Gwasanaeth Gŵyl Dewi 2026

Croeso i’n gwasanaeth Gŵyl Dewi i ddathlu ein cenedl, ein hiaith a’n hetifeddiaeth Gristnogol. Fel y dywedodd Gerallt Lloyd Owen yn ei gerdd Etifeddiaeth:

Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.

Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Ym mhennod 11 o Lyfr Genesis cawn hanes Tŵr Babel a Duw yn creu’r cenhedloedd:

       Ar un adeg, un iaith oedd drwy’r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio’r

      un geiriau. 

A dyma’r bobl yn penderfynu adeiladu dinas fawr gyda thŵr uchel er mwyn bod yn enwog gan feddwl na fyddai rhaid iddyn nhw gael eu gwasgaru drwy’r byd i gyd. Ond mae Duw yn edrych ar y tŵr roedden nhw’n ei adeiladu ac meddai:

 “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw’n un bobl sy’n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.” 

Felly mae’r  ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy’r byd i gyd, a dyma nhw’n stopio adeiladu’r ddinas. 

Ddiwedd y flwyddyn y llynedd cyhoeddwyd cyfrol hardd â’r teitl –  Stori’r Iaith – felly yn ein gwasanaeth bore ‘ma, gadewch i ninnau ddathlu stori ein hiaith, y Gymraeg ac ymfalchïo ynddi ar ddydd ein nawddsant a gwneud hynny i ddechrau drwy ganu’r emyn cyntaf.

Emyn: 814 sy’n ein hannog i gofio am ein gwlad a’n pobl, i weddïo am fod mewn heddwch gyda Duw: a geiriau’r trydydd pennill mor addas wrth feddwl am gyflwr ein byd gan leisio ein dymuniad:

Lle mae casineb, cariad fo,

a lle mae cam, maddeuant rho;

yn lle amheuaeth dyro ffydd,

a gobaith lle mae calon brudd.

Mae angen golau Crist yn lle’r tywyllwch a’r weddi sy’n cloi’r emyn yn y pennill olaf:

Gweddïwn, Arglwydd, arnat ti

dros lywodraethau’n daear ni;

rho iddynt weledigaeth glir

i ganfod rhyddid yn y gwir.

Roedd Tŵr Babel yn symbol o awch y ddynoliaeth am rym, a’r unig ffordd i’w stopio oedd dymchwel y tŵr a chymysgu’r ieithoedd.  

Mae’r syniad o genhedloedd ac ieithoedd gwahanol yn beth positif iawn. Onid yw ieithoedd gwahanol yn cyfoethogi’r byd, yn dod ag amrywiaeth a lliw?

Ond onid oes perygl i ni golli’r cyfoeth hwnnw?

Amcangyfrifir bod tua 600-700 o ieithoedd wedi diflannu yn y degawdau diwethaf a bod perygl i golli 1,500 arall erbyn 2050.

Ond mae gan y Llywodraeth darged o filiwn yn medru’r Gymraeg erbyn hynny!

A’n gobaith ni wrth gwrs yw y bydd yn goroesi.

Mae’r bardd Alan Llwyd yn ein rhybuddio ei bod ar y dibyn:

Cerdd: Y Gymraeg: Alan Llwyd – Saf uwch y dibyn serth…

Fe luniodd Gwynn ap Gwilym gerdd hefyd ar Y Gymraeg yn ymateb i gerdd Alan Llwyd:

Cerdd: Y Gymraeg: Gwynn ap Gwilym

Pa mor hen yw’r Gymraeg felly?

Credir bod yr iaith Gymraeg yn deillio mor bell yn ôl â phedair mil o flynyddoedd.

Yn ôl Llewelyn Hopwood  yn y gyfrol Stori’r iaith, ‘mae gwreiddiau’r Gymraeg ynghlwm wrth pob iaith.’

Sut datblygodd yr iaith?

Gelwir iaith y bobl gyntaf i fyw yn Ewrop yn Indo-Ewropeaidd, ac o’r iaith honno yr esblygodd y mwyafrif o’r ieithoedd Ewropeaidd. Roedd ieithoedd Celtaidd yn cael eu siarad ar draws Ewrop.

Yn ôl y rhan fwyaf o haneswyr daeth yr iaith Geltaidd i Brydain tua 600 CC. O’r fersiwn yma o’r Gelteg y tarddodd Y Frythoneg, a’r iaith honno a esgorodd yn ei thro ar y Gymraeg, y Gernyweg a’r Llydaweg.

Brythoneg oedd iaith Ynys Prydain pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid yma yn 43 OC. 

Oes unrhyw dystiolaeth o’r Frythoneg?

Does dim llawer o dystiolaeth ohoni ond mae peth ar garreg yn Eglwys Sant Tomos yn Llandudoch. Ac wrth gwrs daeth y Rhufeiniaid â’r iaith Ladin gyda hwy.

Pryd datblygodd y Gymraeg o’r Frythoneg?

Gyda dyfodiad yr Eingl Sacsoniaid yn y bumed ganrif ‘gwasgarwyd y Frythoneg’ a rhannu’n ddau is-grŵp – ffurf ar y Gymraeg yng Nghymru a gogledd Lloegr a de’r Alban Prydain a Chernyweg a Llydaweg yn y de-orllewin a Llydaw.

Pa iaith oedd yng Nghymru erbyn amser Dewi Sant?

Erbyn y chweched ganrif roedd yr Hen Gymraeg wedi datblygu o’r Frythoneg.

Eto yn ôl Llewelyn Hopwood  roedd rhaid aros tan y 9fed ganrif am dystiolaeth ysgrifenedig ohoni a hynny ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan yn Nhywyn Meirionnydd.

Mae un llawysgrif  o’r cyfnod yng nghadeirlan Caerlwytgoed, sef Lichfield ger Birmingham sydd yn Lladin ond gyda phytiau o Gymraeg arni.

Erbyn yr wythfed ganrif roedd y Frythoneg wedi datblygu’n sawl iaith wahanol, oedd yn cynnwys Cymraeg Cynnar. Dyma’r Oes Arwrol ac oes y beirdd Cymraeg cynharaf.

Pa dystiolaeth sydd ‘te o’r Gymraeg cynnar?

Buom yn ffodus fod y Gymraeg wedi’i chadw mewn llawysgrifau  – y gynharaf yw Llyfr Aneirin o ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg.

Ro’n i’n meddwl bod cerdd Aneurin yn perthyn i gyfnod llawer cynharach?

Ydy, mae cerdd Aneurin yn adrodd hanes drychinebus llwyth y Gododdin a hynny mewn Cymraeg cynnar yn ne’r Alban tua diwedd y chweched ganrif a’r gerdd wedi’i throsglwyddo ar lafar a’i hysgrifennu’n ddiweddarach.

Pwy oedd wedi ysgrifennu’r llawysgrifau hyn?

Mynaich yn y mynachlogydd fel Abaty Glyn-y-Groes ger Llangollen ac Ystrad Fflur.

Bu farw Tywysog olaf  Cymru,  Llywelyn ap Gruffydd yn 1282  ac fe gopïodd rhywun waith beirdd y Tywysogion yn hynod o drefnus a hynny mae’n debyg yn abaty Ystrad Fflur,  sef Llawysgrif Hendregadredd.

Y llawysgrif bwysicaf o ran cadw hen farddoniaeth yw Llyfr Du Caerfyrddin er does dim sicrwydd ble cafodd ei ysgrifennu, rhai yn awgrymu taw yn Abaty Sisteraidd Hendy-gwyn.

Beth am y chwedlau?

Mae copi cynharaf o Bedair Cainc y Mabinogi yn Llyfr Gwyn Rhydderch a luniwyd mae’n debyg yn abaty Ystrad Fflur.

Ac mae’r Mabinogi yn Llyfr Coch Hergest hefyd

Cafwyd cyfoeth o gerddi yn y canol oesoedd a pham felly?

Oherwydd dyma oes aur y bardd proffesiynol yn nôl Eurig Salisbury. a bod gan y beirdd yn y cyfnod hwn ‘le canolog yn stori fawr ein hiaith.’ Roedd y beirdd yn cael eu noddi gan uchelwyr- yn cynnwys y bardd enwocaf ohonynt mae’n siŵr sef Dafydd ap Gwilym.

Beth oedd effaith Deddf Uno Cymru a Lloegr 1536  ar y Gymraeg?

Nid gymaint ag y byddai rhywun yn ei feddwl yn nôl Nia Powell yn y gyfrol oherwydd bod y ddeddf yn cydnabod bod pobl Cymru’n defnyddio iaith wahanol – yn wahanol i’r Iwerddon lle roedd y Wyddeleg wedi cael ei gwahardd.

Pa effaith gafodd y Dadeni Dysg – y Renaissance felly?

Gyda chwyldro crefyddol  roedd Protestaniaeth yn tyfu ar y cyfandir. Roedd Martin Luther yn yr Almaen am gael y Beibl yn iaith y bobl fel roedd William Salesbury a William Morgan yma yng Nghymru gan gyflawni hynny erbyn 1588.

Mae Gwenallt yn cloi ei gerdd i’r Esgob William Morgan gan ddweud fel hyn:

Canmolwn ef am ei ddygnwch, ei ddewrder a’i sancteiddrwydd

Ac am ei gymorth i gadw’r genedl a’r iaith lenyddol yn fyw,

Gan roddi arni yr urddas ac iddi’r anrhydedd uchaf

Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd Datguddiad Duw.

Digwyddodd hynny trwy ddeddf seneddol 1563 o dan arweiniad Richard Davies, esgob Tyddewi ‘gan wneud y Gymraeg yn iaith gwasanaethau ym mhob plwyf.’ Dyma un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru a’r Gymraeg yn cymryd ei lle yn falch ochr yn ochr ag ieithoedd Ewropeaidd modern eraill.

Daeth trafod crefydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen ganolog, meddai Nia Powell gan ychwanegu:

‘Felly yn hytrach na thanseilio’r Gymraeg fel dywedir yn aml, sicrhaodd deddf 1536 gymaint â deddf 1563 a wnaeth y Gymraeg yn iaith addoli, gyda pharhad y Gymraeg mewn cylchoedd swyddogol.’

Emyn 832: Yn ei emyn mae Rhys Nicholas yn galw arnom i garu Cymru, i drysori ei hiaith a’ i llên a’i chân. Yn yr ail bennill – i garu cyd-ddyn ac i gofio eraill ac yn bennaf wrth gloi, i garu’r Iesu:


a’i ddilyn ef o hyd
gan roi fy mywyd iddo,
Gwaredwr mawr y byd;
goleued ei wirionedd
fy meddwl i a’m dawn,
doed ysbryd ei anturiaeth
i’m bywyd i yn llawn.

Beth am gyfraniad ysgolion Griffith Jones – yr ysgolion cylchynol?

Pa air sy’n cuddio yn y gair ‘cylchynol’? 

 ‘Cylch’, wrth gwrs. Ysgolion cylchynol oedd yr enw ar yr ysgolion oherwydd eu bod nhw’n symud o un cylch i’r cylch nesaf. Dysgodd tua hanner poblogaeth Cymru – chwarter miliwn o bobl – ddarllen yn yr ysgolion hyn rhwng 1731 a 1761.

Credir bod yr ysgolion yma wedi dysgu tua 250,000 o bobl i ddarllen, allan o boblogaeth o tua 490,000. Erbyn marwolaeth Griffith Jones, roedd Cymru yn mwynhau un o’r lefelau llythrennedd gorau yn y byd, cymaint felly nes i’r Ymerodres Catrin Fawr o Rwsia yrru comisiynydd i weld a oedd modd addasu’r system ar gyfer Rwsia.

Dylanwad mawr arall ar ein hiaith a’i llenyddiaeth wrth gwrs oedd y Diwygiad Methodistaidd gydag emynwyr fel William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths a phregethwyr fel Howell Harris a Daniel Rowland – a hynny yn y ddeunawfed ganrif.

Ond yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg  gwelwyd chwyldro diwydiannol a datblygu’r chwareli llechi a’r pyllau glo, y gweithfeydd haearn a chopr ac meddai Marion Löffler yn ei herthygl hi:

‘Roedd pawb yn chwilio am waith a bywyd gwell, yn awyddus i ffoi rhag gormes y landlordiaid. Aethant â’u hiaith Gymraeg gyda nhw gan adeiladu cannoedd o gapeli yn ganolfannau addoli ac adloniant. Heb y chwyldro diwydiannol mae’n bosib y byddai’r Gymraeg wedi dioddef yr un dynged â’r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban- a’u siaradwyr yn gorfod mudo i America..’ fel y gwnaeth rhai o Gymru fynd i Batagonia wrth gwrs.

Er bod Iolo Morgannwg a’i gyfeillion wedi atgyfodi’r orsedd a’r eisteddfod yn y cyfnod hwn dyma gyfnod dechrau dirywiad yr iaith.

Ond rwy’n credu i ni gael digon o wers hanes erbyn hyn!

Do yn wir – ond digon i sylweddoli bod hanes yr iaith a chrefydd yn mynd law yn llaw.

Ie, ac yng nghyfnod Brad y Llyfrau Gleision a’r Welsh Not mai anghydffurfiaeth a gadwodd yr iaith.

Unawd:

Yr ymadrodd a ddefnyddiodd Martin Luther am y teulu oedd ‘ysgol bywyd’ a’r teulu meddai yn rhan o drefn Duw. Yn y teulu y dysgwn i gyd-fyw â’n gilydd. Yma rydyn ni’n dysgu caru ein gilydd a pharchu ein gilydd. Yma rydym yn dysgu i garu’r rhai sydd o’n cwmpas yn ein hardal a’n gwlad. Yn ysgol bywyd ein gwlad rydym yn dysgu i garu gwledydd eraill.

Mae rhywbeth mawr o’i le ar berson sy’n caru pobl eraill yn fwy na’i deulu ei hun. Felly hefyd mae rhywbeth mawr o’i le ar y person sy’n caru cenhedloedd eraill yn fwy na’i genedl ei hun. ‘Cas gŵr na charo’r wlad a’i maco,’ yw’r hen ddywediad. Ond ni ddylai caru’ch gwlad eich hun fyth olygu casáu gwledydd eraill, meddai.

Mae nifer o enwogion yn sôn am eu profiad o’r iaith yn y gyfrol  Stori’r Iaith – rhai fel Alex Jones ac Ellis James. Dywed Tudur Owen bod yr iaith neu ei ieithoedd yn ei ddiffinio, bod yr iaith Gymraeg ‘ym mêr ei esgyrn, yn iaith ei feddyliau a’i freuddwydion.’

 Mae Lisa Jên  yn dyfynnu geiriau’r bardd Ieuan Wyn:

“Cwbl ddiystyr ydy craig, a phridd a llystyfiant heb lygad a meddwl a chalon i roi ystyr a gwerth ac arwyddocâd iddyn nhw, a’n diwylliant ni, a chof y diwylliant a’i gyfundrefn werthoedd, sy’n rhoi i’n cynefin ni ystyr. Mae’n rhoi i ni wreiddiau ac mae’n meithrin ynom ni barch a chyfrifoldeb at nodweddion ein cymuned a’i hamgylchedd naturiol,”

A Lisa Jên yn ychwanegu:

“Rhodd ydy iaith – anrheg gwerthfawr o genhedlaeth i genhedlaeth… Hebddi hi, faswn i’n wag, yn fud, yn ddim.”

Ac ni fyddai’r iaith Gymraeg wedi goroesi heb ddylanwad Cristnogol ein cyndadau.

Yn ei gerdd Yr Heniaith mae Waldo Williams yn cydnabod cyfoeth ei hanes gan ddatgan fel Lisa Jên  fod yr iaith yn rhan o’n hanfod fel y gwnaeth Gwynn ap Gwilym yn ei  gerdd yntau i’r Gymraeg – hi ‘yw’r anadl yn yr ysgyfaint… y lliw sy’n corddi yn ein gwaed… a’n  gwerthoedd gwâr’:

Ni sylwem arni. Hi oedd y goleuni, heb liw.

Ni sylwem arni, yr awyr a ddaliai’r arogl

I’r ffroenau. Dwfr ein genau, goleuni blas.

Ni chlywem ein breichiau am ei bro ddiberygl

Ond mae tir ni ddring ehedydd yn ôl i’w nen,

Rhyw ddoe dihiraeth a’u gwahanodd.

A rhybuddia Waldo fel y gwna Alan Llwyd:

Hyn yw gaeaf cenedl, y galon oer

Heb wybod colli ei phum llawenydd.

Ond mae’n cloi yn obeithiol – Na! meddai:

…dychwel gwanwyn i un a noddai

Ddeffrowyr cenhedloedd cyn eu haf.

Hael y tywalltai ei gwin iddynt.

Codent o’i byrddau dros bob hardd yn hyf.

Nyni, a wêl ei hurddas trwy niwl ei hadfyd,

Codwn yma yr hen feini annistryw.

Pwy yw’r rhain trwy’r cwmwl a’r haul yn hedfan,

Yn dyfod fel colomennod i’w ffenestri?

Gweddïwn :

Dad Nefol, Diolchwn i ti am greu Cymru, ei phobl a’i hiaith
a diolchwn fod gennyt le arbennig iddi yn dy gynllun mawr.

Helpa ni i werthfawrogi ac i warchod trysorau’r gorffennol a rho i ni hyder a dewrder wrth i ni fowldio a siapio’r Gymru newydd.
Maddau i ni am bob ymddygiad gwasaidd,
ac am y troeon y gwnaethom ddewis ildio
yn lle ymladd dros ein hawliau.


Cadw ein cenedlaetholdeb rhag hiliaeth
a’n gwladgarwch rhag chwerwder.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu, Amen.

Er bod nifer o addoldai wedi cau mae’r dystiolaeth Gristnogol yn parhau yma yng Nghymru. Braint yw bod yn rhan o’r dystiolaeth honno ac i berthyn i Eglwys Iesu Grist yn ein dyddiau ni. Er pob her sy’n ein hwynebu, mae gennym yn ein Harglwydd Iesu, ffynhonnell o gariad na ellir ei goncro a fflam o oleuni na ellir ei diffodd.

Ein gobaith yw bod Bethlehem Newydd yn parhau i dystio i Grist ac yn parhau yn addoldy yn bennaf ond hefyd trwy ein cydweithio â’r Fenter Iaith – diolch i Janet – yn cynnal sesiynau i blant, yn cynnal  gwersi Cymraeg a Siawns am Sgwrs a chyngherddau – a hynny’n ymateb fe obeithiwn i her Dewi Sant i wneud y pethau bychain…

Yn Emyn 831 mae’r bardd T. Elfyn Jones o Beniel yn galw arnom i fod yn ffyddlon i’n hetifeddiaeth ddrud:

a phlanna di’n ein calon

wladgarwch hardd ei bryd,

ond yn ein galw ni hefyd i fod yn ffyddlon i gyd-ddyn ym mhob gwlad ac yn bennaf oll i fod yn ffyddlon drwy’n hoes i Grist, sy’n adlais wrth gwrs o arwyddair yr Urdd.

bendithia ein cartrefi

a gwawl dy nefol wedd;

bydd ynddynt yn ddiddanydd

a phentywysog hedd.

Cerdd: Y Bwrdd : Rhydwen Williams ( Cerddi Crefyddol: tud 150)

Cymun

Fe adawn i’r bardd a’r emynydd Rhys Nicholas gloi ein moliant i’n hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth Gristnogol gyfoethog:

Cerdd: Y Gymraeg: Rhys Nicholas

Emyn: 852 Dros Gymru’n gwlad…

Y fendith:

Dywedwn gyda Waldo yn ei gerdd fawr i’w fro, y Preseli wrth iddo gyfarch –

               Mur ei febyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd

a

Fy Nghymru, a bro brawdoliaeth, fy nghri, fy nghrefydd –

Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.

Er mwyn ei enw. Amen.