Gwasanaeth y Pasg 2026

Mae cynnwys ein gwasanaeth  ar fore Sul y Pasg eleni yn seiliedig ar gyfres o luniau gan artist o’r enw Jeremy Thomas sy’n arddangos ei waith yn Y Fenni. Bu Beti-Wyn a Iona yn gweld ei arddangosfa – The Human OneYr Un Dynol  – y llynedd. Felly, diolch iddyn nhw am gael benthyg y llyfryn.

Mae’n dilyn hanes yr Iesu yn yr Efengylau. Mae’r mwyafrif o’r lluniau’n cynnwys 30 darn o arian yn rhywle yn y lluniau – weithiau yn guddiedig yn y dafnau o law, yn y sêr neu yn llewyrch y goleuni, a hynny’n adlais o bob darn a dalwyd i Jwdas am fradychu Iesu. Yn ei gyflwyniad fe ddywed bod y lliw aur wedi’i neilltuo ar gyfer y dwyfol yng Nghrist.

Y llun cyntaf yw’r gofod – y cosmos yn symbol o fywyd, marwolaeth a’r bywyd newydd ac yn cynrychioli Duw sy’n Dad ac yn Fam i bob un ohonom – y Duw holl bresennol; fel y dywedir ym mhennod cyntaf Efengyl Ioan:

Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod.

Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl. Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.

Emyn: 423 Iesu, pwy all fod yn fwy na thi…

Mae’r darluniau cyntaf yn adrodd hanes cynnar yr Iesu yn yr Efengylau gan ddechrau ym Methlehem. Ond fe awn ni ymlaen at y llun o demtio Crist yn yr anialwch gyda’r bwriad o bwysleisio bod y goleuni yn drech na’r tywyllwch:

Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’

Dyma ni wedyn ar fôr Galilea a’r Crist yng nghefn y cwch a’r disgyblion yn cael dalfa fawr o bysgod. Mae ‘r darnau arian i’w gweld yn llygaid y pysgod ac ar frig y tonnau mae’r symbol o’r  Ichthus – y pysgodyn sef symbol y Cristnogion cynnar.

Mae’n debyg ar y gorwel bod yr Alffa a’r Omega yma yn symbol o bresenoldeb Duw ym mhopeth.

Dyna wnaethon nhw a dyma nhw’n dal cymaint o bysgod nes i’r rhwydi ddechrau rhwygo.  Dyma nhw’n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i’w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo! Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i’n ormod o bechadur!”  Roedd Simon a’i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal.

Dyma olygfa wedyn o’r Bregeth ar y Mynydd fel mae’r arlunydd yn ei dehongli. Mae llwybr hir i gopa’r mynydd lle mae’r Iesu yn pregethu i’r tyrfaoedd. Mae’r llwybr agored yn wahoddiad i’w ddilyn, i gymryd y cam cyntaf ar hyd ochr y mynydd. A’r cylch o aur ar ben y mynydd yn symbol o’r Crist, yn cynrychioli ei bŵer a’i ddoethineb. Mae’r siapiau glas yn cynrychioli sut mae’r nefoedd a’r ddaear yn un a phopeth yn dod o’r ddelwedd o Grist:

Gadewch i ni gyd-ddarllen y Gwynfydau o’r bregeth honnosy’n crynhoi maniffesto’r Cristion:

“Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

Mae’r rhai sy’n galaru wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n cael eu cysuro.

Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.

Mae’r rhai sy’n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n cael eu bodloni’n llwyr.

Mae’r rhai sy’n dangos trugaredd wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n cael profi trugaredd eu hunain.

 Mae’r rhai sydd â chalon bur wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n cael gweld Duw.

Mae’r rhai sy’n hyrwyddo heddwch wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd byddan nhw’n cael eu galw’n blant Duw.

Mae’r rhai sy’n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw’n gyfiawn wedi’u bendithio’n fawr,

oherwydd mae’r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

Yn y llun nesaf, rydym yn ôl ar y môr gyda’r llun o dawelu’r storm gyda’r gwynt a’r tonnau’n chwyrlïo a’r Iesu yn sefyll yn hamddenol ar flaen y cwch. Mae’r cymylau’n gwasgaru wrth glywed ei lais a’i freichiau ar led fel ar y groes, yn arwydd o’r hyn sydd i ddod.

Gwelir yr hanes yn wythfed bennod Efengyl Mathew:

Felly i ffwrdd â Iesu i’r cwch, a’i ddisgyblion ar ei ôl. Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu’n drwm drwy’r cwbl! Dyma’r disgyblion yn mynd ato mewn panig a’i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Rŷn ni’n mynd i foddi!”

“Pam ydych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae’ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.

Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth wnawn ni o’r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r tonnau yn ufuddhau iddo!”

Yn dilyn porthi’r pum mil mae’r Iesu yn mynd i weddïo ar ei ben ei hun a’r darlun yn adlais o Moses yn clywed llais Duw o’r berth yn llosgi. Fel hyn y dywed Mathew:

Dyma Iesu’n gwneud i’w ddisgyblion fynd yn ôl i’r cwch a chroesi drosodd o’i flaen.  Ar ôl iddo anfon y dyrfa adre, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd yno ar ei ben ei hun ac roedd hi’n nosi. 

Llun heddychlon yw’r nesaf o’r Iesu yn cerdded ar y dŵr a’n llygaid yn cael eu tynnu tuag at y goleuni yn y tywyllwch. Dywed yr artist bod y tonnau, y cymylau a’r sêr yn llewyrchu o gyfeiriad Crist a’r cymylau fel coron o’i gwmpas gan ein hatgoffa bod ein geni, ein marw a’n hail eni yn dod oddi wrtho Ef  – o’r dechrau i’r diwedd.

Yna, rywbryd ar ôl tri o’r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw gan gerdded ar y dŵr. Pan welodd y disgyblion e’n cerdded ar y llyn, roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. “Ysbryd ydy e!” medden nhw, gan weiddi mewn ofn.

Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.”

Darlunio’r gweddnewidiad a wna yn y llun nesaf. Mae’n ein hatgoffa o’r bregeth ar y mynydd eto gyda’r awyr mewn darnau yn symbol o’r daearol a’r nefol yn dod ynghyd. Mae llun o fewn llun yma gyda’r Drindod yn amlwg. Mae colomen i’w gweld yn y siapiau. Mae Duw y Tad wedi’i gynrychioli gan lun crwn o’r cosmos ar ben y darlun.

Wrth ochr Crist mae Moses ar y chwith sy’n cynrychioli’r Gyfraith ac Eleias ar yr ochr dde yn cynrychioli’r proffwydi.

Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. Dyma olwg Iesu’n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.

Myfi yw, yw teitl y llun nesaf. Ynddo mae Mair Magdalen yn dal y ffagl o olau, un o’r nifer o wragedd a fu’n bwysig ym mywyd Iesu. Mae Mair yn estyn allan i gyffwrdd â’r Iesu ond does dim cyswllt corfforol rhyngddyn nhw – yn ein hatgoffa o’r ddeialog ym mhennod 20 o Efengyl Ioan:

Yna dyma Iesu’n dweud, “Mair.”

Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy’n golygu ‛Athro‛).

Dyma Iesu’n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.’”

Mae’r lliwiau’n gryf, meddai’r artist i awgrymu’r ddirgelwch a chyfeiriad at y dywediadau Myfi yw a geir i gyd yn Efengyl Ioan:

“Fi ydy’r bara sy’n rhoi bywyd. Fydd pwy bynnag ddaw ata i ddim yn llwgu, a fydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi ddim yn sychedu.”

Pan oedd Iesu’n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau’r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”

Felly dwedodd Iesu eto, “Credwch chi fi – fi ydy’r giât i’r defaid fynd drwyddi. Lladron yn dwyn oedd pob un ddaeth o mlaen i. Wnaeth y defaid ddim gwrando arnyn nhw. Fi ydy’r giât. Bydd y rhai sy’n mynd i mewn trwof fi yn saff. Byddan nhw’n mynd i mewn ac allan, ac yn dod o hyd i borfa. Mae’r lleidr yn dod gyda’r bwriad o ddwyn a lladd a dinistrio. Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.

 “Fi ydy’r bugail da. Mae’r bugail da yn fodlon marw dros y defaid”. 

Wrth ateb Martha adeg iachau ei brawd Lasarus fe ddwedodd Iesu wrthi:

“Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?”

“Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i’n credu mai ti ydy’r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i’r byd.”

Mae’r Iesu yn dweud wrth y disgyblion:

 “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd. Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i’n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. Wedyn dw i’n mynd i ddod yn ôl, a bydda i’n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi..:

Ac mae Tomos yn dweud:

“Ond Arglwydd, dŷn ni ddim yn gwybod lle rwyt ti’n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?”

A’r Iesu yn ateb:

“Fi ydy’r ffordd, yr un gwir a’r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi. 

Ac yn nes ymlaen mae’n dweud eto:

“Fi ydy’r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy’r garddwr.”

Emyn: 400 Iesu yw’r Iôr…

Mae llawer o ddeuoliaeth yn Efengyl Ioan – y goleuni a’r tywyllwch, bywyd a marwolaeth. Gwelir Lasarus yn y llun hwn a duwch marwolaeth yn ymestyn amdano ond mae golau gwyn yr angylion yn tynnu’r dillad oddi ar ei gorff marw. Mae Iesu yn cwympo ar y llawr, yn wylo yn ei ddealltwriaeth o alar gan wybod beth oedd o’i flaen.

Mae’r garreg fedd wedi symud i gau bedd yr Iesu a duwch marwolaeth yn ei amgylchynu. Mae Iesu wedi’i bortreadu yma fel y brenin croeshoeliedig, ei ddwylo’n gwaedu a choron o ddrain ar ei ben:

 Pan gyrhaeddodd Mair lle roedd Iesu, a’i weld, syrthiodd wrth ei draed a dweud, “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.”

Wrth ei gweld hi’n wylofain yn uchel, a’r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.  Gofynnodd, “Ble dych chi wedi’i gladdu?”

“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw. Roedd Iesu yn ei ddagrau.

Dyma lun arall gyda llwybr i’w ddilyn i gyrraedd yr Iesu sydd wedi’i oleuo a’r symbol o’r llwybr eto yn wahoddiad i’w ddilyn. Mae pâr o sandalau a bag o arian ar y llawr ar flaen y llun. Dyma’r goeden lle bu Sacheus yn gwylio’r Iesu.

Gwyrdd, meddai’r artist yw lliw rhyddid a llawenydd bywyd newydd. Ymhellach yn y llun mae nythod adar a ffau’r cadno yn cynrychioli’r fyddin Rhufeinig ac arweinwyr Iddewig y cyfnod. Daw’r darlleniad o bennod 19 Efengyl Luc:

Brig y FfurflenIesu a Sacheus

Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy’r dref. Roedd dyn o’r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o’i gwmpas.  Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu’n mynd, er mwyn gallu gweld.

Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae’n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i’w dŷ.

Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw’n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‛pechadur‛ – dyn ofnadwy!”

Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” 

Meddai Iesu, “Mae’r bobl sy’n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae’r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.”

Mae’r lliw coch yn amlwg yn y llun nesaf – Yr heol o waed, yn darlunio’r ffordd a oedd yn gefndir i ddameg y Samariad trugarog ac yn arwydd o’r Iesu yn cerdded tuag at Jeriwsalem.

Yna mae’n  Sul y Palmwydd a’r dail palmwydd ar y llawr lle bu’r dorf yn gweiddi Hosanna ond bellach wedi gadael. Nid Crist yw ‘r dyn yn y llun ond y chi a fi, yn cerdded i ffwrdd, yn gollwng y palmwydd i’r llawr a hynny’n cynrychioli anwadalwch y ddynoliaeth.

Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem.  Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi, “Hosanna! Clod iddo!”

“Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!”

“Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,

 “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.”

Dyma’r llun sy’n awgrymu’r olygfa o’r swper olaf. Mae sawl lamp olew yn goleuo’r ffordd i fyny’r grisiau serth tuag at balas Herod. Mae gwaed ar ffrâm y drws i’n hatgoffa o Ŵyl y Bara Croyw a dail olewydd yn hongian o ambell dŷ. Mae golau yn y goruwch ystafell ble mae’r Iesu gyda’r disgyblion yn rhannu’r swper olaf – y swper a gaiff ei rannu ar hyd y canrifoedd. O Efengyl Marc y daw’r darlleniad nesa:

Tra oedden nhw’n bwyta dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a’i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono.

 “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw’r diwrnod hwnnw pan fydda i’n yfed o’r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”

Emyn 500: Cof am y cyfiawn Iesu

Erbyn hyn, rydym yng ngardd Gethsemane fel yr adroddir yr hanes gan Luc:

Dyma Iesu’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd eto, fel roedd wedi gwneud bob nos. Ac aeth ei ddisgyblion ar ei ôl. Pan gyrhaeddodd lle roedd yn mynd, dwedodd wrthyn nhw, “Gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi.” Yna aeth yn ei flaen dafliad carreg, a mynd ar ei liniau a dechrau gweddïo,  “Dad, os wyt ti’n fodlon, cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Yna gwelodd angel o’r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad. Gweddïodd yn fwy taer, ond gan ei fod mewn cymaint o boen meddwl, roedd ei chwys yn disgyn ar lawr fel dafnau o waed.

Dyma olygfa waedlyd i gyfleu Gwadiad Pedr. Mae’n llun i’n hanesmwytho. Fe welwn ddwylo clwyfedig yr Iesu ar y gwaelod.

Yn y cefndir mae ceiliog yn clochdar a Pedr yn ei wadu:

Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti’n un ohonyn nhw’n bendant! Mae’n amlwg oddi wrth dy acen di.”

 Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai.

A’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di’n fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.

Y lleuad yw’r unig olau yn y llun â’r teitl Marwolaeth Jwdas a’r cylch o aur yn symbol o bresenoldeb y Crist, fel y wawr yn codi.

Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu’n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â’r tri deg darn arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r arweinwyr.  “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.”

“Sdim ots gynnon ni,” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”

Felly dyma Jwdas yn taflu’r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.

A dyma’r Crist ar y groes gyda’r teitl – Fy Nuw, Fy Nuw.

O ganol dydd hyd dri o’r gloch y p’nawn aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd. Yna am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu’n uchel, “Eli! Eli! L’ma shfachtâni?” – sy’n golygu, “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”

Llun tywyll iawn yw’r nesaf a’i faint yn cyfleu arswyd y diwrnod ond hyd yn oed yma mae goleuni. Mae Crist yn rhannu ei funudau olaf gyda’r ddau droseddwr sydd i’w gweld ar ochr chwith y llun.

Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn.  Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di, ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw.  Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma’n siŵr o fod yn ddieuog!” 

Erchylltra uffern yw teitl y llun nesa. Mae’r Crist mewn gwyn ar frig y llun ond gyda diferion o waed. Mae dŵr a gwaed yn rhedeg o’r clwyf yn ei ochr – a’r afon o’i waed yn ein rhyddhau ac yn ein cofleidio yn ei gariad. Daw’r dyfyniad sy’n cyd-fynd â’r llun hwn o Lythyr Pedr:

 Bydd y Duw nerthol yn eich amddiffyn chi nes byddwch chi’n cael eich achub yn derfynol, am eich bod chi’n credu ynddo. Bydd pawb yn gweld hynny’n digwydd pan fydd y foment olaf yn cyrraedd a’r byd yn dod i ben.

Yna’r Atgyfodiad – Roedd Joseff o Arimathea wedi mynd â chorff yr Iesu i’w gladdu mewn bedd – ond nid dyna ddiwedd y stori a’r llun yn ceisio cyfleu bod y tywyllwch tragwyddol wedi’i oleuo gyda’r atgyfodiad – a’r goleuni eto wedi’i gynrychioli gan y cosmos, yn adlais o’r ddelwedd o Dduw y Tad.

Emyn 566: Gwawriodd bore newydd…

Yn y llun â’r teitl – Gofala am fy ŵyn –  mae cysgod yr Iesu ynddo a thân yn llosgi yn y canol gyda chroes ben i waered yng nghanol y golosg, yn cynrychioli merthyrdod Sant Pedr yn y pen draw. Mae yma wahoddiad i ni eistedd wrth y tân, i fwyta ac i gael ein glanhau – yn ddechreuad newydd i Pedr – ac yn ddechreuad newydd i ni bob un. Daw’r dyfyniad o bennod olaf Efengyl Ioan:

Pan oedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu’n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na’r rhain?”

“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.”

Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”

Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?”

Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.”

Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”

Yna gofynnodd Iesu iddo’r drydedd waith, “Simon fab Ioan, wyt ti’n fy ngharu i?” Roedd Pedr yn ddigalon fod Iesu wedi gofyn eto’r drydedd waith, “Wyt ti’n fy ngharu i?” “Arglwydd,” meddai, “rwyt ti’n gwybod pob peth; rwyt ti’n gwybod mod i’n dy garu di.” Yna dwedodd Iesu, “Gofala am fy nefaid.”

A dyma’r llun sy’n darlunio’r Esgyniad

Mae’r gwynt yn chwyrlio o gwmpas Iesu wrth iddo ddychwelyd at ei Dad yn y nefoedd fel yr adroddir yr hanes ar ddiwedd Efengyl Luc:

Yna dyma Iesu’n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i’w bendithio nhw cafodd ei gymryd i ffwrdd i’r nefoedd, ac roedden nhw’n ei addoli. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.

Daw’r darlleniad sy’n cyd-fynd â’r llun olaf o wythfed bennod Llythyr Paul at y Rhufeiniaid:

Rwy’n hollol sicr fod dim byd yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na’r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol. Dim byd ym mhellteroedd eitha’r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!

Gweddïwn: Fe ddaw’r weddi ar gyfer y Pasg o rifyn diweddara Cristion…

Cymun

Emyn:562 Crist a orchfygodd…

Y Fendith