Mae Cristnogaeth yn codi nifer fawr o gwestiynau onid yw – cwestiynau i’n herio.
Pa gwestiynau fyddech chi tybed am eu holi a chael atebion iddynt?
A oes ateb i bob cwestiwn? Neu a oes nifer o bosibiliadau efallai?
Mater o farn fyddai’r rheini mae’n siŵr.
Yn yr efengylau mae pobl yn holi tua 180-190 cwestiwn i Iesu. Mae e’n cynnig ateb i (efallai) 8 ohonyn nhw. Mae Iesu ei hunan yn gofyn tua 300 o gwestiynau. Efallai nad mater o sicrwydd yw ffydd, ond mater o ddysgu sut i holi, a gwerthfawrogi, a holi cwestiynau da.
Roedd holi cwestiynau yn ganolog i fywyd ac addysgu’r Iesu.
Mae’n ein holi o hyd heddiw – ond cyn mynd ati i drafod rhai o’r cwestiynau yn Efengyl Mathew gadewch i ni ddechrau ein gwasanaeth drwy ganu ein hemyn cyntaf.
Emyn:228: Gair disglair Duw…
Daw’r cwestiwn mwyaf gan yr Iesu ei hun:
Fel hyn y ceir yr hanes ym mhennod 16 o Efengyl Mathew: ( 16:13)
Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i’w ddisgyblion:
Iesu: Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?
“Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto’n dweud Jeremeia neu un o’r proffwydi.”
Iesu: Ond beth amdanoch chi? Pwy dych chi’n ddweud ydw i?
Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy’r Meseia, Mab y Duw byw.”
Iesu: Rwyt ti wedi dy fendithio’n fawr, Simon fab Jona, am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd. A dw i’n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‛y garreg‛). A dyma’r graig dw i’n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi. Dw i’n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti’n ei rwystro ar y ddaear wedi’i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti’n ei ganiatáu ar y ddaear wedi’i ganiatáu yn y nefoedd.
Yna dyma Iesu’n rhybuddio’i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Ie – Pwy ydych chi’n dweud ydw i? a Pedr yn ei ateb yn gadarn – Ti ydy’r Meseia, Mab y Duw byw.
Dyma gwestiwn sydd yn ofynnol i ni ei ateb – Pwy yw’r Iesu? – i ni’n bersonol heddiw.
Mae’n holi sawl cwestiwn yn ei Bregeth ar y Mynydd – ac yma mae’r darn cyfarwydd am garu gelynion.
Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i’ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim.
Ac mae tri chwestiwn yn dilyn, un ar ôl y llall:
Pam dylech chi gael gwobr am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi?
Onid ydy hyd yn oed y rhai sy’n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?
Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl rydych chi’n eu cyfarch, beth rydych chi’n ei wneud sy’n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae’ch Tad nefol yn berffaith.
Mae’n dweud wrthym hefyd i beidio â phoeni gan holi onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?
A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy’n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae’n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae’ch ffydd chi? Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ Y paganiaid sy’n poeni am bethau felly.
Ai gyngor i ni yw:
Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. Mae’n well wynebu problemau un dydd ar y tro.
Trwy ofyn cwestiwn mae’n ein herio i beidio beirniadu pobl eraill trwy ddweud:
“Peidiwch bod yn feirniadol o bobl eraill, ac wedyn wnaiff Duw mo’ch barnu chi. Oherwydd cewch chi’ch barnu yn yr un ffordd ag rydych chi’n barnu pobl eraill. Y pren mesur rydych chi’n ei ddefnyddio ar bobl eraill fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi.
Ac yn gofyn wedyn:
“Pam wyt ti’n poeni am y sbecyn o flawd llif sydd yn llygad rhywun arall, pan mae trawst o bren yn sticio allan o dy lygad dy hun!? Sut alli di ddweud, ‘Gad i mi dynnu’r sbecyn yna allan o dy lygad di,’ pan mae trawst yn sticio allan o dy lygad dy hun? Rwyt ti mor ddauwynebog! Tynna’r trawst allan o dy lygad dy hun yn gyntaf, ac wedyn byddi’n gweld yn ddigon clir i dynnu’r sbecyn allan o lygad y person arall.
Onid yw hynny’n wers i’n gwleidyddion a’r rhai sy’n ymateb mor fyrbwyll a chreulon ar y cyfryngau cymdeithasol?
Gweddi: Gadewch i ni ddarllen gweddi yn seiliedig ar y Bregeth ar y Mynydd – am yn ail linell – y gynulleidfa i ddarllen y llinellau mewn print bras:
Golchi traed dy ddisgyblion
ac estyn cwpan o ddŵr i’r sychedig;
iachau’r cleifion a chysuro’r trist,
a mynd o amgylch gan wneud daioni;
gwasanaethu’r anghenus a chynorthwyo’r gwan,
a thrwy hynny dy wasanaethu di;
caru ein gelynion, gweddïo dros y rhai sy’n ein herlid,
a bod yn blant i’n Tad sydd yn y nefoedd;
pa beth bynnag y dymunwn i ddynion wneud i ni,
gwnawn ninnau felly iddynt hwy;
hyn yw’r Gyfraith a’r Proffwydi,
hyn a ddysgaist i ni.
Cynorthwya ni, yn ddiolchgar ac yn ufudd,
i gerdded llwybrau dy gariad:
dyma ni at dy wasanaeth, Arglwydd.
A gadewch i ni gyd-adrodd Gweddi’r Arglwydd – Ein Tad…
Os cofiwch chi fe aeth mewn cwch gyda’i ddisgyblion ac yn ‘gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu’n drwm drwy’r cwbl! Dyma’r disgyblion yn mynd ato mewn panig a’i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Rŷn ni’n mynd i foddi!”
Ac yntau’n gofyn:
Iesu: Pam ydych chi mor ofnus? … Ble mae’ch ffydd chi?
Yna cododd ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel. Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth wnawn ni o’r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Cawn hanes sawl un yn dod at yr Iesu i ofyn am rywbeth – am wyrth neu i iachau rhywun ac yntau ’n eu herio trwy holi:
Ydych chi’n credu go iawn y galla i wneud hyn? (Mathew 9:28)
Ydyn ni’n credu? Ble mae ein ffydd ni felly?
Ym mhennod 14 cawn ei hanes yn cerdded ar y dŵr a’r Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion:
Iesu: Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.
A Pedr yn ateb:
Pedr: Arglwydd, os mai ti sydd yna gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.
Iesu: Iawn, tyrd.
Yna camodd Pedr allan o’r cwch a dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu. Ond pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan:
Pedr: Achub fi, Arglwydd!
Dyma Iesu’n estyn ei law a gafael ynddo…
ac mae’n gofyn dau gwestiwn y dylem ein holi ni ein hunain:
Iesu: Ble mae dy ffydd di? Pam wnest ti amau?
Dau gwestiwn i ni holi ein hunain siŵr o fod.
Emyn: 755: Y cysur i gyd…
Mae Iesu yn cael ei gwestiynu’n aml yn yr efengylau. Mae’r dyn ifanc cyfoethog yma yn holi Iesu:
Dyn: Pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?
Iesu: Pam wyt ti’n gofyn cwestiynau i mi am beth sy’n dda? Does dim ond Un sy’n dda, a Duw ydy hwnnw. Os wyt ti eisiau mynd i’r bywyd, ufuddha i’r gorchmynion.
Dyn: Pa rai?
Iesu: Peidio llofruddio, peidio godinebu, peidio dwyn, peidio rhoi tystiolaeth ffals, gofalu am dy dad a dy fam,’ a ‘caru dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.
Dyn: Dw i wedi cadw’r rheolau yma i gyd, ond mae rhywbeth ar goll.”
Iesu: Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho’r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.
Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
A chwestiwn arall i holi ein hunain:
A yw cysur materoliaeth yn ein hatal rhag ymateb yn llwyr i ofynion ein ffydd?
Mae awdurdod yr Iesu yn cael ei herio yn y deml ym mhennod 21 o Efengyl Mathew pan ofynnir iddo gan y prif offeiriad:
Prif offeiriad: Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti?
Pwy roddodd yr awdurdod i ti?
A’r Iesu yn ei ateb ef a’r arweinwyr Iddewig eraill gyda chwestiwn arall:
Iesu: Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi’r ateb i mi, ateba i’ch cwestiwn chi. Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?
Wrth drafod y peth gyda’i gilydd, dyma nhw’n dweud:
Offeiriad: Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’, rhag i’r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.
Felly dyma nhw’n gwrthod ateb:
Offeiriad: Dŷn ni ddim yn gwybod.
Iesu: Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith.
Yn y bennod nesaf mae’r Phariseiaid yn ei herio ac yn ceisio ei gornelu trwy holi cwestiwn gwleidyddol iddo am dalu treth i Gesar:
Pharisead: Athro, rŷn ni’n gwybod dy fod ti’n onest a wir yn dysgu ffordd Duw. Ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Felly, beth ydy dy farn di? Ydy’n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
Ond roedd Iesu’n gwybod mai drwg oedden nhw’n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw:
Iesu: Rydych chi mor ddauwynebog! Pam ydych chi’n ceisio nal i? Dangoswch i mi ddarn arian sy’n cael ei ddefnyddio i dalu’r dreth.
Dyma nhw’n dod â darn arian iddo, a dyma fe’n gofyn iddyn nhw,
Iesu: Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae’r arysgrif yma’n sôn?”
Pharisead: Cesar.
Felly meddai Iesu,
Iesu: Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”
Roedden nhw wedi’u syfrdanu pan glywon nhw ei ateb, a dyma nhw’n mynd i ffwrdd.
A dyna chi’r Iesu yn ateb cwestiwn trwy holi un arall ac yn osgoi cael ei ddal mewn rhwyd, fel y bwriadodd y Phariseaid.
Beth mae Duw yn ei ofyn gennym? Beth ddylai ein hymateb fod? – Mae’r rhain mae’n siŵr yn gwestiynau i’n holi ni ein hunain.
Dyma ateb i ni o’r Hen Destament yn dilyn sawl cwestiwn – a hynny o Lyfr y proffwyd Micah(6:8)
Sut alla i dalu i’r ARGLWYDD?
Beth sydd gen i i’w gynnig wrth blygu
i addoli y Duw mawr?
Ydy aberthau i’w llosgi yn ddigon?
Y lloi gorau i’w llosgi’n llwyr?
Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,
neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?
Ddylwn i aberthu fy mab hynaf
yn dâl am wrthryfela? –
rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?
Na, mae’r ARGLWYDD wedi dweud beth sy’n dda,
a beth mae e eisiau gen ti:
Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw’n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
Ie – i weithredu’n gyfiawn, i garu ein cyd-ddyn, i ddangos trugaredd ac i gerdded yn wylaidd gyda Duw.
Emyn: 386: O Grist, tydi yw’r ffordd… (Tôn: Diolch i Ti)
Gadewch i ni ddarllen y fendith gyda’n gilydd eto – am yn ail linell:
Arglwydd, dysg ni:
Trwy weddïau Iesu,
Arglwydd, dysg ni i weddïo.
Trwy haelioni Iesu,
Arglwydd, dysg ni sut i roi.
Trwy lafur Iesu,
Arglwydd, dysg ni sut i weithio.
Trwy gariad Iesu,
Arglwydd, dysg ni sut i garu.
Trwy groes Iesu,
Arglwydd dysg ni sut i fyw. Amen