Chwi yw halen y ddaear
yn seiliedig ar erthygl gan y Parch Irfon Roberts yn rhifyn Cristion Mawrth/Ebrill 2026
Mae’r Parch Irfon Roberts Aberteifi yn dechrau ei erthygl gyda’r teitl Aur Gwyn yn Salzburg, Awstria. Yno bu’n ymweld â man geni Wolfgang Amadeus Mozart a fu farw yn 1791 ac yntau ’n ddim ond 35 mlwydd oed. Er hynny fe gyfansoddodd 68 Symffoni, 27 concerto i’r piano a consierti i’r clarinét, y corn Ffrengig, yr obo, y fiola, y ffidil, y ffliwt a’r delyn. Anodd credu iddo ddechrau canu’r piano a’r ffidil yn dair oed a dechrau cyfansoddi yn bump oed gan lwyddo i gyfansoddi oddeutu 600 o gyfansoddiadau yn ystod ei fywyd byr. Un dôn o’i eiddo sydd yn y Caneuon Ffydd sef:
Emyn 93: Arglwydd mawr y nef a’r ddaear…
Mae gan ddinas Salzburg ar hyn o bryd, meddai, boblogaeth o tua 150,000 a phymtheng mil ohonynt yn fyfyrwyr. Mae cyfoeth y ddinas i’w briodoli’n bennaf i halen. Ystyr Salzburg yw ‘castell halen’. Mae gweithfeydd halen yno sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd lawer ar gyrion y ddinas. Darganfuwyd yr halen gan y Celtiaid a gwnaeth y Rhufeiniaid a’u dilynodd yn fawr o’r cyflenwad sylweddol ohono oedd ar gael.
Arwydd o werth halen yw iddynt ei alw’n Aur gwyn. Mae’n ffaith hanesyddol meddai i fwy o ryfeloedd gael eu hymladd am halen na hyd yn oed yr aur melyn a drysorwn ni gymaint.
Yr awdur Rhufeinig, Pliny a ddywedodd nad oes dim yn fwy defnyddiol na haul a halen – sole et sale. Oni ddwedwn heddiw bod gweithiwr sy’n tynnu ei bwysau ac yn deilwng o’i gyflog yn werth ei halen?
Mae’r ymadrodd – Mae’n werth ei halen yn mynd â ni yn ôl at adeg pan roedd gweision a milwyr yn derbyn halen yn dâl am eu gwasanaeth.
Y gair Lladin am halen yw sal ac mae’r sal hwn yn rhan o’r gair salary – sef taliad neu gyflog.
Enw’r gloddfa halen yn Salzburg yw Hallein Salt Mine – a’r cyswllt â’r Gymraeg yn amlwg ac yn peri i ni feddwl am ein hynafiaid Celtaidd a fu’n cloddio am yr aur gwyn bum canrif cyn Crist. Dyna oedd yn gyfrifol am greu Salzburg yn ganolfan masnachol o bwys.
Pan ddychwelodd Irfon Roberts o’i wyliau i Gymru bu yng nghartref Glyn Nest yng Nghastell Newydd Emlyn i ddydd agored yno lle daeth Alwyn Humphreys a chriw teledu Prynhawn da i ffilmio cyflwyno plât, Halen y ddaear a’r ymadrodd hwnnw yn un o ymadroddion mwyaf cofiadwy Iesu – ‘Chwi yw halen y ddaear.’
Mae’n mynd ymlaen wedyn i drafod nodweddion amlycaf halen.
Yn gyntaf, mae halen yn gadwolyn – yn preservative.
Mae’n cadw cynnyrch rhag llygru. Wrth halltu cig, yr hyn as wneir yw ei galedu, Mae’r halen yn sugno’r dŵr ohono a hynny’n ei wneud yn fwy anodd i facteria dreiddio drwy’r croen a llygru’r cig.
Cyflawna rhew yr un gwaith – cadw’r drwg rhag treiddio, llygru a difetha. Os oes rhaid atal y drwg rhag treiddio, oni ddylid gwneud yn siŵr fod daioni yn treiddio?
Dyfynna eiriau Sundhar Sing a oedd ym ffigwr eiconig yn yr India – yn un a fu’n byw bywyd defosiynol yn dilyn ei dröedigaeth i Gristnogaeth. (1889-1929)
‘One day I was sitting on the banks of a river. I took from the water a round stone and I broke it. Inside it was perfectly dry. That stone had been lying in the water for a long time but the water had not penetrated it. Then I thought the same thing had happened to men and women in Europe. For centuries they have been surrounded by Christianity, but Christianity has not penetrated, does not live within them.’
Y mae rhai pethau mae’n rhaid eu hatal, rhag treiddio, ond mae pethau eraill y mae angen caniatáu iddynt dreiddio. Gall rhoi halen ar friw naill ai waethygu neu ei wella.
Mae halen yn foddion – a fyddwch chi’n garglo gyda dŵr a halen i wella gwddw tost? Cofiai’r awdur am ffermwr yn dweud ei bod yn arfer ganddo roi halen ar friw anifail i’w wella.
Mae’n holi – onid oes angen rhywbeth at wella doluriau cymdeithas y dyddiau hyn? Cyfrifoldeb y Cristion meddai yw diogelu safonau moesol a chyfrannu at greu cymdeithas iach a glân. Ar Sul cyntaf y flwyddyn 1953, gofynnodd y pregethwr Wesleaidd poblogaidd, W.E. Sangster y cwestiwn hwn mewn pregeth yn y Central Hall, Westminster:
‘Beth dybiwch chi fyddai effaith adfywiad crefyddol ar fywyd y genedl?’
A chynigiodd 9 ateb:
- Byddai hen ddyledion yn cael eu talu;
- anfoesoldeb rhywiol yn lleihau;
- nifer ysgariadau’n gostwng;
- y theatr yn lanach;
- troseddau ymhlith pobl ifanc yn lleihau;
- poblogaeth carchardai yn gostwng;
- y genedl yn ailddarganfod nod aruchel;
- cymdeithas yn coleddu gwerthoedd creadigol;
- pobl yn canfod hapusrwydd a heddwch.
Y mae halen yn rhoi blas yw ei is-bennawd nesaf.
Mewn teyrnged hyfryd i’w fam cyfeiriodd yr esboniwr Peter Williams at ei hoffter o grefydd. ‘My mother,’ meddai, ’had a taste for religion.’ Os cofiwch chi buom yn trafod Beibl Peter Williams mewn gwasanaeth rywbryd – y gŵr o Lansydurnen, ger Talacharn a gyhoeddodd y Beibl cyntaf gydag esboniad yn Gymraeg.
Yn Salm 34 dywedir:
‘Profwch a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd,’ ac Irfon Roberts yn cynnig yr aralleiriad hwn:
‘Blaswch, a gwelwch mor felys yw’r Arglwydd.’
Gadewch i ni ganu emyn Elfed a genir fel arfer ar ddechrau blwyddyn, sef:
Emyn rhif 70 – lle mae Elfed yn erfyn:
Rho fwy o gariad at dy waith,
Rho fwy o sêl bob cam o’r daith
Ar bethau’r tŷ rho fwy o flas…
Y mae halen yn gwrteithio yw ei bennawd nesaf.
Pwrpas cwrtaith / manure, neu dom i ni’r deheuwyr, yw cyfoethogi’r ddaear ac o’i chyfoethogi, hybu a hyrwyddo tyfiant. Ceir digon o sôn am dyfiant yn yr economi a thyfiant cynnyrch ond prin iawn meddai yw’r sôn am dyfiant ysbrydol neu dyfiant cymeriad.
Yn Efengyl Luc dywedir i Iesu dyfu’n gryf – tyfu mewn gwybodaeth a dirnadaeth o’r ffydd, tyfu mewn gras a chariad, doethineb a daioni. Un o gyfrinachau tyfiant, wrth gwrs, yw bwrw gwreiddiau yn ddwfn i ddaear sydd wedi ei gwrteithio’n dda. Daear Duw, daear crefydd iach. Chwi yw halen y ddaear. Mae gofyn i chi wrteithio’r ddaear – hyrwyddo tyfiant cariad a chymod, heddwch a chyfiawnder yn y byd. Mae gofyn i ni, meddai, gyfrannu at dyfiant a chynnydd daioni yn y byd.
Y pennawd nesaf yw – Y mae halen yn rhwymo.
Gweithreda fel sment. ’Bydd yn gyfamod halen am byth’ – yw geiriau’r Hen Destament. Yr un o ran ystyr yw cyfamod a chytundeb. Mae cyfamod halen yn golygu cytundeb annatod, perthynas annatod rhwng Duw a dynion neu rhwng dynion a’i gilydd. Mewn cyfamod halen mae’r berthynas yn solat. Yn gadarn, yn ddisyfl.
Chwi yw halen y ddaear – a’n tasg meddai awdur yr erthygl yw gweithredu fel sment, creu perthynas gadarn, ddiysgog rhyngom â’n gilydd – gweithio gyda’n gilydd, dangos consyrn am ein gilydd a gwneud popeth i helpu ein gilydd.
‘Y mae halen rhyngom’ – dyna ddywediad hyfryd Arabaidd – halen rhyngom yn golygu perthynas, cyfeillgarwch agos, agos. Mae’n rhan o’n galwad fel Cristnogion i dynnu pobl at ei gilydd – eu haddysgu mai brodyr a chwiorydd ydym – aelodau o’r un teulu – plant o’r un tad.
Y mae halen yn codi syched – sef awydd. Po fwyaf y syched, cryfaf hefyd yr ymdeimlad o angen.
Yn 1965 prynodd cwmni Pepsi Cola gwmni gwneud creision – Pam? Am eu bod yn gwybod bod creision a halen yn creu syched.
Eich tasg chi fel fy nisgyblion, meddai Iesu, yw creu syched, codi awydd ar bobl.
Fe brofodd Iesu syched. Fe gofiwch iddo ddweud, ac yntau’n dioddef, ’Y mae arnaf syched.’ – sychedu am ddŵr – ond hefyd am ddynion:
Roedd syched arno yno
Am gael eu achub hwy,
Mae syched arno eto
Am achub llawer mwy.
Yn olaf – Y mae halen yn rhyfeddod.
Cyfuniad o sodiwm a chlorid yw’r halen sydd ar ein byrddau. Ar wahân i’w gilydd maent yn wenwyn pur. O ddod â nhw at ei gilydd maent yn llesol. Ni yng Nghrist a Christ ynom ni. Dyna’r cyfuniad angenrheidiol i’n cymhwyso at ein galwad i fod yn halen y ddaear – yn aur gwyn yn y gymdeithas rydym yn byw ynddi:
Gwna fi fel halen drwy dy ras,
yn wyn a pheraidd iawn ei flas;
yn foddion yn dy alw o hyd
i dynnu’r adflas oddi ar y byd.
Gwna fi’n gyfoethog ym mhob dawn;
gwna fi fel halen peraidd iawn.
Emyn: 687 sef emyn William Williams Pantycelyn sy’n cynnwys y geiriau uchod.
Fe allen ni ychwanegu hefyd bod halen yn glanhau, yn puro – yn gwaredu staeniau te ar gwpan gwyn ac yn dda i lanhau sosban yn enwedig o’i gyfuno â lemwn neu finegr gwyn.
Tybed pa hanesion yn y Beibl fyddwch chi’n eu galw i gof wrth feddwl am halen?
Y gyntaf mae’n siŵr byddai hanes gwraig Lot yn Llyfr Genesis – ac yn y cyd-destun hwnnw mae halen yn cynrychioli barn ac yn ein hatgoffa o ganlyniadau anufudd-dod i Dduw a phwysigrwydd edrych ymlaen mewn ffydd.
Mae cyfeiriadau yn yr Hen Destament at y Môr Marw, sef llyn yn gorwedd rhwng Gwlad yr Iorddonen i’r dwyrain ac Israel a’r Llain Gorllewinol i’r gorllewin – lle nad oes dim yn byw ynddo, dim bywyd gwyllt na phlanhigion. Mae cymaint o halen yn y dŵr fel bod rhai sy’n nofio ynddo yn arnofio ar wyneb y dŵr.
Mae rhai diwinyddion yn credu mai yn ardal y Môr Marw roedd lleoliad Sodom a Gomorra er nad oes sicrwydd o hynny. Penderfynodd Duw ddinistrio’r ddwy ddinas:
A dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o’r awyr ar Sodom a Gomorra. Cafodd y ddwy dref eu dinistrio’n llwyr, a phawb a phopeth arall yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion. A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a chafodd ei throi’n golofn o halen.
A hynny er iddi gael ei rhybuddio rhag edrych yn nôl.
Ceir hanesion negyddol eraill am halen yn yr Hen Destament.
Yn Llyfr y Barnwyr mae’r Hebreaid yn rhoi halen ar diroedd eu gelynion fel na fyddai dim yn tyfu yn eu caeau fyth eto.
Mae Job yn holi fel hyn: (6.6)
Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen? Oes blas ar y gwynnwy?
Sef yn union fel mae angen halen i roi blas ar fwyd, mae angen pwrpas ac angerdd yn ein bywydau.
Yn y Testament Newydd ceir cyfeiriadau eto at halen. Mae’r Iesu yn defnyddio halen wrth gyfeirio at ei ddilynwyr gan ddefnyddio halen i ddisgrifio angerdd person, ei synnwyr o gyfiawnder a chariad at eraill ac at Dduw.
Yn dilyn y bregeth ar y Mynydd a’r Gwynfydau ym mhumed bennod Efengyl Mathew mae’r adnod hwn:
“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae’r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n dda i ddim ond i’w daflu i ffwrdd a’i sathru dan draed.
Mae’n gyfeiriad at yr Israeliaid a alwyd i fod mewn cyfamod â Duw ond roedden nhw wedi peidio byw yn nôl dymuniad Duw, fel pe bai’r halen wedi peidio â rhoi blas ar y bwyd na’i gadw. I’r credinwyr mae’n gosod sialens neu her. Os yw rhywun sy’n dilyn Iesu ond heb fyw bywyd sy’n adlewyrchu eu perthynas â Duw – a allen nhw gael eu defnyddio i ledaenu neges Duw?
Dyma gyngor yr Iesu yn nôl Efengyl Marc 9:50:
“Mae halen yn beth defnyddiol, ond pan mae’n colli ei flas, pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Byddwch â halen ynoch, a byw’n heddychlon gyda’ch gilydd.
Dyma’r fersiwn yn Efengyl Luc: 14:34-35
“Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae’n colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n gwneud dim lles i’r pridd nac i’r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd.
“Gwrandewch yn ofalus os ydych chi’n awyddus i ddysgu!”
Y neges yma yw i ni geisio cadw’n ffyddlon i’n gwerthoedd, hyd yn oed pan mae’r byd o’n cwmpas yn newid.
Mae awduron y Llythyron yn defnyddio’r ddelwedd o halen i gynrychioli nodweddion mewnol.
Dyma ddyfyniad o bennod 4 Llythyr Paul at y Colosiaid o fersiwn beibl.net:
Byddwch yn ddoeth yn y ffordd rydych chi’n ymddwyn tuag at bobl sydd ddim yn credu. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i rannu gyda nhw. Byddwch yn serchog wrth siarad â nhw a pheidio bod yn ddiflas. A gwnewch eich gorau i ateb cwestiynau pawb yn y ffordd iawn.
Ond fel hyn mae yn y fersiwn hŷn:
Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi’i flasu â halen, i chwi fedru ateb pob dyn fel y dylid.
Yma mae’r halen yn symbol o eiriau i gyfoethogi’r sgwrs. Mae geiriau fel pryd blasus yn llawn blas a charedigrwydd, yn cael effaith cadarnhaol ac mae’n anogaeth i ni fel credinwyr i wella’r byd gyda’n geiriau a’n gweithredoedd trwy gyfathrebu’n rasol ag eraill.
Yn ei lythyr mae Iago yn defnyddio’r ddelwedd o halen yn wahanol, yn negyddol. Fel hyn mae’n disgrifio ymddygiad credinwyr: (Iago 3: 11-12)
Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o’r un ffynnon? Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!
Yma mae’n rhybuddio am siarad yn wael a halen yn symbol o eiriau drwg – nid yw dŵr glân y ffynnon yn rhoi dŵr hallt.
Dyma bennill o emyn gan y Pêr Ganiedydd – William Williams, Pantycelyn:
Gwna ni fel halen trwy dy ras,
Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas,
Yn foddion yn dy law o hyd
I dynnu’r adflas sy ar y byd.
Cawn ein rhybuddio rhag cael gormod o halen – mae’n ddrwg i bwysau gwaed – ond mae’n gwbl angenrheidiol i’r corff ac ni allwn wneud hebddo. Mae Elfyn Pritchard mewn erthygl am yr adnod yn dweud bod presenoldeb Cristnogion mewn cymdeithas yn cryfhau ac yn nerthu’r gymdeithas honno, ac yn rhoi pwrpas a chyfeiriad iddi.
Mae’n dweud bod halen yn glymwr – yn gallu cadw bwyd gyda’i gilydd – fel bara a selsig a dyma meddai yw un o’n dyletswyddau ninnau mewn cymdeithas, i dynnu pobl ynghyd, ‘i esmwytháu pob anghytuno ac ymwahanu, creu harmoni lle mae unrhyw ddisgord.’
Dywed hefyd bod halen yn gwella lliw ac mae gennym ddyletswydd, meddai, i roi sbarc ym mywydau pobl, i’w helpu i sylweddoli bod bywyd yn werth ei fyw.
Mae’n cloi ei fyfyrdod fel hyn:
‘Ond un gair o gyngor. Allwn ni ddim rhoi lliw ar fywydau neb oni bai bod lliw yn ein bywydau ni. Dyw mynd o gwmpas yn bruddaidd ddigalon am fod yr achos yn wan ac yn gwanio yn gwneud dim lles i neb. Go brin y gallwn fod yn lladmeryddion llawenydd os ydym yn ddigalon ein hunain.
Ydyn, rydym mewn lleiafrif, Ond cofiwn fel yr halen yn y bwyd, yn ei brinder y mae ei nerth, a phan mae yn brin y mae’n gwneud ei waith.’
Yn ei gerdd, Adnabod, mae Waldo Williams yn dweud fel hyn:
Ti yw’r halen i’n puro,
Ti yw’r deifwynt i’r rhwysg amdanom.
Ti yw’r teithiwr sy’n curo,
Ti yw’r tywysog sy’n aros ynom.
Gweddïwn
Diolchwn am roi i ni fywyd ac am fywyd dy fab, Iesu Grist. Helpa ni i fod yn debycach iddo, i fod yn halen ac yn oleuni yn ein cymuned a’r byd. Boed i eraill ddod i’th adnabod trwom ni a boed i’n geiriau fod fel dŵr glân yn yr anialwch yn hytrach na dŵr hallt.Boed halen rhyngom fel aelodau o’n cymuned a’n heglwys a halen rhwng gwledydd a’u harweinwyr â’i gilydd i wella cyflwr ein byd a hynny fel plant i ti o Dduw. Gwna ni’n halen y ddaear yn enw dy Fab Iesu Grist a ddysgodd ni i’th gyfarch ac i ddweud gyda’n gilydd – Ein Tad…
Myfyrdod
Yn sicr, mae halen yn rhoi blas ar fwyd ac yn ei emyn mae Rhys Nicholas yn datgan mai Crist sy’n rhoi blas ar fyw:
Emyn 791
Y fendith
Rho fwy o gariad at dy waith,
rho fwy o sêl bob cam o’r daith;
ar bethau’r tŷ rho fwy o flas –
a gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda ni oll o’r dydd hwn ac yn dragwyddol. Amen.