioan: Dim fi ydy’r Meseia.
“Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”
Ioan: Nage.
“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”
Ioan: Na.
“Felly, pwy ti’n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i’r rhai sydd wedi’n hanfon ni. Beth fyddet ti’n ei ddweud amdanat ti dy hun?”
Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau’r proffwyd Eseia:
Ioan: Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i’r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”
Yna dyma’r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy’r Meseia, nac Elias, na’r Proffwyd?”
Ioan: Dŵr dw i’n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae yna un dydych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi – sef yr un sy’n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!
Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio
Drannoeth mae’n gweld yr Iesu ac yn ei gyfarch:
Ioan: Dacw Oen Duw, yr un sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd … Dw i’n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.
Yna cawn hanes galw’r disgyblion cyntaf – Seimon, a gaiff ei alw’n Pedr- ac ystyr yr enw hwnnw yw craig – a’i frawd Andreas. Yna mae’n gwahodd Philip a Nathanael i fod yn ddilynwyr:
Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.” Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida. Yna aeth Philip i edrych am Nathanael a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i’r dyn yr ysgrifennodd Moses amdano yn y Gyfraith, a’r un soniodd y proffwydi amdano hefyd – Iesu, mab Joseff o Nasareth.”
Nathanael: Nasareth?” Ddaeth unrhyw beth da o’r lle yna erioed?”
“Tyrd i weld,” meddai Philip.
Pan welodd Iesu Nathanael yn dod ato, meddai amdano, “Dyma ddyn fyddai’n twyllo neb – Israeliad go iawn!”
Nathanael: Sut wyt ti’n gwybod sut un ydw i?”
Atebodd Iesu, “Gwelais di’n myfyrio dan y goeden ffigys, cyn i Philip dy alw di.”
Nathanael: Rabbi, ti ydy mab Duw; ti ydy Brenin Israel.
Meddai Iesu wrtho, “Wyt ti’n credu dim ond am fy mod i wedi dweud i mi dy weld di dan y goeden ffigys?” Yna dwedodd wrthyn nhw i gyd, “Cewch weld pethau mwy na hyn! Credwch chi fi, byddwch chi’n gweld y nefoedd yn agor, ac angylion Duw yn mynd i fyny ac yn dod i lawr arna i, Mab y Dyn.
Do fe ddaeth yr Iesu yn y cnawd ond daeth y disgyblion i gydnabod dwyfoldeb Iesu Grist. Cafwyd sawl arwydd i brofi ei honiad o fod yn ddwyfol fel yr hanes cyfarwydd yn ail bennod Efengyl Ioan sy’n dilyn am droi’r dŵr yn win yn y briodas yng Nghana, Galilea – ‘Y wyrth gyntaf hon …a wnaeth yr Iesu fel arwydd o pwy oedd e. Roedd yn dangos ei ysblander a dyma ei ddisgyblion yn credu ynddo.’
Yr ail wyrth oedd iachau mab un o swyddogion llywodraeth Herod yn Capernaum a geir yn y bedwaredd bennod.
Yn y bumed bennod cawn hanes iachau’r dyn wrth Giât y Defaid yn Jerwsalem a fu’n anabl ers 38 o flynyddoedd ac mae’r Iesu yn dweud wrtho –‘Saf ar dy draed! Cod dy fatras a cherdda’. Ac os cofiwch chi fe wnaeth hynny ar ddydd Saboth yr Iddewon a’r arweinwyr Iddewig yn dweud wrth y dyn ei fod yn torri’r gyfraith wrth gario ei fatras ar ddydd sanctaidd yr Iddewon.
Yn y chweched bennod ceir hanes porthi’r pum mil a’r hanes amdano ’n cerdded ar y dŵr cyn yr adran amdano ‘n datgan:
“Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu. Ond fel dw i wedi dweud, er eich bod chi wedi gweld dydych chi ddim yn credu. Bydd pawb mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ata i, a fydda i byth yn gyrru i ffwrdd unrhyw un sy’n dod ata i. Dw i ddim wedi dod i lawr o’r nefoedd i wneud beth dw i fy hun eisiau, ond i wneud beth mae’r hwn anfonodd fi eisiau. A dyma beth mae’r hwn anfonodd fi yn ei ofyn – na fydda i’n colli neb o’r rhai mae wedi’u rhoi i mi, ond yn dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf. Beth mae fy Nhad eisiau ydy bod pawb sy’n edrych at y Mab ac yn credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol. Bydda i’n dod â nhw yn ôl yn fyw ar y dydd olaf.”
Ceir arwyddion eraill hefyd yn Efengyl Ioan fel yn yr efengylau eraill – megis codi Lasarus o’r marw’n fyw ym mhennod 11.
Arwydd arall o’i ddwyfoldeb oedd bod gan yr Iesu yr hawl i faddau pechodau—rhywbeth na all neb ond Duw ei wneud.
Tua diwedd Efengyl Ioan yn yr ugeinfed bennod ceir hanes yr Iesu yn ymddangos i Tomos:
Dyma’r lleill yn dweud wrtho, “Rydyn ni wedi gweld yr Arglwydd!”
Ond ei ymateb oedd:
Tomos: Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu’r peth!
Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a’r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi’u cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud:
Iesu: Shalôm!”
Trodd at Tomos a dweud:
Iesu: Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i’w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”
A dyma Tomos yn dweud:
Tomos: Fy Arglwydd a’m Duw!
Iesu: Ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i. Mae’r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio’n fawr.
Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma. Ond mae’r cwbl sydd yma wedi’i ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy’r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi’n credu byddwch chi’n cael bywyd drwy ei awdurdod e.
Cyn gweinyddu’r cymun gadewch i ni gyd-ddarllen dau bennill o emyn Merfyn Jones – Emyn rhif 348:
Mae’r baban fu’n fychan ei fyd,
yn rhynnu ar wely o wair,
yn syndod y gofod i gyd
a’r bydoedd yn bod wrth ei air:
mae’r Un a fu’n blentyn ei oes,
yn gaeth i’w genhedlaeth ei hun,
yn perthyn i’r oesau drwy’r groes,
yn unwr, cydoeswr pob dyn.
Mae’r Gair gynt a wnaethpwyd yn gnawd
a’i gloi o fewn amser dros dro,
yr Arglwydd a anwyd yn dlawd
heb ennaint, heb fraint yn ei fro,
yn awr heb na therfyn na ffin
i’w faith bersonoliaeth na’i glod:
mae’n t’wynnu drwy’r bara a’r gwin,
mae’n pefrio drwy bopeth sy’n bod.
Dyma’r cyfle olaf tan y Nadolig nesa i ganu un garol arall sef Emyn rhif 466: Ganol gaeaf noethlwm… sef emyn Saesneg a gafodd ei gyfieithu gan Simon B Jones, un o deulu’r Cilie ar gyfer Ysgol Peniel mae’n debyg.
Myfyrdod
Cymun
Goleuni’r byd
‘Y mae carolau yn ein cyffroi. Y mae’r geiriau sanctaidd yn ein hysbrydoli. Y mae’r llewyrch a gwyd o’r preseb yn ein cynhesu. Y mae ychydig grefydd dros y Nadolig yn iawn. Ond y mae’r llewyrch yn y preseb yn codi o Oleuni’r Byd. Y mae’n datgelu drygioni, ac un ai’n ei waredu neu’n ei ddinistrio. Mae’r baban yn y preseb yn llawer mwy na gwrthrych ocheneidiau sentimental. Mab Duw yw hwn, a rhaid ei dderbyn yn lywodraethwr – neu ei wynebu yn elyn’ – oedd dyfyniad a rannwyd dros y Nadolig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Onid yw cerdd Mererid Hopwood a ddarllenir yn aml adeg y Nadolig yn datgan bod gwaith y Nadolig yn dechrau pan ddaw dydd y Nadolig i ben, pan fydd Santa ‘di’i throi hi am adre a’r goeden yn ddim ond pren:
Pan fo’r tinsel yn saff yn yr atig,
yn angof mewn dau neu dri blwch,
y cyfarchion a’r cardiau ‘di’u llosgi
ac ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn hel llwch.
Bryd hynny mae angen angylion
i dorchi’u hadenydd go iawn,
a bryd hynny mae angen lletywr
all wneud lle er bo’r llety yn llawn.
Yr un pryd mae galw am fugail
i warchod y defaid i gyd,
fel mae galw am ddoethion a seren
i egluro tywyllwch y byd,
Mae ‘na alw am gast drama’r geni
drwy’r flwyddyn i weithio’n gudd,
am fod gwaith y Nadolig yn anodd,
yn ormod o waith i un dydd.
Emyn: 721- O na bawn yn fwy tebyg…
Y Fendith
Wedi i gân yr angylion ddistewi,
wedi i’r seren gilio o’r ffurfafen,
wedi i’r brenhinoedd a’r tywysogion
ddychwelyd adref,
wedi i’r bugeiliaid ddychwelyd
at eu praidd,
yna bydd gwaith y Nadolig yn dechrau:
canfod y colledig,
iachau’r clwyfedig,
bwydo’r newynog,
rhyddhau’r carcharor,
ailadeiladu’r cenhedloedd,
dwyn heddwch i blith y bobl,
creu cerddoriaeth yn y galon. Amen.