Ail Sul yr Adfent

Mab Mair

Gwasanaeth Ail Sul yr Adfent

Mair: Cerdd Tudur Dylan ( Nadolig Llawen: Cyhoeddiadau Barddas 2007)

Yn ein gwasanaeth aelodau diwethaf buom yn ymchwilio i un o deitlau’r Iesu sef, Mab Dafydd. Y bore ‘ma edrychwn ar deitl arall iddo sef, Mab Mair, wrth i ni geisio paratoi at y Nadolig ar ail Sul yr Adfent. Ond gadewch i ni ddechrau drwy ganu:

Carol 443: Daeth eto ŵyl y geni…

Fel hyn yr adroddir hanes Mair yn efengyl Luc:

Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf ac wedi’i haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. Dyma’r angel yn mynd ati a’i chyfarch:

Angel: Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae’r Arglwydd gyda ti!”

Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo’n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. Felly dyma’r angel yn dweud wrthi,

Angel: Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr. Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab. Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”

Ond meddai Mair:

Mair: Sut mae’r fath beth yn bosib?

Dyma’r angel yn esbonio iddi:

Angel: Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy’n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi’n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog!  Rwyt ti’n gweld, does dim byd sy’n amhosib i Dduw ei wneud.”

A dyma Mair yn dweud:

Mair: Dw i eisiau gwasanaethu’r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi’i ddweud ddod yn wir.

Wedyn dyma’r angel yn ei gadael hi.

Mewn erthygl yn Y Tyst adeg yma’r llynedd roedd y Parch Noel Davies yn trafod Credo Nicea, sef un o gredoau hynaf yr Eglwys Gristnogol, yn dyddio o’r 4edd ganrif. Roedd yr Ymerawdwr Cystennin wedi gwahodd pobl o bob rhan o’r byd Cristnogol yn y flwyddyn 325 i Nicea, sef dinas fodern Iznik yn Nhwrci heddiw. Daeth 300 o esgobion ynghyd ag offeiriaid a chynorthwywyr – gan gynnwys rhai merched – i gytuno ar y fersiwn gyntaf o’r gredo hon.

Dim ond dau ffigwr hanesyddol (heblaw am Iesu ei hun) sy’n cael eu henwi yn y credo, meddai. Y cyntaf yw Mair. Yr ail yw Pontius Pilat. Ac maent yn ymddangos yn agos iawn at ei gilydd – fel hyn:

Er ein mwyn ni ac er ein hiachawdwriaeth disgynnodd yr Arglwydd Iesu Grist o’r nefoedd; trwy nerth yr Ysbryd Glân daeth yn gnawd o Fair Forwyn, ac fe’i gwnaed yn ddyn. Fe’i croeshoeliwyd drosom dan Pontius Pilat. Dioddefodd angau ac fe’i claddwyd.

Ganwyd o Fair, croeshoeliwyd dan Pilat. Roedd un yn ifanc a bregus; roedd yn ofnus mae’n siŵr; roedd yn ddiniwed, anadnabyddus, a dibrofiad yn sicr; nid oedd ganddi ddylanwad na grym ym myd y pwerus. Roedd y llall yn meddu ar bŵer, pŵer Rhufain. Roedd yntau wedi dychryn hefyd mae’n siŵr ac yn nerfus wrth i’r torfeydd alw am groeshoelio Iesu ac fe gafodd Iesu ei groeshoelio i blesio’r dyrfa ac i gynnal statws Pilat yn yr Ymerodraeth.

Ac meddai Noel Davies: ‘Wrth galon ein ffydd y mae merch ifanc a fu fyw i’w henaint yn gorfod ymgodymu â dagrau dirdynnol bob dydd wrth gofio gwylio ei mab yn marw ar groes. A Pilat hefyd yno yn y credo. Yn y diwedd – dyna yw ergyd y Credo, mae’n siŵr – pwrpas y Duw y gobeithiwn ynddo yw mai’r bregus a’r di-rym, fel Mair, sy’n cael eu ‘dyrchafu’ ac sy’n medru ‘dwyn i lawr lywodraethwyr (sy’n chwennych grym llwyr – heddiw fel y pryd hwnnw ) o’u gorseddau’.

Hynny hefyd yw byrdwn Cân Mair yn Efengyl Luc sy’n dilyn ei hymweliad â’i chyfnither Elisabeth. Caiff ei galw hefyd – y Magnificat sydd yn dechrau yn Lladin gyda’r geiriau – Magnificat anima mea DominumMae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd…

Mae’n gân o fawl sy’n clodfori cariad a chyfiawnder Duw ac yn arbennig felly i’r tlawd a’r rhai ar gyrion cymdeithas. Mae’n dechrau ar nodyn bersonol gan roi diolch am y fraint o roi genedigaeth i’r Meseia:

“O, dw i’n moli’r Arglwydd!

Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!

Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,

ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes

yn dweud fy mod wedi fy mendithio.

Mae’n canmol Duw am ei bŵer, ei sancteiddrwydd a’i drugaredd:

Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –

Mae ei enw mor sanctaidd!

Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy’n ymostwng iddo.

Yna mae’n edrych ymlaen at drawsnewid y byd drwy’r Meseia – gan ddarostwng y balch a chodi’r rhai gwylaidd a bwydo’r tlawd – yn wir, mae am droi’r byd ben i waered. Mae’n ein hatgoffa y daw gwir lawenydd mewn byd lle mae pawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a byd lle nad oes unrhyw un yn ecsploetio eraill.

Mae wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! –

Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.

Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,

ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n ‛neb‛.

Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog,

ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!

Wrth orffen ei chân mae Mair yn clodfori Duw am ei ffyddlondeb:

Mae wedi helpu ei was Israel,

a dangos trugaredd at ei bobl.

Dyma addawodd ei wneud i’n cyndeidiau ni –

dangos trugaredd at Abraham a’i ddisgynyddion am byth.”

Mae ei hanes yn y Testament Newydd yn pwysleisio ei gwyleidd-dra a’i hufudd-dod a hynny fel esiampl i Gristnogion ar hyd yr oesau ac fel y dywed yn ei chân – o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio – a’i Magnificat yn rhan mor bwysig o addoliad Catholigion. Mae dyddiau sanctaidd wedi’u neilltuo iddi  a  chodwyd sawl cysegrfan iddi fel rhai enwog yn Lourdes yn Ffrainc, Our Lady of Fatima ym Mhortiwgal a’r un yn Guadalupe ym Mecsico– fel ag y sydd i’w mam y Santes Ann a’i thad Sant Joachim. Mae eglwys Gatholig yn Abertawe wedi’i henwi ar ôl y ddau ac maent yn nawddsaint rhieni a mamgus a tadcus mae’n debyg! Mae dydd gŵyl iddynt ar Orffennaf y 26ain.

Cân Mair

O, mae f’enaid i’n mawrygu’r Arglwydd fy Nuw!
F’ysbryd sydd yn gorfoleddu, Arglwydd fy Nuw!
Edrych wnaeth f’Achubwr addfwyn
Ac ystyried ei lawforwyn
Er ei bod yn ferch gyffredin, Arglwydd fy Nuw!

O hyn allan, pob cenhedlaeth o bobl Dduw
Fydd yn dweud y cefais fendith, o bobl Dduw.
Wir, mi wnaeth yr un sy’n nerthol
Imi bethau mawr rhyfeddol;
Sanctaidd yw ei enw dwyfol, o bobl Dduw.

Ei drugaredd sy’n dragywydd, nawr ac am byth,
Ar y rhai sy’n ofni’r Arglwydd, nawr ac am byth.
Do, defnyddiodd nerthoedd cryfion
I wasgaru’r balch eu calon
A darostwng tywysogion, nawr ac am byth.

Anrhydeddu’r bobl werin wnaeth f’Arglwydd Dduw
Llenwi boliau’r rhai mewn newyn wnaeth f’Arglwydd Dduw.
Anfon ymaith y cyfoethog,
Ond i’w bobl mae’n drugarog,
Cofio byth yr hen gyfamod wnaeth f’Arglwydd Dduw.

Pob gogoniant rhown i’r Tad, Amen ac Amen
Ac i’r Mab a’r Ysbryd Glan, Amen ac Amen.
Fel yr oedd yn y dechreuad
Mae’r awr hon, a bydd yn wastad
Rhof fy einioes iddo’n rhad, Amen ac Amen.

tôn: Ar Hyd y Nos
geiriau: Y Magnificat, addas. Cass Meurig

Dyma hanes y geni yn ei geiriau hi:

Mair: Mair yw fy enw i a fi oedd mam Iesu. Fe ges i freuddwyd lle roedd yr angel Gabriel yn dweud y byddwn i’n cael baban ac y bydde fe’n rhyfeddol. Fe wnes i gofio geiriau’r Proffwyd Eseia: Pan fydd popeth yn edrych yn dywyll fe gewch weld golau disglair. Bydd plentyn yn cael ei eni – brenin newydd i bobl Dduw. Cynghorwr doeth a Thywysog heddwch – dyna fydd ei enw. Bydd hwn yn frenin teg a doeth a bydd heddwch yn y wlad am byth.

 Nid oeddwn i yn gallu deall pam oedd Duw wedi fy newis i. Pobl gyffredin iawn oedd Joseff a finnau ond roedd Duw am inni fod yn rhan o rywbeth rhyfeddol. Fe wnes i gadw’r cyfan yn gyfrinach. Ac yna digwyddodd y cyfan yn union fel roedd yr angel wedi ei ddweud. Roedd yn rhaid inni fynd i Fethlehem ond roeddwn i’n disgwyl y babi.

Pan gyrhaeddon ni Fethlehem o’r diwedd, roedd y dref yn llawn o bobl. Dim un stafell ar ôl. Dim un gwely ar ôl. Pob gwesty’n llawn. Dim ond un lle oedd ar ôl – lle roedd yr anifeiliaid yn cysgu. A dim ond cyrraedd mewn pryd wnaethon ni. Yn fuan wedyn cafodd y babi  ei eni. Doedd dim crud i’w roi ynddo – dim ond y preseb oedd yn dal bwyd yr anifeiliaid. Llanwodd Joseff hwn efo gwellt glân a lapiais i’r babi bach yn dynn.

Doedd gen i ddim dewis ond derbyn y cynnig i orffwys yn y beudy. Roedd yr holl beth yn rhyfeddol. Geni baban arbennig a fyddai’n frenin. Y Doethion o’r dwyrain yn dod ag aur, thus a myrr. Y bugeiliaid yn cyrraedd wedi gweld angylion wrth wylio eu praidd liw nos.

Stori ryfeddol a’r peth mwyaf rhyfeddol yw ei bod hi wedi cael ei hadrodd bob blwyddyn am dros ddwy fil o flynyddoedd ac ei bod hi yr un mor rhyfeddol heddiw ac yr oedd hi y tro cyntaf y cafodd hi ei chlywed.

 Dyma fonolog arall gan Mair yn adrodd yr hanes amdani hi a Joseff yn ffoi i’r Aifft:

Bu’n rhaid i Joseff a minne godi’n fore a gadael ein llety yn y stabl ym Methlehem wedi rhybudd gan y doethion. Yn nôl pob tebyg roedd Herod yn benderfynol o ganfod y baban Iesu a’i ladd. Pwy fydde’n meddwl y byddai’n rhaid i Joseff a minne ffoi i’r Aifft? Roedden ni’n byw bywyd tawel a pharchus yn Nasareth. Doedd yr un ohonon ni wedi bod mewn unrhyw drafferth gyda’r awdurdodau, ond nawr roedd yn rhaid i ni ffoi ar fyrder er mwyn osgoi cynddaredd y Brenin Herod a diogelu bywyd ein baban newydd anedig.

Yn rhyfeddol, roedd y brenin Herod yn gweld genedigaeth bachgen bach i deulu di-nod mewn stabl ym Methlehem fel bygythiad i’w orsedd. Roedden ni wedi cael rhybudd mewn breuddwyd y byddai Iesu yn troi allan i fod yn berson cwbl arbennig ac fy mod i yn cyflawni dymuniad Duw ond doeddwn i ddim wedi disgwyl hyn. Mae’n rhybudd i bawb am freuder bywyd a’r modd y gall amgylchiadau newid yn ddisymwth.

Ac felly, pan fyddwn yn clywed am bobl sy’n gorfod ffoi gyda’u teulu o’u gwlad eu hunain ac yn gorfod mentro gan wynebu pob math o beryglon dylen ni gydymdeimlo â’u sefyllfa a bod yn barod i’w helpu – os gall ddigwydd i mi a Joseff a’n baban, gall ddigwydd i unrhyw un.

Carol:447 Engyl glân o fro’r gogoniant…

Yn dilyn hanes y geni dim ond ambell gyfeiriad arall a geir ati yn y efengylau. Yn ddiweddarach fe welwn Mair yn mynd â’i mab i’r deml pan oedd yn ddeuddeg oed ac yntau yn mynd ar goll ac yntau ’n gofyn – ‘Pam fuoch yn chwilio amdanaf onid oeddech yn gwybod mai yn nhŷ fy Nhad mae’n rhaid i mi fod?’ – a dywedir i Mair ‘gadw’r cyfan yn ddiogel yn ei chalon,’ fel yr adroddir yr hanes yn Efengyl Luc.

Yn Efengyl Ioan cyfeirir ati yn y briodas yng Nghana Galilea:

 Dau ddiwrnod wedyn roedd priodas yn Cana, pentref yn Galilea. Roedd mam Iesu yno ac roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi derbyn y gwahoddiad i’r briodas hefyd.  Pan oedd dim gwin ar ôl, dyma fam Iesu’n dweud wrtho, “Does ganddyn nhw ddim mwy o win.”

Atebodd Iesu, “Mam annwyl, gad lonydd i mi. Beth ydy hynny i ni? Dydy fy amser i ddim wedi dod eto.”

 Ond dwedodd ei fam wrth y gweision, “Gwnewch beth bynnag fydd yn ei ddweud wrthoch chi.”

Ceir cyfeiriad ati yn Efengyl Marc:

Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a’i frodyr yno. Dyma nhw’n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i’w alw.  Roedd tyrfa yn eistedd o’i gwmpas, a dyma nhw’n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”

Atebodd, “Pwy ydy fy mam a’m brodyr i?”

 “Dyma fy mam a’m brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o’i gwmpas.  “Mae pwy bynnag sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”

Ac ymddangosiad olaf ohoni yw’r un wrth y groes fel yr adroddir gan Ioan( 19:26):

Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a’i fodryb hefyd, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.  Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a’r disgybl oedd Iesu’n ei garu yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,” ac wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda’r disgybl hwnnw.

Mae Mair yn esiampl i ni o rywun sy’n ymateb i Dduw  – o sut i fyw bywyd y Cristion, sy’n ein tynnu’n agos at yr Iesu. Mae’n caniatáu i Dduw newid ei bywyd ac yn ei chân – y Magnificat – mae’n dweud bod ffydd yn fwy na rhywbeth personol, ond yn fodd i ni weithio i newid y byd a chreu byd o gariad a chyfiawnder, byd lle gallwn i gyd ffynnu.

Mae’r weledigaeth yn ei chân yn atseinio ar draws yr efengylau. Yn y synagog mae’r Iesu yn darllen o lyfr y proffwyd Eseia ym mhennod 4 o Efengyl Luc:

“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,

oherwydd mae wedi fy eneinio i

i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.

Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,

a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl,

a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,

a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.

Yn Efengyl Mathew mae’n dweud wrthym sut y cawn ein barnu:

 “A byddan nhw’n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti’n llwgu neu’n sychedig, neu’n nabod neb neu’n noeth neu’n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’  Bydd yn ateb, ‘Credwch chi fi, beth bynnag wrthodoch chi ei wneud i helpu’r un lleiaf pwysig o’r rhain, gwrthodoch chi ei wneud i mi.’

Mae Mair yn crynhoi cariad Duw a’r angen i garu ein cymydog – ac fel y dywedodd Tudur Dylan yn yr englyn sy’n agor y gerdd a ddarllenwyd ar ddechrau’r gwasanaeth –  mae neges Cân Mair  – y Magnificat – yn ganolog i stori ac ysbryd yr Ŵyl:

a chawn o hyd mae’i chân hi,

yw’r gân yn nrama’r geni.

Gweddiwn:

Cyduned pawb i gyfarch Baban Mair,

rhyfeddol un yn cysgu yn y gwair,

gogoniant Duw y Tad a’i nerthol Air.

Amlygwn ninnau beunydd ar ein rhawd

yr agwedd meddwl gostyngedig, tlawd,

sy’n eiddo pawb yn Iesu Grist, ein Brawd.

Ni fynnodd gydraddoldeb dwyfol un

ond agwedd gwas, gan ei wacáu ei hun,

ac ufuddhau hyd angau ar y bryn.

Am hynny, tra dyrchafodd Duw ein rhi,

a rhoddodd arno enw Iesu cu,

enw goruwch pob enw arall sy.

Yn enw Iesu plygai glin a phen,

Cyffesai tafod pawb is nefoedd wen

mai’n Harglwydd Iesu biau daer a nen – Haleliwia, Amen.

Carol:471 Suai’r gwynt…

Cymun a Myfyrdod

Y gair yn gnawd

Wrth edrych ar y preseb

beth weli di?

Y darlun bach twt o’r baban yn cysgu,

drama ddiniwed, anwyldeb y cast,

neu frenin cyfiawnder yn cyffwrdd â’n llanast.

Mae’r stori ar gardiau yn llawer rhy lân

a’r gwir, rhy ryfeddol i ddweud yn ein cân.

Daeth Iesu i brofi’r boen a’r camdrin

i achub byd bregus, daeth yn fregus ei hun.

Oherwydd, ym Methlehem fe ddaeth y gair yn gnawd

Brenin brenhinoedd yn noeth ac yn dlawd;

yn un ymhlith miloedd yn ffoi nerth ei draed

a milwyr croch Herod yn daer am ei waed;

achos mae teyrnas Dduw yn un pen i waered,

yn lledu trwy gariad yr un ddaeth i’n gwared.

Yng ngolwg y byd, mae’r cynllun yn ffôl,

Ond fel baban daeth Duw i gymryd ei fyd yn nôl.

Carol 464: Ar gyfer heddiw’r bore…

Y fendith

Llawenhawn o weld lliwiau’r Adfent a’r Nadolig,

ond llawenhawn fwyfwy

gan na ellir byth ddiffodd

gwir oleuni Crist.

Tyrd i’n bywydau, Arglwydd Iesu,

a chynnau ynom oleuni a fflam cariad nad ydynt byth yn diffodd. Amen.