Steffan y Merthyr Cyntaf

Cyflwyniad i Lyfr yr Actau

Mae Llyfr yr Actau yn dechrau gan alw i gof atgyfodiad yr Iesu a sut y treuliodd  oddeutu deugain niwrnod gyda’r disgyblion yn eu dysgu am y deyrnas.

Mae teitl y llyfr yn deillio o’r gair Groeg ‘praxis’ – gair a ddefnyddir mewn llenyddiaeth Gristnogol gynnar i ddisgrifio gweithredoedd mawr yr Apostolion neu gredinwyr eraill o bwys. Dyna’r rheswm pam y mae nifer o esbonwyr yn credu mai Actau’r Apostolion yw’r teitl mwyaf pwrpasol ar ei gyfer.

Hwn yw’r llyfr sy’n pontio rhwng yr Efengylau a’r llythyron yn y Testament Newydd.

Cyn dechrau atgoffa ein gilydd o benodau cyntaf y llyfr gadewch i ni ganu:

Emyn 590 – emyn Dyfed lle mae’n gofyn am yr Ysbryd Glân i oleuo’n meddyliau ac i ‘ddangos inni Geidwad dyn.’ Ein bwriad wrth astudio’r Ysgrythur yw ein galluogi i adnabod y Crist. Mae ei weld â llygaid ffydd yn ddigon ar y ffordd i enaid tlawd fel mae’n dweud yn y pennill olaf.

Credir mai Luc yw awdur y llyfr ac mae’n agor fel llythyr ac yn cyfarch – Annwyl Theoffilws:

Ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf am y pethau aeth Iesu ati i’w gwneud a’u dysgu cyn iddo gael ei gymryd yn ôl i fyny i’r nefoedd. Cyn mynd dwedodd wrth yr apostolion beth oedd am iddyn nhw ei wneud yn nerth yr Ysbryd Glân. Am bron chwe wythnos ar ôl iddo gael ei groeshoelio dangosodd ei hun iddyn nhw dro ar ôl tro, a phrofi y tu hwnt i bob amheuaeth ei fod yn fyw. Roedd yn siarad â nhw am beth mae teyrnasiad Duw yn ei olygu.

Ei eiriau olaf cyn iddo esgyn i’r nefoedd tra’n cael pryd o fwyd gyda’r disgyblion yw:

 “Peidiwch gadael Jerwsalem nes byddwch wedi derbyn y rhodd mae fy Nhad wedi’i addo. Fe gofiwch fy mod wedi siarad am hyn o’r blaen.  Roedd Ioan yn bedyddio â dŵr, ond mewn ychydig ddyddiau cewch chi eich bedyddio â’r Ysbryd Glân.”

Digwyddodd hynny ar Fynydd yr Olewydd sydd rhyw dri chwarter milltir o ddinas Jerwsalem ac mae’r disgyblion yn dychwelyd i’r tŷ ble roedden nhw’n aros ac yn cwrdd yn yr ystafell i fyny’r grisiau.

Roedd eraill yno hefyd gan gynnwys Mair, mam yr Iesu a’i frodyr. Pedr sy’n arwain y trafod gan ddweud bod angen iddynt ddewis disgybl arall i gymryd lle Jwdas a chafodd Mathias ei ddewis.

Fe arhoswn yn Jerwsalem am y chwe phennod nesa tra bod dilynwyr Iesu yn aros yno am Ŵyl y Pentecost.

Fel hyn y dywedir am yr Ysbryd Glân yn ymddangos i’r disgyblion ar ddechrau’r ail bennod:

Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto.  Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle roedden nhw’n cyfarfod.  Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny.

Pedr sy’n codi i annerch y dorf ac mae’n cyfeirio at broffwydoliaeth Joel fel hyn:

Bydda i’n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.

Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo,

bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,

a dynion hŷn yn cael breuddwydion.

Bryd hynny bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,

yn ddynion a merched, a byddan nhw’n proffwydo.

Mae’n dyfynnu wedyn o eiriau’r brenin Dafydd:

‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser.

Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i fydd dim yn fy ysgwyd i.

Felly mae nghalon i’n llawen a’m tafod yn gorfoleddu;

mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,

am na fyddi di’n fy ngadael i gyda’r meirw,

gadael i’r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;

bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd.’

Mae’n galw ar y gynulleidfa wedyn:

 i ‘droi cefn ar eich pechod a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia,’

a bedyddiwyd tua thair mil o bobl y diwrnod hwnnw.

Ar ddiwedd yr ail bennod mae’n sôn am y berthynas glos oedd wedi datblygu rhwng y rhai oedd yn credu. Yma, nodir pedwar o’r pileri sy’n sylfaen i’r eglwys Gristnogol gynnar – sef – cred gadarn, brawdgarwch, torri’r bara a gweddi –  a hynny  yr un mor bwysig i’n twf ysbrydol ni heddiw ag yr oedden nhw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Roedden nhw’n dal ati o ddifri – yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda’i gilydd. Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo’u bod nhw’n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda’i gilydd.  Roedden nhw’n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen.  Roedden nhw’n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai ei gilydd. Roedden nhw’n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno â nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.

Yn dilyn hyn yn y drydedd bennod ceir hanes Pedr yn iachau’r cardotyn oedd yn methu cerdded ac a arferai eistedd yn cardota wrth fynedfa’r deml.

Wedyn mae Pedr yn annerch y dyrfa yn y deml. Mae’r disgyblion yn dechrau galw ar y bobl i gydnabod yr Iesu fel eu Meseia. Ond wrth gwrs nid oedd offeiriaid y deml yn hapus â hyn a chaiff Pedr ac Ioan eu harestio a’u dwyn gerbron y Sanhedrin a hanes hynny sydd yn y bedwaredd bennod.

Ond cawson nhw eu gadael yn rhydd oherwydd bod y bobl yn eu cefnogi. Roedd y cyngor wedi synnu bod y ddau yn siarad mor huawdl a hyderus ac yn eu rhybuddio i ’beidio dysgu am yr Iesu byth eto.’

Mae Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes wrthyn nhw ac yn gweddïo gyda’i gilydd ac mae’r adeilad lle roedden nhw’n cyfarfod yn ysgwyd:

 A dyma nhw’n cael eu llenwi eto â’r Ysbryd Glân, ac roedden nhw’n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn. Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud, “Fi biau hwnna!” Roedden nhw’n rhannu popeth gyda’i gilydd. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio’n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu, ac yn rhoi’r arian i’r apostolion i’w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen.

Mae’r bumed bennod yn dechrau gyda hanes Ananias a’i wraig, Saffeira.

Roedd Ananias wedi gwerthu eu heiddo gan ddweud ei fod wedi rhoi’r arian i gyd i’r apostolion ond roedd e wedi dweud celwydd gan gadw peth o’r arian. Pan gafodd Ananias ei gyhuddo o ddweud celwydd gan Pedr fe syrthiodd yn farw. Daeth ei wraig heibio wedyn a dweud yr un celwydd a syrthiodd hithau ’n farw hefyd. Ac wrth gwrs roedd pawb wedi dychryn o glywed yr hanes am y ddau.

Roedd Ananias a’i wraig wedi gobeithio cael eu canmol am eu rhodd a’r wers mae’n debyg yw na ddylid gwneud rhywbeth er mwyn cael canmoliaeth eraill ac i beidio rhagrithio.

Cyn diwedd y bennod honno mae hanesion am yr apostolion yn iachau llawer ond hefyd yn cael eu herlid ac yn cael eu carcharu.

Ond yn ystod y nos dyma angel yr Arglwydd yn dod ac yn agor drysau’r carchar a’u gollwng yn rhydd. Dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i’r deml, sefyll yno a dweud wrth bobl am y bywyd newydd yma.”

Maen nhw’n mynd yn nôl i’r deml i ddysgu’r bobl ond yn cael eu hanfon yn ôl i’r carchar eto gan yr erlidwyr.

Ond pan gyrhaeddodd rheini ‘r celloedd, doedd yr apostolion ddim yno! Felly dyma nhw’n mynd yn ôl at y Sanhedrin a dweud, “Pan aethon ni i’r carchar roedd wedi’i gloi yn ddiogel, ac roedd swyddogion yno yn gwarchod y drysau; ond pan agoron nhw’r gell i ni, doedd neb i mewn yno!”

Felly dyma’r capten a’i swyddogion yn mynd i arestio’r apostolion eto, ond heb ddefnyddio trais. Roedd ganddyn nhw ofn i’r bobl gynhyrfu a dechrau taflu cerrig atyn nhw a’u lladd. Dyma nhw’n dod â’r apostolion o flaen y Sanhedrin i gael eu croesholi gan yr archoffeiriad.

 “Cawsoch chi orchymyn clir i beidio sôn am y dyn yna,” meddai, “ond rydych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano, ac yn rhoi’r bai arnon ni am ei ladd!”

A Pedr a’r apostolion eraill yn ateb:

 “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi! … Iesu ydy’r Tywysog a’r Achubwr … Rydyn ni’n gwybod fod hyn i gyd yn wir, ac mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystio i’r ffaith gyda ni. Dyma’r Ysbryd mae Duw yn ei roi i bawb sy’n ufuddhau iddo.”

Mae Gamaliel, arbenigwr ar y Gyfraith yn rhybuddio’r llys i fod yn ofalus ac yn eu cynghori:

Gadewch lonydd iddyn nhw. Chwalu wnân nhw os mai dim ond syniadau pobl sydd y tu ôl i’r cwbl. Ond os oes gan Dduw rywbeth i’w wneud â’r peth, wnewch chi byth eu stopio nhw; a chewch eich hunain yn brwydro yn erbyn Duw.”

Llwyddodd Gamaliel i’w perswadio nhw ac fe gafodd yr apostolion eu curo a’u rhybuddio i beidio a sôn am Iesu cyn eu gadael yn rhydd.

Roedd yr apostolion yn llawen wrth adael y Sanhedrin. Roedden nhw’n ei chyfri hi’n fraint eu bod wedi cael eu cam-drin am ddilyn Iesu.  Bob dydd, yn y deml ac yn eu tai, roedden nhw’n dal ati i ddysgu’r bobl a chyhoeddi’r newyddion da mai Iesu ydy’r Meseia.

Adrodd hanes dewis saith arall i ymuno â nhw sydd yn y chweched bennod.

Roedd rhai wedi dechrau anghytuno – rhai o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai o gefndir Hebraeg a’r cwympo mas am sut roedden nhw’n rhannu bwyd.

Penderfynodd y deuddeg felly y dylid penodi saith arall i wneud y gwaith hwnnw er mwyn iddyn nhw ganolbwyntio ar bregethu’r gair a gweddïo.

Mae’n wers am bwysigrwydd dirprwyo gwaith i eraill – rhai i arwain y bywyd ysbrydol ac eraill i ganolbwyntio ar y gwaith elusennol gan bwysleisio mai prif waith yr eglwys yw dysgu am yr Efengyl.

A dyma nhw’n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu’n gryf ac yn llawn o’r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia. Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu’n gyflym. Roedd nifer fawr o’r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.

Cyn symud ymlaen at  hanes Steffan, y merthyr cyntaf gadewch i ni ganu:

Emyn: 710 Arglwydd Iesu, dysg im gerdded…

Mae Steffan yn cael ei ddisgrifio fel dyn doeth, un yr oedd yr Ysbryd Glân yn siarad drwyddo ac un oedd yn gallu dadlau yn gadarn yn erbyn rhai oedd yn ei gwestiynu.

Ond dechreuodd yr Iddewon ddweud celwydd amdano, ei fod yn siarad yn gableddus am Dduw a chafodd ei arestio a’i ddwyn o flaen y Sanhedrin.

Yn y llys roedd rhai yn dweud celwydd amdano eto:

 “Mae’r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. Rydyn ni wedi’i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio’r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”

Trodd aelodau’r Sanhedrin i edrych ar Steffan gan syllu arno ac roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

Yn y seithfed bennod mae Steffan yn annerch y llys yn huawdl ac yn hir ac yn dangos bod holl hanes yr Iddewon yn arwain at eni’r Iesu. Mae’n crynhoi nifer o hanesion yr Hen Destament.

Steffan: Frodyr, ac arweinwyr parchus, gwrandewch arna i.

Ac mae’n adrodd hanes Abraham yn gyntaf ac yna hanes Joseff:

Steffan: Roedd brodyr Joseff yn genfigennus ohono fe a dyma nhw’n ei werthu fel caethwas i’r Aifft. Ond roedd Duw gyda Joseff ac yn ei achub o bob creisis. Roedd Duw wedi gwneud Joseff yn ddyn doeth iawn. Daeth i ennill parch y Pharo, brenin yr Aifft, a dyma’r Pharo yn ei benodi yn llywodraethwr ar y wlad gyfan, a’i wneud yn gyfrifol am redeg y palas brenhinol.

Hanes y newyn sy’n dilyn, gyda Jacob yn anfon ei feibion i brynu gwenith gan y Pharo ac yn adnabod Joseff.

Steffan:Erbyn hynny, roedd brenin newydd yn yr Aifft – un oedd yn gwybod dim byd am Joseff. Buodd hwnnw’n gas iawn i’n pobl ni, a’u gorfodi nhw i adael i’w babis newydd eu geni farw. Dyna pryd cafodd Moses ei eni.

Ac yna mae’n adrodd hanes Moses yn cael ei fagu gan ferch Pharo ac yna, pan yn bedwar deg mlwydd oed yn penderfynu mynd i ymweld â’i bobl ei hun:

Steffan: Dyna pryd y gwelodd un ohonyn nhw yn cael ei gam-drin gan ryw Eifftiwr. Ymyrrodd Moses i’w amddiffyn a lladd yr Eifftiwr. Roedd yn rhyw obeithio y byddai ei bobl yn dod i weld fod Duw wedi’i anfon i’w hachub nhw, ond wnaethon nhw ddim.  

Os cofiwch chi, fe fu’n rhaid i Moses ddianc i wlad Midian:

Steffan: Bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn yr anialwch wrth ymyl Mynydd Sinai, dyma angel yn ymddangos i Moses yng nghanol fflamau perth oedd ar dân.  Wrth gamu ymlaen i weld yn agosach, clywodd lais yr Arglwydd yn dweud,  ‘Duw dy gyndeidiau di ydw i, Duw Abraham, Isaac a Jacob.’

Yna mae’n rhoi ei hanes yn arwain y bobl allan o’r Aifft drwy’r Môr Coch ac yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd a hanes derbyn y Deg Gorchymyn ar Fynydd Sinai.

Mae’n parhau wedyn gyda hanes Josua a’r Brenin Dafydd:

Steffan: Roedd Dafydd wedi profi ffafr Duw, a gofynnodd am y fraint o gael codi adeilad parhaol i Dduw Jacob. Ond Solomon oedd yr un wnaeth adeiladu’r deml.  Ond wedyn, dydy’r Duw Goruchaf ddim yn byw mewn adeiladau wedi’u codi gan ddynion! Yn union fel mae’r proffwyd yn dweud:

Rydych chi mor benstiff! Rydych chi fel y paganiaid – yn ystyfnig a byddar! Rydych chi’n union yr un fath â’ch hynafiaid – byth yn gwrando ar yr Ysbryd Glân! Fuodd yna unrhyw broffwyd gafodd mo’i erlid gan eich cyndeidiau? Nhw lofruddiodd hyd yn oed y rhai broffwydodd fod yr Un Cyfiawn yn dod – sef y Meseia. Ac rydych chi nawr wedi’i fradychu a’i ladd e! Rydych chi wedi gwrthod ufuddhau i Gyfraith Duw, a chithau wedi’i derbyn hi gan angylion!

Ac ar ddiwedd y bennod cawn hanes Steffan yn cael ei labyddio i farwolaeth.

Roedd yr Iddewon wedi gwylltio ac yn troi’n fygythiol  ond roedd Steffan yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac wrth edrych i fyny gwelodd ogoniant Duw, a Iesu yn sefyll ar ei ochr dde.

Steffan:  Edrychwch!  Rwy’n gweld y nefoedd ar agor! Mae Mab y Dyn wedi’i anrhydeddu – mae’n sefyll ar ochr dde Duw.

Maen nhw’n ei lusgo allan o’r ddinas, yn taflu cerrig ato i’w labyddio i farwolaeth.

Wrth iddyn nhw daflu cerrig ato i’w ladd, roedd Steffan yn gweddïo,

Steffan: Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd i.” 

Yna syrthiodd ar ei liniau a gweiddi’n uchel:

Steffan: Arglwydd, paid dal nhw’n gyfrifol am y pechod yma.

A hyn yn sicr yn adlais o eiriau Crist ar y groes fel sydd wedi’u cofnodi gan Luc yn ei efengyl  – ‘Dad, maddau iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.’

Digwyddodd hyn tua’r flwyddyn 36 ar ôl marw Crist.

Mae marwolaeth Steffan yn arwain at fwy o erlid ac y mae llawer o ddilynwyr Iesu yn gadael Jerwsalem. Roedd wedi cythruddo’r Iddewon yn ei anerchiad trwy eu cyhuddo o fod yn bobl y sefydliad a beirniadu’r deml gan honni nad oedd teml gan Abraham a Moses ac mai’r sefydliad oedd yn elwa o’r deml. Mae’n dweud nad oes angen y deml a hynny’n wrthun  i arweinwyr yr Iddewon.

Dyna oedd un o’r cyhuddiadau yn erbyn Iesu hefyd – ei fod am ddinistrio’r deml.

Emyn:396 Sicrwydd bendigaid! Iesu yn rhan…

Mae Sant Steffan yn cael ei gofio fel y merthyr Cristnogol cyntaf. Yn ôl Actau’r Apostolion roedd Steffan yn ddiacon yn Jerwsalem a chaiff ei ddathlu ar Ragfyr 26ain – sef Gŵyl San Steffan.

Roedd yn hen draddodiad yng Nghymru i hela’r dryw ar y diwrnod hwnnw ac yn Ynys Manaw a’r Iwerddon. Mae rhai yn dadlau bod y traddodiad yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol wrth i drigolion y gwledydd Celtaidd – gan gynnwys Cymru – ddathlu Duw’r goleuni trwy aberthu’r dryw bach. Roedd pobl yn credu bod y weithred yn dod â lwc dda i’r rheiny a oedd yn llwyddo i’w ddal.

Mae eraill yn credu bod gan yr arfer gysylltiadau Beiblaidd hefyd gyda rhai’n dadlau bod dryw bach wedi bradychu San Steffan pan ddaliwyd ef.

Tybed i ba raddau y byddwn ni yn arddangos duwioldeb i’r byd? Mae angen dewrder eithriadol i wynebu beirniadaeth gan rywrai sy’n credu yn wahanol i ni ac i fod yn dyst i Grist. Clywsom yng ngwasanaeth Dydd Gweddi’r Byd yn ddiweddar am rai yn Nigeria heddiw yn cael eu herlid a’u lladd oherwydd eu safiad dros eu ffydd.

Pan garcharwyd Bonhoeffer, a’i ddedfrydu i farwolaeth, gwelodd y swyddogion a fu’n goruchwylio’r crogi ei fod yn angylaidd ei wedd. Derbyniodd ei benyd heb geisio dial na gwadu ei ffydd, ond sut fyddem ni’n ymateb tybed?

Chwiliwch ar y we am ddyfyniadau o’i eiddo; fe ddaw llawer ohonynt o’i lythyron o’r carchar – rhai megis:

Comfort the troubled, and trouble the comfortable.

“The ultimate test of a moral society is the kind of world that it leaves to its children.”

“Silence in the face of evil is evil itself.”

“The Church is the Church only when it exists for others…not dominating, but helping and serving. It must tell men of every calling what it means to live for Christ, to exist for others.”

Gweddïwn am y gobaith sy’n dyfalbarhau:

Diolch i ti, O Dduw, am y gobaith a ddaw i ni o ymddiried ynot:

y gobaith sy’n ein calonogi i ddal ati yng ngwaith y deyrnas, ac yn ein cadw rhag ymollwng yn wyneb amgylchiadau anodd;

y gobaith sy’n ein hargyhoeddi fod y da yn drech na’r drwg, ac mai dy deyrnas di fydd, yn y diwedd, yn ennill y dydd;

y gobaith sy’n ein gwroli i wynebu gofidiau bywyd, a thywyllwch angau, am ein bod yn credu ein bod yn ddiogel ynot ti, pa beth bynnag a ddaw. Amen.

Myfyrdod

Yn arwyddocaol, ym mrawddeg olaf yr hanes am ladd Steffan, mae Saul yn cael ei enwi yno fel un a ofalodd am glogyn y rhai oedd yn ymosod ar Steffan. Yn dilyn ei ladd cafodd yr eglwys yn Jerwsalem ei herlid a dechreuon nhw wasgaru. Fe aeth Saul o dŷ i dŷ yn arestio dynion a merched ond fe ddychwelwn at hanes Saul  a’i dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus eto.

Gadewch i ni ganu Emyn:735 sydd yn ein herio i fod yn wrol, i gredu yn Nuw ac i wneud ein gwaith gan beidio ag ofni’r anawsterau, y brwydrau na’r canlyniadau:

Cei dy farnu, cei dy garu

cei dy wawdio lawer gwaith;

na ofala dim am hynny:

cred yn Nuw a gwna dy waith.

Y fendith – a luniwyd gan Martin Luther King:

Ac yn awr, i’r hwn sydd yn abl i’n cadw ni rhag syrthio, a’n codi o ddyffryn tywyll anobaith i fynydd disglair gobaith, o ganol nos dywyllaf pob arswyd i wawr llawenydd; iddo ef y bo’r gallu a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.