Geni Mab Duw
Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni,
mab wedi cael ei roi i ni.
Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.
A bydd yn cael ei alw yn
Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,
Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.
Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,
a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw
i orsedd Dafydd a’i deyrnas.
Gadewch i ni ganu’r garol gyntaf rhif: 452: Clywch lu’r nef yn seinio’n un, sy’n cyfarch y Crist y Ceidwad dyn, Tad Tragwyddoldeb, Tywysog heddwch a Haul Cyfiawnder.
Cyfieithiad yw’r garol honno o’r un Saesneg – ‘Hark! the herald angels sing’ – a gyfansoddwyd gan Charles Wesley – un o emynwyr mawr y Saesneg, ac un a chanddo gysylltiadau Cymreig cryf, am iddo briodi Sarah Gwynne o blasty’r Garth ger Cilmeri. Daeth Charles Wesley yn Gristion yn 1738, a chael yr adeg honno, meddai, gân newydd yn ei galon; ac yn eithaf buan wedyn, lluniodd y garol hon yn ‘emyn ar gyfer dydd Nadolig’.
Yn nôl Wyn James ar Funud i feddwl i Radio Cymru, ysbrydolwyd y garol gan yr hanes yn Efengyl Luc am yr angylion – sef ‘llu’r nef’ – yn torri allan i foliannu wrth iddynt gyhoeddi i’r bugeiliaid y ‘newyddion da o lawenydd mawr’ fod Ceidwad wedi ei eni.
Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy’r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. Yn sydyn dyma nhw’n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o’u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma’r angel yn dweud wrthyn nhw, “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn. Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw, yn Bethlehem (tref y Brenin Dafydd). Ie, y Meseia! Yr Arglwydd! Dyma sut byddwch chi’n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi’i lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”
Yn sydyn dyma filoedd o angylion eraill yn dod i’r golwg, roedd fel petai holl angylion y nefoedd yno yn addoli Duw!
“Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf,
heddwch ar y ddaear islaw, a bendith Duw ar bobl.”
A dyna deitlau eraill ar y baban yn y crud – yr Achubwr, y Meseia, Yr Arglwydd.
Roedd dau reswm pam y torrodd yr angylion allan i ganu – a pham y canodd Charles Wesley yntau ar eu hôl, meddai Wyn James, gan annog ‘pob cenedl is y rhod’ i floeddio’n llawen. Y rheswm cyntaf yw pwyoedd yr Un a aned ym Methlem; ac yn ei garol, mae Wesley yn pentyrru disgrifiad ar ben disgrifiad o’r Person rhyfeddol hwnnw. Ef yw ‘Tad tragwyddoldeb’, ‘Duwdod yn y cnawd’, ‘Tywysog heddwch’, ‘Haul cyfiawnder’. A’r rheswm arall yw pamy daeth Iesu i’n byd. Daeth i fod yn ‘Immanuel’ – yn ‘Dduw gyda ni’ – i’n cymodi â Duw; ac yn fwy na hynny, i’n galluogi, trwy ffydd ynddo Ef, i ddod yn blant i Dduw. Neu, yng ngeiriau’r garol:
‘Ganwyd Ef, O! Ryfedd drefn,
Fel y genid ni drachefn.’
Rhoddir sawl teitl i’r Meseia yng ngeiriau’r proffwyd Eseia – Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd a Thywysog heddwch, ac yn ein gwasanaethau diweddar buom yn ymchwilio i deitlau’r Iesu – Mab Dafydd yn gyntaf – gan ymchwilio i’w achau, y ‘gwreiddyn Jesse’, trafod hanes Dafydd a’r Salmau a gyfansoddodd, a buom yn cymharu hanes y Brenin Dafydd a’r Iesu – y ddau’n frenhinoedd annisgwyl. Roedd Dafydd yn fugail a’r Iesu yn galw ei hun – y bugail da. Roedd y teitl Mab Dafydd yn arwydd o frenin ond roedd teyrnasiad yr Iesu wrth gwrs yn un ysbrydol yn hytrach nag yn ddaearol.
Unawd
Ar ail Sul yr Adfent trafodwyd y teitl, Mab Mair gan ganolbwyntio ar ei chân – y Magnificat sy’n ymddangos yn Efengyl Luc – ac mai ‘ei chân hi yw’r gân yn nrama’r geni,’ fel y dywedodd Tudur Dylan mewn cerdd iddi.
Ynddi mae’n edrych ymlaen at drawsnewid y byd drwy’r Meseia – gan ddarostwng y balch a chodi’r rhai gwylaidd a bwydo’r tlawd – yn wir, mae am droi’r byd ben i waered. Mae’n ein hatgoffa y daw gwir lawenydd mewn byd lle mae pawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a byd lle nad oes unrhyw un yn ecsploetio eraill. Dyma ran o’i chân:
Mae wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! –
Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,
ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n ‛neb‛.
Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog,
ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
Ac onid yw’r gân hon wedi’i hatseinio ar draws yr Efengylau? Daeth Crist i newid y byd ac i newid ninnau.
Cariad, cymod, cyfiawnder, a thrugaredd yw byrdwn y garol nesaf gan Alice Evans, un a fu’n byw ym Mhwll Trap, sef y garol rhif 445 – Engyl Bethlehem, seiniwch eto glod i Dduw am ddod mewn cnawd; yna – Seren Bethlehem dangos inni’r ffordd yn ôl i deyrnas Crist – a – Faban Bethlem, maddau inni am roi mawl i ti’n y crud heb dy arddel yn Waredwr, heb dy ddilyn yn y byd – gyda’r dymuniad ar y diwedd – tyrd o’r newydd i’n calonnau, tyrd i ddangos gwerth dy waed.
Yn Efengyl Mathew y ceir hanes ymweliad y doethion:
Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth o wledydd y dwyrain i Jerwsalem i ofyn, “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, ac rŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.”
Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?” “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw….
Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw’r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.”
Mae’r doethion yn holi ble mae’r Meseia i gael ei eni. Fe ddaw’r teitl hwn o’r gair Hebraeg – mashiach – yr eneiniog un a ddaeth i achub y byd, i ddod a heddwch a chyfiawnder i’r byd. Ef yw Brenin nef yn ôl y garol rhif 477 – Ganwyd Iesu’n nyddiau Herod… sy’n adrodd hanes ymweliad y doethion â’r stabl ym Methlehem:
Rhown ein moliant uwch ei breseb,
mae’r gogoniant ar ei wyneb,
wyneb Iesu, wyneb Iesu, Brenin nef.
Fel hyn mae Efengyl Ioan yn adrodd hanes dyfodiad y Meseia:
Daeth y Gair yn berson o gig a gwaed;
daeth i fyw yn ein plith ni.
Gwelon ni ei ysblander dwyfol—
ei ysblander fel Mab unigryw
wedi dod oddi wrth y Tad
yn llawn haelioni a gwirionedd.
Y Mab unigryw a’r Gair yn gnawd ydyw. Yn ôl William Bartley, yr adnod – Daeth y gair yn gnawd a thrigo yn ein plith, yw un o’r adnodau pwysicaf yn y Beibl. Iesu Grist yw ymgnawdoliad Duw ar y ddaear. Roedd yn gwbl ddwyfol ac yn gwbl ddynol, yn Dduw yn llawn ac yn ddynol yn llawn. Rhyfeddod yr efengyl yw i’r Duw sanctaidd, dibechod ddod yn gnawd ar ffurf Iesu Grist. Gobaith, canolbwynt a rhyfeddod y Nadolig yw i’r Gair ddod yn gnawd.
Ar ddiwedd pennod cyntaf Efengyl Mathew dywedir fel hyn:
Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel a’i ystyr ydy – Mae Duw gyda ni.
Cerdd Sion Aled: Liw nos fe sleifiaist…(YTyst)
Unawd
Gweddïwn:
Diolch i Ti, ein Tad, am dymor y Nadolig a Gŵyl y Geni pan gofiwn ac y diolchwn am y baban Iesu. Er nad oedd ond llety’r anifail yn gysgod i Mair a Joseff;
Diolch i Ti am anfon Iesu i’n byd.
Er nad oedd i’r baban ond preseb anifail yn grud; Diolch i Ti, O Dad, am anfon Iesu i’n byd. Am gân yr angylion uwch meysydd Bethlehem: ‘Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd.’
Derbyn ein diolch, nefol Dad.
Am y bugeiliaid yn gwylio eu praidd liw nos ac a aethant ar frys i weld y baban: Derbyn ein diolch, nefol Dad.
Am y doethion a ddaethant o’r dwyrain a’u hanrhegion o aur, a thus a myrr:
Derbyn ein diolch, nefol Dad.
Am y seren ddisglair a dywynnodd yn y ffurfafen ac a arhosodd uwch-law’r lle’r oedd y baban Iesu:
Derbyn ein diolch, nefol Dad.
Plygwn ninnau, gyda’r doethion o’r dwyrain, gyda’r bugeiliaid o’r meysydd, yn sŵn cân yr angylion, ac yn ngoleuni’r seren lachar ac addolwn ninnau Grist o’r nef.
Derbyn Di, O Dduw, ein bywydau, ein talentau, ein hamser; y cyfan a feddwn, fel y gallwn heddiw dystiolaethu amdano a’i addoli, nid yn unig ar adeg y Nadolig ond drwy bob dydd o’r flwyddyn. Amen.
Cerdd: Stori’r Nadolig Terwyn Tomos: (Cristion Tachwedd/Rhagfyr 2024)
Carol: 466 Ganol gaeaf noethlwm…
Cyfarchion a chyhoeddiadau
Deuawd
‘Nac ofnwch’ –‘ Peidiwch ag ofni’ a ddwedodd yr angylion wrth y bugeiliaid. ‘Paid bod ofn Mair’, dwedodd yr angel wrth Mair, mam yr Iesu. Mae’r ymadrodd Nac ofnwch neu Peidiwch â bod ofn, yn ôl rhai, yn digwydd 365 o weithiau yn y Beibl – ar gyfer pob diwrnod yn y flwyddyn – er efallai nad yr union eiriau ond mewn adnodau sy’n cyfleu’r un neges.
Llawenhawn fod Duw gyda ni, y daeth Ceidwad i’r holl fyd trwy ganu Carol: 479 Daeth Crist i’n plith…
Y fendith:
Yng nghanol oerni’r gaeaf, pan mae’r dydd mor fyr ac oriau’r tywyllwch mor hir, diolch iti am obaith a hapusrwydd y Nadolig. Diolch am Iesu Grist am iddo ddod yn faban syml i’r stabl – yn Fab Duw. Gad i ninnau brofi llawenydd y bugeiliaid, hapusrwydd Mair a ffydd y doethion y Nadolig hwn a gad i oleuni a chȃn y Nadolig fod yn ein calonnau bob un. Amen.