Ysgrifennodd y Parch Owain Llŷr Evans ddameg fach yn Golwg 360 fel ymateb i argyfyngau byd eang nôl ym mis Mawrth eleni – a dyma hi:
Safai dyn yng nghwmni Duw. Roedd y dyn hwnnw a Duw yn syllu ar ddioddefaint a phoen y byd. Meddai’r dyn wrth Dduw:
“Edrychwch! Edrychwch ar eich pobl yn dioddef! Edrychwch ar yr holl ofid yma! Pam na wnewch chi anfon cymorth?”
Atebodd Duw yn dawel:
“Mi wnes i. Mi anfonais i ti.”
Cawn gyfle yn y gwasanaeth hwn i atgoffa ein hunain o neges rhai o’r damhegion a adroddodd yr Arglwydd Iesu – ond dechreuwn trwy ganu:
Emyn: 854 Yn gymaint iti gofio un o’r rhain…
Y ddameg fwyaf cyfarwydd mae’n siŵr yw’r Samariad Trugarog. Dyma fersiwn ohoni:
Llefarydd 1: Roedd dyn yn cerdded ar hyd y ffordd o Jeriwsalem i Jericho ac roedd yn edrych yn ofnus wrth iddo gerdded gan fod y ffordd yn enwog am ladron. Yn sydyn ymddangosodd dau leidr ac ymosod arno gan ei fwrw a’i gicio a dwyn ei holl eiddo, gan ei adael wedi’i anafu’n ddrwg ar ochr yr hewl. Daeth offeiriad heibio ond fe anwybyddodd y dyn.
Llefarydd 2: Pam wnest ti mo’i helpu?
Offeiriad: Mae gen i waith pwysig i’w wneud yn y deml.
Llefarydd 2: Ond rwyt ti i fod yn ddyn crefyddol.
Offeiriad: Wel, dw i ar hast – dim amser i aros – rhaid i mi gyrraedd y deml mewn pryd.
Llefarydd1:Yna daeth Lefiad heibio. Aeth hwnnw heibio hefyd gan adael y dyn ar ochr yr hewl.
Llefarydd 2: Pam wnest ti ddim aros i helpu?
Lefiad: Oherwydd dydw i ddim fod i gyffwrdd ag unrhyw un cyn gwneud gwaith pwysig yn y deml.
Llefarydd 2: Ond gallet ti fod wedi’i helpu e.
Lefiad: Mae rhaid i mi fynd – mae’n ddrwg gen i.
Llefarydd 1: Ac yna daeth Samariad heibio. Roedd y Samariaid a’r Iddewon yn elynion pennaf ond stopiodd y Samariad i weld beth oedd wedi digwydd i’r Iddew. Helpodd e i’w draed a mynd ag e i lety cyfagos gan guro ar ddrws y llety a dweud:
Samariad: Wnei di’n siŵr bod y dyn yma yn cael help i wella a dyma arian i ti i dalu am bopeth ac os ydy’r gost yn fwy fe dalaf y gweddill y tro nesaf bydda i’n dod heibio.
Llefarydd: Pwy o’r tri yma yw’r cymydog da? Fe ddefnyddiodd Iesu rhywun o grŵp ethnig roedd yr Iddewon yn eu casáu er mwyn herio rhagfarnau hiliol a diwylliannol. Mae caru ein cymydog yn golygu chwalu rhwystrau.
Fe ddefnyddiodd Iesu Samariad o grŵp ethnig a oedd yn cael eu casáu gan yr Iddewon ar y pryd a hynny er mwyn herio rhagfarnau yn erbyn hil a diwylliant gwahanol. Mae caru ein cymydog yn golygu torri’r rhwystrau sy’n ein gwahanu.
……………………………………………………
Y Mab Afradlon yw dameg arall gyfarwydd ond beth yw ei neges? Gwrandewch ar y tri chymeriad sydd ynddi:
C1: Y mab ieuengaf ydw i ac mae’r ddameg yma yn sôn amdana i’n teithio i wlad
bell ac yn gwastraffu yr arian ges i gan fy nhad ac yn gorfod mynd adref heb
ddim a gofyn am faddeuant gan fy nhad.
C3: Na, na, na. Y mab hynaf ydw i ac mae’r ddameg yma’n sôn amdana i’n gwylltio
ar ôl i hwn ddod adre wedi gwastraffu’r cyfan a’n nhad yn trefnu parti i ddathlu
hynny.
C2: Myfi yw’r tad ac mae’r ddau ohonoch chi yn anghywir. Nid sôn amdanoch chi y
mae’r ddameg. Mae’r ddameg yn dangos sut y mae cariad Duw yn gorchfygu
popeth a bod Duw yn barod i faddau i bawb.
C1: Ond mae’r ddameg yn dechrau gyda fi yn gadael.
C3: Ac mae’r ddameg yn bennu gyda fi yn gwylltio a phwdu.
C2: Ond y Tad sy yn y canol trwy’r ddameg. Fi sy’n maddau i ti am wastraffu’r cyfan
a fi sy’n dangos i ti fy mod i’n caru’r ddau ohonoch ac yn parhau i wneud hynny
beth bynnag rydych chi’n wneud.
C1: Dw i’n cyfaddef fy mod i wedi bod yn ffôl.
C2: Ond rydw i’n dal i dy garu ac yn barod i faddau.
C3: A dw i’n cyfaddef fy mod i wedi pwdu a gwylltio.
C2: Ond rydw i’n dal i dy garu ac yn barod i faddau.
C1: Roedd bywyd ar y fferm mor ddiflas ac undonog – codi’n fore a gweithio bob
awr.
C2: Felly mae’n bywydau ni i gyd.
C1: Ond roeddwn i eisiau cyfle i joio gyda fy ffrindiau felly fe ofynnes i am yr hyn
bydden i’n ei gael ar ôl i ti farw.
C2: Ac fe gest ti hynny gen i er fy mod yn gwybod y byddet ti yn ei wastraffu.
C1: Ac fe wnes i ac wedi i’r cyfan fynd roedd yn rhaid imi ddod yn ôl adre a gofyn
am dy faddeuant.
C2: Roeddwn i’n disgwyl amdanat ti ac wedi bod ers i ti adael.
Roeddwn i’n falch i dy dderbyn yn ôl a threfnu parti i ddathlu.
C1: Doeddwn i ddim yn haeddu hynny.
C2: Na, mae hynny’n wir, ond neges y ddameg yw bod y Tad bob amser yn barod i
garu a maddau i’w blant.
C3: Pan ddes i’n nôl o’r caeau a gweld beth oedd wedi digwydd roeddwn i’n grac.
C2: Ond roedd yn rhaid dathlu bod dy frawd wedi dod adre. Ac roeddwn i wedi
maddau iddo.
C3: Fe fues i’n ffôl i wylltio.
C2: Do ond neges y ddameg yw bod y Tad bob amser yn barod i garu a maddau i’w
blant.
C1: Felly un neges ganolog sydd i bob dameg.
C3: Ac er ein bod ni’n dau wedi chwarae ein rhan ynddi.
C2: Yn y ddameg yma y neges yw bod Duw y Tad bob amser yn barod i garu a
maddau i’w blant.
………………………………………….
Dyma fersiwn fodern o ddameg arall – Y ddeg geneth.
1: Fuest ti yn y briodas?
2: Do – posh iawn – priodasau Bethlehem i gyd yn posh – dillad o Ededa J a’r
briodferch mewn ffrog designer!
1: Priodas hyfryd felly?
2: Wel ie ond bod rhai o’r morwynion wedi achosi trafferth.
1: Pam? Beth ddigwyddodd?
2: Wel roedd y brecwast mewn Marquee a dim trydan a doedd y briodas ddim
tan 4.00 o’r gloch y pnawn, felly roedd angen gole.
1: Digon rhwydd i bawb fynd â thorts neu lamp ‘da nhw.
2: Ac roedd pawb wedi cael rhybudd i ddod â gole ‘da nhw.
1: Beth oedd y broblem felly?
2: Rhai o’r morwynion wedi bod yn joio gormod ac wedi anghofio mynd â golau
da nhw.
1: Oedd dim modd i rywun fenthyg gole iddyn nhw?
2: Nag oedd achos roedd eisie gole i fwynhau’r bwyd ac i fynd nôl at y bws a’r ceir
wedi’r wledd.
1: Be’ ddigwyddodd felly?
2: Dim ond pan oedd y bws yn barod i adel am y wledd ffindon nhw bod ‘na
broblem. Bu’n rhaid i’r morwynion adel y bws a mynd i whilo am oleuadau.
1: Gawson nhw oleuadau yn y diwedd?
2: Do ond erbyn hynny ro’dd y bws wedi mynd a phawb wedi gadael yn eu ceir.
1: Be’ ddigwyddodd?
2: Y morwynion yn gweiddi a sgrechen a beio pawb arall am yr hyn
ddigwyddodd.
1: Ond eu bai nhw oedd y cyfan. Wedi’r cyfan ma’ rhaid i bawb
gymryd bach o gyfrifoldeb a neud yn siŵr bod popeth yn ei le. Yn enwedig pan
ma’ nhw wedi cael rhybudd.
2: Ti yn llygad dy le ond mae’n hawdd bod yn llawdrwm ar y morwynion.
1: Llawdrwm? – paid â bod yn sili. Arnyn nhw oedd y bai a neb arall.
Mae gormod o bobl yn y byd ‘ma yn disgwyl i rywun arall neud popeth drostyn
nhw.
2: Ond ry’n ni gyd yn euog o hynny.
1: Be ti’n feddwl?
2: Ma’ tuedd i ni ddisgwyl i Dduw wneud popeth droston ni a chredu nad oes
angen i ni wneud unrhyw beth.
1: Wel dyna neges i bob un ohonom – mae’n rhaid i ni wneud ein rhan yn
ogystal â disgwyl i Dduw weithredu droston ni.
Mae hynny’n debyg i’r ddameg fodern ar ddechrau’r gwasanaeth onid yw? Mae cyfrifoldeb arnon ni i weithredu.
Emyn: 841 Agor di ein llygaid, Arglwydd…
Mae’r bregeth ar y mynydd yn crynhoi credo dilynwyr i Grist. Mae Iesu yn gorffen y bregeth honno gyda’r ddameg am y ddau adeiladydd – yr un call a’r un ffôl – ym mhennod 7 o Efengyl Mathew. Mae’n ymddangos hefyd yn Efengyl Luc.
“Felly dyma sut bobl ydy’r rhai sy’n gwrando arna i ac yna’n gwneud beth dw i’n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy’n gwrando arna i heb wneud beth dw i’n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu’n llwyr.”
Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i’r arbenigwyr yn y Gyfraith – roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
1: Pwy yw’r adeiladydd call?
2: Mae’n cynrychioli rhywun sy’n clywed geiriau’r Iesu ac yn gweithredu arnynt ac
mae hynny’n golygu ymdrech ac ymroddiad.
1: A beth am yr un twp?
2: Mae’n cynrychioli rhywun sy’n clywed geiriau’r Iesu ond heb weithredu arnynt.
Efallai eu bod yn edmygu neu’n cytuno â dysgu’r Iesu ond heb ei gynnwys yn eu
bywyd bob dydd.
1: Beth mae’r storm yn ei gynrychioli ‘te?
2: Mae’n symbol o heriau bywyd, y cyfnodau anodd y byddwn i gyd yn eu hwynebu o
dro i dro ac unrhyw wrthwynebiad a brofwn i’n ffydd.
1: A sylfeini’r tŷ yw sylfaen ein bywydau a’n ffydd rwy’n cymryd?
2: Ie, mae adeiladu ar y graig yn cyfeirio at osod sylfaen gadarn i’n bywydau ac i’n
ffydd – lle mae adeiladu ar y tywod yn rhoi sylfaen gwan, ac ansicr i ni.
1: Felly mae’r ddameg yn dweud bod y rhai sy’n adeiladu eu bywydau ar
ddysgeidiaeth Iesu yn medru gwrthsefyll stormydd bywyd, gan sefyll yn gadarn.
2: Wel ie – mae’r ddameg yn ein dysgu bod gwir ffydd yn fwy na gwrando a deall
geiriau’r Iesu ond hefyd am eu gweithredu yn ein bywydau fel eu bod yn siapio’n
bywydau.
Yn ein gwasanaeth diolchgarwch cyn hir, fe edrychwn ar ddamhegion eraill a’r rheini o fyd natur, byd y garddwr a’r amaethwr.
Gweddïwn:
Arglwydd Iesu,
lle mae dy Eglwys yn gyfoethog ymysg y tlawd,
yn ofnus yng nghanol anghyfiawnder,
yn llwfr ymhlith y sawl sy’n cael eu gormesu,
tosturia wrthym a maddau i ni,
a gweddïwn y byddi di’n rhoi i ni
hyder newydd yn dy deyrnas,
gobaith newydd yn dy fwriad,
ffydd newydd yn dy rym,
ac ymddiriedaeth newydd yn dy agosrwydd.
Yna tro ein cyfoeth, ein hofn, a hyd yn oed ein llwfrdra
yn adnoddau nerth
i wasanaethu dy bobl yn dy enw. Amen.
Emyn: 819 O am awydd cryf i feddu…
Myfyrdod a chymun
Emyn: 816 Cofia’r newynog, nefol Dad…
Y fendith