Yn ein gwasanaeth diwethaf buom yn trafod penodau cyntaf Actau’r Apostolion  a hanes arestio a lladd Steffan, y merthyr cyntaf – y saith pennod cyntaf. Ym mrawddeg olaf yr hanes am ladd Steffan mae Saul yn cael ei enwi yno fel un a ofalodd am glogyn y rhai oedd yn ymosod ar Steffan.

Dyma’r dyn a fu’n erlid dilynwyr cynnar y Crist ond fe oedd yr apostol Paul, y cenhadwr mwyaf mae’n siŵr yn hanes Cristnogaeth. Bu’n gyfrifol am ysgrifennu cyfran sylweddol o’r Testament Newydd yn ei lythyrau. Fe fu’n gyfrifol am lunio  hanes yr Eglwys Gristnogol cynnar. Cawn atgoffa ein hunain heddiw o sut y bu i Saul o Darsus ar y ffordd i Ddamascus droi yn Apostol Paul ond gadewch i ni yn gyntaf ganu’r emyn cyntaf.

Emyn: 774 Mi glywais lais yr Iesu’n dweud…

Mae’r wythfed bennod o Lyfr yr Actau yn dechrau gyda’r frawddeg:

Roedd Saul yno, yn cytuno’n llwyr y dylai Steffan farw.

Ac mae’r eglwys yn cael ei herlid yn ffyrnig gan Saul.

… a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.  Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu’n galaru’n fawr ar ei ôl. Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio’r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i’r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a’u rhoi yn y carchar.

Oedd, roedd Saul yn eu herlid yn greulon a’r hanes yn dweud iddo garcharu merched yn ogystal â dynion.

Hanes Philip yn mynd i Samaria  sydd nesaac yntau’n pregethu am y Meseia.

Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol roedd e’n eu gwneud. Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi’u parlysu neu’n gloff yn cael iachâd.  Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre.

Ac mae nifer fawr yn cael eu bedyddio ac mae hyd yn oed y dewin Simon yn ei ddilyn:

Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi’i syfrdanu’n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip.

Oherwydd y llwyddiant yno mae Pedr ac Ioan yn cael eu hanfon i Samaria hefyd ac roedden nhw’n gweddïo dros y credinwyr newydd yno ac wrth iddyn nhw roi eu dwylo arnyn nhw dyma nhw’n derbyn yr Ysbryd Glân.

Pan welodd Simon y dewin fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigiodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. 

Simon: Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân.

Ond dyma Pedr yn ei ateb:

Pedr: Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti’n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.

Simon: Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti’n ei ddweud yn digwydd i mi.

Ar ôl hyn aeth Pedr ac Ioan yn ôl i Jerwsalem ond ar eu ffordd dyma nhw’n galw mewn nifer o bentrefi’r Samariaid i gyhoeddi’r newyddion da.

Ar ddiwedd y bennod mae Philip yn cael neges gan Dduw yn dweud wrtho:

Duw: Dos i lawr i’r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.

Yno mae’n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace,  sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys.

Mae’r Eunuch yn gofyn am gael ei fedyddio ac:

Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o’r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo’i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen. Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi’r newyddion da ym mhob un o’r trefi ar y ffordd.

Mae hanes Saul yn newid yn ddramatig yn y nawfed bennod.

Yn y cyfamser, roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad  i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi’r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw’n gaeth i Jerwsalem. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o’r nefoedd o’i gwmpas. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho:

Iesu: Saul? Saul? Pam wyt ti’n fy erlid i?

Saul: Pwy wyt ti, syr?

Iesu: Iesu ydw i, yr un rwyt ti’n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i’r ddinas.

         Cei di wybod yno beth mae’n rhaid i ti ei wneud.

Mae artistiaid lu wedi darlunio’r dröedigaeth fawr honno.

Dyma ddehongliad Caravaggio o’r Dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus. Mae’n darlunio Saul yn cwympo ar ei gefn mewn llafn o olau. Mae ei freichiau ar led fel pe bai’n cofleidio’i weledigaeth. Mae carn y ceffyl wedi’i godi uwchben Saul. Ei helmed wedi rowlio i ffwrdd, ei gorff yn gyfan ond wedi’i drawsffurfio, ei was yn dal ffrwyn y ceffyl. Mae’n canolbwyntio ar y llais a’r ceffyl sy’n llenwi’r llun, nid ffynhonnell y golau. Mae’r ceffyl wedi troi ei ben a’i glustiau i lawr yn awgrymu chwilfrydedd ond dim panig. Does dim cyfrwy ar y ceffyl gan awgrymu ei fod mewn stabl. Nid yw gras yn herio realiti’r sefyllfa.

Roedd y llun hwn wedi creu’r myth neu’r chwedl bod Saul ar gefn ceffyl ond nid oes sôn am farchogaeth ceffyl yn Llyfr yr Actau o gwbl.

Dyma ffresgo gan Michelangelo Buoanaroti sydd yn Cappella Paolina yn mhalas y Fatican yn y ddinas. Mae Saul ar ei ffordd i Damascus i erlid ac i arestio Cristionogion ac yn cael ei ddallu gan oleuni a Duw’n gofyn pam roedd yn ei erlid. Mae llun wyneb Duw yma a llu o angylion o’i gwmpas a Saul wedi’i daflu oddi ar ei geffyl. Mae’n ddarlun prysur gyda llawer yn digwydd. Mae’r dorf o gwmpas Saul sydd ar y llawr. Mae’r nefoedd yn las a’r gwyrddni yw’r ddaear a melyn llachar yn cysylltu’r ddau; mae’r ffigyrau yn gyhyrog a deinamig. Mae wyneb Saul yma yn edrych fel hen ddyn ond byddai wedi bod tua 30 mlwydd oed pan gafodd y dröedigaeth a byddai’r artist yn gwybod hynny. Roedd Michelangelo yn hen ddyn pan baentiodd y ffresgo a wyneb Saul yn adlewyrchu wyneb yr artist a oedd mae’n debyg yn cwestiynu ei ffydd ar yr adeg honno. Mae’r darlun o Saul yn cyfleu angen dynoliaeth am fwy o oleuni.

Yn y darluniau hyn dywedir bod y ceffyl yn cynrychioli bywyd blaenorol Saul – ei falchder a’i bŵer a’i gwymp yn symbol o adael ei hen fywyd a dechrau ar ei daith ysbrydol. A hynny’n ein hatgoffa o’r dywediad Saesneg – knocked off his high horse!

Mae’r darlun o Saul yn amrywio ynddynt – rhai yn ei ddangos yn cael ei ddallu; eraill â’i lygaid led y pen ar agor mewn sioc.

Mae’n stori sy’n sôn am y posibilrwydd o newid radical, yn stori o edifarhau, o ail gyfle a phŵer ffydd.

Emyn 797 – Fe ddaeth newid rhyfeddol i fywyd Saul a chanwn ninnau am y newid rhyfeddol a wnaed ynof fi, daeth Iesu i’m calon i fyw…

Yn dilyn y digwyddiad dramatig mae’r hanes yn mynd rhagddo:

Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e’n sefyll yn fud; roedden nhw’n clywed y llais ond doedden nhw’n gweld neb. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim.

Yn byw yn Damascus roedd disgybl o’r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o’r Arglwydd yn galw arno:

Iesu: Ananias!

Ananias: Ie, Arglwydd.

Iesu: Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o’r enw Saul. Mae yno’n gweddïo.  Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o’r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.

Ananias: Ond Arglwydd, dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem. Mae’r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy’n credu ynot ti.

Iesu: Dos! Dyma’r dyn dw i wedi’i ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a’u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.  Bydda i’n dangos iddo y bydd ef ei hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.

Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i’r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho:

Ananias: Saul, frawd. Mae’r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â’r Ysbryd Glân hefyd.

Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.  Wedyn cymerodd rywbeth i’w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl.

Yn dilyn hyn, arhosodd Saul gyda’r disgyblion ac aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw. Roedd pawb a’i clywodd wedi’u syfrdanu. “Onid dyma’r dyn wnaeth achosi’r fath drafferth i’r rhai yn Jerwsalem sy’n dilyn yr Iesu yna? Roedden ni’n meddwl ei fod wedi dod yma ar ran y prif offeiriaid i arestio’r bobl hynny a’u rhoi yn y carchar.”

Ond roedd ei bregethu yn mynd yn gryfach a’r arweinwyr Iddewig yn Damascus yn cynllwynio i’w ladd ond llwyddodd i ddianc trwy gael ei ollwng mewn basged mewn agoriad yn wal y ddinas.

Aeth Saul yn ei flaen i Jerwsalem a cheisio ymuno â’r credinwyr yno ond roedden nhw’n ei ofni ond dyma Barnabas yn ei gredu ac aeth ag e at yr apostolion a chafodd ei dderbyn ganddyn nhw ar ôl clywed am ei bregethu taer yn Damascus.

Wrth iddo bregethu eto aeth i ddadlau gydag Iddewon Groegaidd  ac roedden nhw am ei ladd hefyd ac fe aeth i Cesarea ac yna i Darsus lle roedd ei gartref.

Ar ôl hyn cafodd yr eglwys yn Jwdea, Galilea a Samaria gyfnod o dawelwch a llwyddiant – roedd ffydd y credinwyr yn cryfhau ac roedd eu niferoedd yn tyfu hefyd. Roedden nhw’n byw mewn ffordd oedd yn dangos eu bod yn ofni’r Arglwydd, a’r Ysbryd Glân yn eu hannog yn eu blaenau.

Hanes Pedr yn ymweld â’r Cristnogion yn Lyda a gawn nesa ac mae’n dod ar draws Aeneas  yno sydd wedi’i barlysu ac mae’n dweud wrtho:

Pedr: Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.

 Ac oherwydd iddo gael ei iachau mae pawb yno yn dod i gredu. Yna mae’n  mynd i Jopa lle  mae menyw dda a oedd yn helpu’r tlawd wedi marw. Ei henw oedd Tabitha – ond Dorcas yn iaith Groeg.

 Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw’n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!” Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny’r grisiau i’r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo’r mentyll a’r dillad eraill roedd Dorcas wedi’u gwneud iddyn nhw pan oedd hi’n dal yn fyw.  Dyma Pedr yn anfon pawb allan o’r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny. Gafaelodd Pedr yn ei llaw a’i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a’r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw.

 Dyma’r newyddion yn mynd ar led drwy dre Jopa fel tân gwyllt, a daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd.  Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhŷ gweithiwr lledr o’r enw Simon.

Hanes Pedr a geir yn y bennod nesaf hefyd ac mae’n rhoi adroddiad o’i waith i’r apostolion. Roedd llawer o gredinwyr wedi dianc yn bell oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i Steffan – i Gyprus ac i Antiochia yn Syria. Cafodd Barnabas ei anfon gan yr apostolion i Antiochia – a Barnabas yn cael ei ddisgrifio fel dyn da, llawn o’r Ysbryd Glân.

Mae Barnabas yn mynd i Darsus i edrych am Saul i fynd gydag e i Antiochia a buodd y ddau yno gyda’r eglwys am flwyddyn gyfan yn dysgu tyrfa fawr o bobl. A gyda llaw, yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.

Hanes Pedr yn dianc yn wyrthiol o’r carchar sydd ym mhennod 12. Roedd y Brenin Herod Agripa yn erlid y Cristnogion. Cafodd Iago – brawd Ioan ei ddienyddio ganddo a Pedr ei garcharu. Ond roedd y  credinwyr yn gweddïo drosto a’r noson cyn yr achos:

Yn sydyn roedd angel yno, a golau’n disgleirio drwy’r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i’w ddeffro.

Angel: Brysia! Cod ar dy draed!

 a dyma’r cadwyni’n disgyn oddi ar ei freichiau. Wedyn dyma’r angel yn dweud wrtho:

 Angel: Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.

 Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma’r angel yn dweud,

Angel: Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.

Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o’r gell – ond heb wybod a oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl!  Dyma nhw’n mynd heibio’r gwarchodwr cyntaf a’r ail, a chyrraedd y giât haearn oedd yn mynd allan i’r ddinas. Agorodd honno ohoni ei hun! Wedi mynd drwyddi a cherdded i lawr y stryd dyma’r angel yn sydyn yn diflannu a gadael Pedr ar ei ben ei hun.

Yn y bennod nesaf mae Barnabas a Saul yn cael eu hanfon i genhadu a chawn hanes taith gyntaf genhadol Paul – a hynny i ynys Cyprus.

Yma mae’n cael ei alw’n Paul am y tro cyntaf – a hynny mae’n debyg gan awdur Llyfr yr Actau sef Luc.

       Dyma Saul (oedd hefyd yn cael ei alw’n Paul), yn llawn o’r Ysbryd Glân.

Felly Saul y gormeswr creulon yn cael ei ailenwi yn Paul y Cristion. (Actau 13:9)

Pwy oedd Saul o Darsus?

Wel mae’n debyg y cafodd ei eni tua’r flwyddyn 5 Oed Crist yn ninas Tarsus yn Cilicia sydd yn Nhwrci heddiw. Cafodd ei eni i rieni Iddewig ond  gyda dinasyddiaeth Rhufeinig. Pan oedd tua phum mlwydd oed symudodd y teulu i Jerwsalem a phan oedd tua 10-15 oed dechreuodd astudio’r ysgrythurau Hebraeg o dan arweiniad y Rabbi, Gamaliel a gyda Gamaliel y dechreuodd astudio’r gyfraith.


 Hanes cyfarwydd arall  amdano yw ei hanes ef a Silas ym mhennod 16. Cafodd y ddau eu curo a’u taflu i’r carchar a rhoi eu traed mewn cyffion. A dyma’r hanes:

Tua hanner nos roedd Paul a Silas wrthi’n gweddïo ac yn canu emynau o fawl, ac roedd y carcharorion eraill i gyd yn gwrando. Yna’n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i’w sylfeini. Dyma’r drysau i gyd yn agor, a’r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!  Pan ddeffrodd swyddog y carchar a gweld y drysau ar agor, roedd yn meddwl fod y carcharorion wedi dianc. Gafaelodd yn ei gleddyf gan fwriadu lladd ei hun.  Ond dyma Paul yn gweiddi, “Paid! Rŷn ni i gyd yma!”

Galwodd y swyddog am oleuadau, a rhuthro i mewn i gell Paul a Silas, a syrthio i lawr o’u blaenau yn crynu mewn ofn. Yna aeth a nhw allan a gofyn iddyn nhw, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?”

Dyma nhw’n ateb, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub – ti a phawb arall yn dy dŷ.” A dyma nhw’n rhannu’r newyddion da am yr Arglwydd Iesu gyda’r swyddog a phawb arall yn ei dŷ. Aeth y swyddog â nhw yng nghanol y nos i lanhau eu briwiau. Wedyn cafodd e a phawb arall yn ei dŷ eu bedyddio. Yna aeth â nhw i’w gartref a rhoi pryd o fwyd iddyn nhw. Roedd pawb yn ei dŷ mor hapus eu bod nhw wedi credu yn Nuw.

Mae Paul yn teithio gyda Silas i Thesalonica, Galatia, Athen, Effesus a llefydd eraill

Mae’n cael ei ddwyn gerbron y Brenin Agripa ac yno yn mhennod 26 mae’n dweud hanes ei dröedigaeth.

Teithiodd wedyn i Rufain lle mae hanes llongddrylliad a glanio ar ynys Malta.

Mae 13 llythyr gan Paul yn dilyn Llyfr yr Actau yn y Testament Newydd ac yna 9 llythyr arall gan eraill megis Iago a Pedr ac Ioan.

Bydd rhaid i ni drafod teithiau Paul a’i lythyron eto gan gofio amdano fel y cenhadwr mwyaf yn hanes Cristnogaeth.

Gweddïwn trwy gyd-adrodd geiriau T. Elfyn Jones – Emyn 653

O gylch dy fwrdd…

Goleua di ein llygaid…

O tyred, brynwr dwyfol…   a gwynfyd dan ein bron.

A gadewch i ni gyd-adrodd Gweddi’r Arglwydd.

Emyn: 626 Clyma ni’n un…

Myfyrdod

Cymun

Emyn: 812 Bydd gyda ni, O Iesu da…

Y Fendith