Trugaredd
Mae sgyrsiau’r dysgwyr sy’n cwrdd ar foreau Iau yn y capel yn dilyn sgwarnogod annisgwyl yn aml. Cwestiwn un ohonynt ryw fore ym mis Tachwedd y llynedd oedd ystyr y gair ‘trugareddau’ – ac aeth y drafodaeth i gyfeiriad y petheuach a gasglwn – y bric a brac – sy’n llenwi droriau ein tai ac yn hel llwch ar ein silffoedd. A dyna ryfedd bod y gair am hynny yn tarddu o’r gair – trugaredd – gan symud ymlaen wedyn i drafod y gwahaniaeth rhwng teitl y ddameg gyfarwydd – y Samariad Trugarog – yn Gymraeg – a’r Good Samaritan yn y Saesneg.
I Dad y trugareddau i gyd
rhown foliant, holl drigolion byd;
llu’r nef moliennwch bawb ar gân,
y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.
Dyna’r emyn byr, un pennill a ddewisodd y Parch Ddr Rosa Hunt, gweinidog y Tabernacl, yr Ais Caerdydd wrth ddechrau cyflwyno Caniadaeth y Cysegr ddiwedd Tachwedd y llynedd. A thrugaredd oedd thema’r rhaglen drwyddi draw.
Cyfieithiad Howell Harris o emyn Thomas Ken ( 1637-1711) yw’r pennill. Bu Ken yn gaplan i’r brenin Siarl yr Ail a gwrthododd adael ei dŷ i roi cartref i Nell Gwynne, meistres y brenin. Aeth wedyn yn esgob Caerfaddon a Wells. Roedd yn ddyn o egwyddorion cryf a chafodd ei garcharu gyda chwech esgob arall am gyfnod yn Nhŵr Llundain am wrthod ufuddhau i orchymyn James yr ail er arhosodd yn deyrngar i hwnnw ond collodd ei safle pan ddaeth William a Mary i’r orsedd a bu fyw am ugain mlynedd wedi ymddeol i gyfansoddi emynau a llyfrau. Dyma weddi enwog ganddo:
O God, make the door of this house wide enough to receive all who need human love and fellowship; narrow enough to shut out all envy, pride and strife. Make its threshold smooth enough to be no stumbling-block to children, nor to straying feet, but rugged and strong enough to turn back the tempter’s power.
Gweddi addas iawn ar ein cyfer ni yma onid e?
Fe ganwn ninnau yr ail emyn o’r rhaglen, sef rhif 825, sy’n galw am drugaredd tuag at y gwledydd ac yn erfyn am gyfiawnder a heddwch, i droi’r cleddyfau yn sychau ac i heddwch lifo fel yr afon – ac mae angen i ni weddïo am hynny yn y dyddiau blin yma:
Mewn trugaredd cofia’r gwledydd,
o’u blinderau arwain hwy
yn d’oleuni di i rodio
fel na ddysgom ryfel mwy;
O cymoder
pawb â’i gilydd wrth y groes.
Cyn cyflwyno’r emyn nesaf mae’n trafod y geiriau Cymraeg am ‘compassion’ a tharddiad y gair hwnnw yn Saesneg sef – dioddef gydag eraill. Yn y geiriadur Cymraeg ceir nifer o eiriau amdano – cydymdeimlad, elusengarwch, gofal, tiriondeb, tosturi, trueni a thrugaredd – a ddaw o truan + cariad – cariad at bobl heb obaith, y rhai sy’n teimlo’n ddiwerth.
Gadewch i ni wrando ar yr emyn – y geiriau gan Thomas William (1761 – 1844) –ond yr alaw yn un o unawdau enwocaf y mezzo-soprano a’r cyfansoddwr Morfydd Llwyn Owen – Gweddi Pechadur. Fe gyfansoddodd dros 150 o ddarnau o gerddoriaeth ond bu farw yn 27ain oed. Mae’n weddi ddirdynnol y medrwn weddïo wrth wrando arni:
O’th flaen o Dduw, rwy’n dyfod
gan sefyll o hir-bell;
pechadur yw fy enw,
ni feddaf enw gwell;
trugaredd rwy’n ei cheisio
a’i cheisio eto wnaf,
trugaredd i mi dyro,
rwy’n marw onis caf.
Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru disgrifir y gair trugareddau fel – petheuach, gêr, taclau, addurniadau (di-werth), tlysau: things of little value, paraphernalia, gear, bits and pieces, knick-knacks, bric-a-brac. Gwahanol iawn i drugaredd.
Cyfeiriodd Rosa Hunt at y Geiriadur hwnnw sy’n sôn am y Saith Gweithred o Drugaredd a restrwyd gan Morys Clynnog. Roedd e yn Gatholig a fu’n astudio yn Rhydychen ond pan orseddwyd Elisabeth y 1af fe aeth i Rufain a bu’n bennaeth y Coleg diwinyddol Saesneg yno – ond roedd cwyno yn ei erbyn am ei fod yn ffafrio myfyrwyr Cymraeg! Ym 1568 fe gyhoeddodd ei Athrawiaeth Gristnogol a argraffwyd ym Milan gyda chyflwyniad gan Gruffydd Robert a dyma’r Saith Gweithred o Drugaredd ynddo:
- Rhannu bwyd
- Rhoi diod i’r sychedig
- Rhoi dillad i’r noeth
- Cynnig llety i’r pererin
- Gofalu am y claf
- Rhyddid i garcharorion
- Claddu’r meirw.
Cyfeiriwyd hefyd ganddi at y bardd Dafydd ap Gwilym sy’n fwy adnabyddus am ei gerddi serch a natur na cherddi crefyddol – er bod y cysyniad o drugaredd yn codi mewn rhai o’i gerddi yn enwedig wrth iddo geisio cyfiawnhau ei garwriaethau. Cerdd ddychanol yw y Bardd a’r Brawd Llwyd lle mae’n cael sgwrs ddychmygol gyda mynach Ffransisgaidd. Mae’r Brawd Llwyd yn condemnio ffordd o fyw liwgar DafyddB gan ddweud wrtho y dylai ganolbwyntio ar edifeirwch a chael trugaredd gan Dduw er mwyn achub ei enaid. Ond mae Dafydd yn amddiffyn ei ddewisiadau a’i farddoniaeth am ei gariad at ferched a natur gan awgrymu bod Duw yn drugarog ac y bydd maddeuant ar gael iddo, gan bwysleisio’r syniad o drugaredd yr elfennau naturiol hefyd – “nid yw Duw mor greulon ag y dywed hen ddynion,” meddai Dafydd! Mewn gwirionedd, mae’n ddadl rhwng bywyd crefyddol caeth a bywyd mwy rhydd a Dafydd yn apelio ar drugaredd Duw.rig y Ffurflen
Emyn rhif 192 gan Ann Griffiths a ddewisodd nesaf – am y Duw anfeidrol mewn trugaredd, y Duw cymodlon, y Duw sy’n noddfa ac yn graig.
Gwaelod y Ffurflen
Cyn cyflwyno’r emyn nesaf cyfeiriwyd at ddarlun am y saith gweithred o drugaredd gan Caravaggio.
Roedd e yn artist Eidalaidd dylanwadol iawn yn yr ail ganrif ar bymtheg, er yn gymeriad gwyllt a gwrthryfelgar. Cafodd Michelangelo Merisi da Caravaggio ei eni yn Lombardy, gogledd yr Eidal. Yn 12 oed cafodd brentisiaeth gydag artist ond yn fuan wedyn collodd nifer o’i deulu i’r Pla a thyfodd i fyny yn ŵr ifanc crac a threisgar. Yn 1592, yn un ar hugain mlwydd oed symudodd i Rufain.
Un o’i baentiadau enwog o’r cyfnod hwnnw yw’r Swper yn Emmaus sydd yn y National Gallery, Llundain. Dyma’r hanes ym mhennod olaf Efengyl Luc:
Tridiau yn dilyn y croeshoelio roedd dau ddisgybl yn cyfarfod â’r Iesu ond heb ei adnabod ond yna: Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu’n dweud ei fod e’n mynd yn ei flaen. Ond dyma nhw’n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae’n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw.
Pan oedden nhw’n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd gweddi o ddiolch cyn ei thorri a’i rhannu iddyn nhw. Yn sydyn dyma nhw’n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a’r foment honno diflannodd o’u golwg. Dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni’n teimlo rhyw wefr, fel petai’n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!”
Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw’n dod o hyd i’r unarddeg disgybl a phawb arall gyda nhw, a’r peth cyntaf gafodd ei ddweud wrthyn nhw oedd, “Mae’n wir! Mae’r Arglwydd wedi dod yn ôl yn fyw. Mae Simon Pedr wedi’i weld!” Yna dyma’r ddau yn dweud beth oedd wedi digwydd iddyn nhw ar eu taith, a sut wnaethon nhw sylweddoli pwy oedd Iesu wrth iddo dorri’r bara.
Mae’r darlun yn llwyddo i gyfleu diweddglo dramatig yr hanes gan ddangos eu syndod – mae un yn neidio i fyny o’r gadair a’r llall yn codi ei freichiau mewn anghrediniaeth. Arferai Caravaggio ddefnyddio paentiadau o bobl gyffredin yn ei luniau fel y ddau ddisgybl yn y llun hwn a hynny yma mewn gwrthgyferbyniad â’r Iesu sy’n ifanc ac yn ddi-farf, fel pe bai’n perthyn i fyd gwahanol. Mae’r goleuo yn y llun yn tanlinellu dwyster yr olygfa. Mae’r bara a’r gwin ar y ford yn symbol o’r Swper Olaf a ffowlyn wedi’i rostio a basged o ffrwythau sy’n pydru – yn symbol efallai o feidroldeb dyn. Mae grawnwin yn symbol o waed y Crist a’r pomgranad / pomegranate yn symbol o’r Atgyfodiad.
Llun arall enwog ganddo yw’r un o groeshoelio Sant Pedr. Mae’r llun hwnnw yn y Fatican ac sy’n dangos Pedr yn cael ei groeshoelio ben i waered yn nôl ei ddymuniad oherwydd ei fod yn teimlo’n anheilwng i gael ei groeshoelio fel y Crist. Mae’r llun yn llawn emosiwn gyda’r cefndir tywyll ond bod wyneb Pedr wedi’i oleuo i bwysleisio ei boen a’i ddioddefaint.
Yn 1599,cafodd Caravaggio gomisiwn i arlunio tri llun i gapel y Contarelli yn eglwys San Luigi dei Francesi yn Rhufain sef y Calling of Saint Mathew, Mathew a’r angel a Merthyrdod Mathew – The Martyrdom of Saint Mathew
Mae’n debyg y byddai’n defnyddio pobl go iawn yn ei luniau ac ar gyfer y llun hwn am alw Mathew tynnodd lun o gasglwr trethi go iawn – mae’n dangos Mathew yng nghwmni ei ffrindiau yn cyfri’r arian a gasglwyd ganddyn nhw ac mae’r golau ar yr Iesu sy’n ymestyn ei fraich tuag ato – ond mae’r cymeriadau wedi’u gwisgo yn nillad ffasiynol cyfnod Caravaggio gan roi ystyr cyfoes i’r alwad gan Grist. Dim ond un cyfeiriad byr sydd yn y Beibl at alw Mathew, y casglwr trethi.
Ond roedd tymer gan Caravaggio ac fe niweidiodd ddyn arall mewn dadl dros ferch yn 1605 a chafodd ei garcharu am gario cleddyf. Y flwyddyn ganlynol yn 1606 fe laddodd ddyn dros fet am gêm o denis er na fwriadodd ei lofruddio mae’n debyg. Fe ddihangodd i Napoli gan geisio maddeuant gan y Pab trwy anfon lluniau o olygfeydd Beiblaidd at gyfeillion dylanwadol iddo megis Dafydd gyda phen Goliath – David with the Head of Goliath ac un o Ioan Fedyddiwr – Salome with the Head of John the Baptist.
Cafodd noddfa gan y rhai a sefydlodd y Pio Monte della Misericordia yn Naples a derbyniodd gomisiwn i ddarlunio’r Saith Gweithred o Drugaredd – Seven Works of Mercy yn 1607 sydd uwchben yr allor yn yr eglwys. Mae’n ddarlun dramatig mewn olew sy’n cywasgu’r saith gweithred – bwydo’r newynog, rhoi diod i’r sychedig, dilladu’r noeth, rhoi noddfa i’r digartref, ymweld â’r cleifion a’r rhai mewn carchar a chladdu’r meirw – a hynny mewn golygfa o stryd yn Naples. Mae’r goleuo yn amlygu’r gweithredoedd o drugaredd gan bwysleisio’u harwyddocâd ysbrydol mewn byd cyffredin, daearol. Pobl gyffredin sydd yn y llun, nid seintiau delfrydol sy’n gwneud y gweithgareddau elusennol yn fwy grymus a pherthnasol.
- Ar y dde mae gwraig yn ymweld â dyn yn y carchar ac yn rhoi llaeth iddo o’i bron sy’n gyfeiriad at stori glasurol – Roman charity – am Pero sy’n bwydo ei thad Cimon yn y carchar i’w arbed rhag newynu.
- Yn y cefndir mae dau ddyn yn cario corff arall ond dim ond ei draed sydd i’w gweld.
- Mae pererin – y trydydd o’r chwith yn gofyn i dafarnwr am lety.
- Y Sant Martin o Tours yw’r pedwerydd o’r chwith sydd wedi rhwygo hanner ei ddillad a’u rhoi i’r cardotyn noeth ar flaen y llun. Mae chwedl am y sant hwnnw yn rhannu ei glogyn gyda chardotyn, a’r noson honno mae’n breuddwydio mai clogyn yr Iesu ydyw a phan ddihunodd fore trannoeth roedd y clogyn yn gyfan eto.
- Mae e hefyd yn cysuro’r cardotyn sydd yn anabl.
- Mae Samson, yr ail o’r chwith yn yfed dŵr o asgwrn gên asyn.
Cafodd y Misericordia yn wreiddiol ei sefydlu yn 1244 yn Fflorens i ddarparu gofal meddygol rhad, gwasanaeth ambiwlans a chladdu a gwaith cymdeithasol ac elusennol. Roedd yr aelodau yn gwisgo clogyn gyda hwd fel y gwelir yn y llun.
Fe ddaw’r gair Miserere o’r Lladin yn golygu – misery/ dioddefaint – a ‘cor’ – sef calon – yn dynodi calon sy’n ymestyn at ddioddef eraill ac mewn cyd-destun crefyddol yn cyfeirio at gariad trugarog a maddeuant Duw.
Er ei waith llwyddiannus ni chafodd bardwn gan y Pab ac fe aeth i ynys Malta i geisio ennill statws Marchog Sant Ioan – Knight of the order of St John o Jerwsalem. Yn eglwys gadeiriol St John yno mae’r llun ‘The Beheading of St John the Baptist’ a ‘St Jerome Writing’.
Ond bu’n rhaid iddo ddianc eto ar ôl digwyddiad treisgar arall ac aeth i Sicily ac mae lluniau ganddo yno ond mae llawer ohonynt yn rhai tywyll iawn yn adlewyrchiad o’i gyflwr meddyliol mae’n siŵr.
Gadawodd a dychwelyd i Tuscany yn yr Eidal gyda’r bwriad mae’n debyg o geisio maddeuant y Pab eto ond bu farw cyn derbyn hynny.
Mae Emyn Elfed 130: Pob peth ymhell ac agos sy’n dangos Duw i’r byd – yn datgan yn y gytgan – Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw, gan hynny dewch a llawenhewch, cans da yw Duw. – bod Duw yn cwrdd ag angen dyn, yn ddoeth ymhob dibenion, ac sy’n cynnal ein heneidiau.
Rydym i gyd mor gyfarwydd â Dameg y Samariad Trugarog – gyda’r dyn ar y llawr yn cael ei helpu gan elyn iddo – y Samariad. Bydd llawer yn dweud mai pedwar cymeriad sydd yn y stori – y teithiwr, y Lefiad, yr Offeiriad a’r Samariad ond yn ôl y Parch Rosa Hunt mae pump – o gynnwys y lleidr – heb y lleidr ni fyddai stori o gwbl meddai. Byddai Caravaggio meddai yn gallu uniaethu â’r lleidr – y dyn drwg – anodd yw deall trugaredd heb ei brofi. Po fwyaf ein pechodau y mwyaf y dylai ein trugaredd fod.
“Trugaredd” yw un o brif rinweddau Duw, sy’n cael ei amlygu trwy ei garedigrwydd, ei dosturi, a’i barodrwydd i faddau pechodau. Mae’n gysyniad canolog yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd, gan ddisgrifio natur drugarog Duw tuag at ddynolryw. Mae’r cysyniad hwn yn cael ei gyfleu gan wahanol eiriau yn yr ieithoedd gwreiddiol:
Yn yr Hebraeg, sef iaith wreiddiol yr Hen Destament, y prif dermau yw hesed (sy’n cynnwys yr ystyr o ffyddlondeb a chariad cyson) a racham (sy’n golygu tosturi dwfn, tebyg i gariad rhiant).
Yn y Groeg – sef iaith wreiddiol y Testament Newydd, y gair a ddefnyddir amlaf yw eleos (sy’n cyfeirio at dosturi gweithredol, yn aml mewn ymateb i angen).
Mae llawer o adnodau enwog yn pwysleisio trugaredd Duw . Ym mhennod 34 Llyfr Ecsodus dywedir fel hyn:
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
Duw: “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i’m cyfarfod i. Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos i’r mynydd. Paid hyd yn oed gadael i’r defaid a’r geifr a’r gwartheg bori o flaen y mynydd.”
Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna’n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â’r ddwy lechen gydag e. A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. Dyma’r ARGLWYDD yn pasio heibio o’i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau’r tadau sy’n gadael eu hôl ar eu plant a’u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.” Ac ar unwaith dyma Moses yn ymgrymu yn isel i addoli, a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae’r bobl yma’n ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a’n pechod ni, a’n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?”
Mae Salm 103 yn sôn am gariad Duw – a dyma ddetholiad ohoni:
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!
Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd!
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!
Paid anghofio’r holl bethau caredig a wnaeth.
Mae wedi maddau dy fethiant i gyd,
ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.
Mae wedi dy gadw di rhag mynd i’r bedd,
ac wedi dy goroni gyda’i gariad a’i drugaredd….
Mae’r ARGLWYDD bob amser yn deg,
ac yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu…
Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;
mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,
nac yn dal dig am byth….
mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n ei barchu…
Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi ei greu! —
ym mhobman ble mae e’n teyrnasu.
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!
Trugaredd yw byrdwn dameg y Mab Afradlon wrth gwrs. Mae’n anogaeth arnom i fod yn drugarog tuag at eraill – i arddangos trugaredd – fel y gwnaeth y tad yn y ddameg.
Yn ei lythyr at yr Effesiaid mae Paul yn dweud fel hyn ar ddechrau’r ail bennod:
Ar un adeg roeddech chi’n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dŷn ni wedi’n hachub! Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda’r Meseia Iesu a’n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – rydyn ni wedi’n huno gydag e! Felly bydd haelioni Duw i’w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i’r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dydych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! Dydych chi’n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. Duw sydd wedi’n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi’n creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi’u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.
Wrth orffen Caniadaeth y Cysegr ar y thema o drugaredd cyfeiriwyd at y gair -Trugareddau – sy’n golygu, fel y dywedwyd ar y dechrau – y bric a brac – yr addurniadau diwerth gan bwysleisio mai’r pethau bach – dibwys efallai – sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr – megis rhoi brechdan i rywun ac y daw’r nerth i fod yn drugarog trwy i ni brofi trugaredd Duw.
Myfyrdod
Emyn 166: Ni fethodd gweddi daer erioed a chyrraedd hyd y nef, ac mewn cyfyngder, f’enaid, rhed yn union ato ef,
Ac yn y pennill olaf:
Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
heb fesur a heb drai,
a’i drugareddau hyfryd sy’n
dragywydd yn parhau.
Y Fendith