Cymdeithas Ddiwylliannol

Ein bwriad yw datblygu’r ganolfan yn hwb i weithgareddau cyfrwng Cymraeg.

Dechreuwyd gyda chyngerdd Cleif Harpwood a Geraint Cynan ym Mehefin 2024. Dilynwyd hynny gyda chyngerdd Delwyn Siôn yn yr hydref. Daeth Myfyr Isaac i gyfeilio iddo yn lle Geraint Cynan. Cefnogwyd y ddwy gan gynllun Noson Allan. Cafwyd cyflwyniad mewn cymeriad gan Daniel O’Callaghan yn yr ail gyngerdd sy’n aelod yn y capel.

Cafwyd noson wefreiddiol yng nghwmni Lleuwen ym mis Tachwedd wrth iddi ein tywys drwy hen emynau coll Cymru.

Mae mwy ar y gweill ar gyfer 2025!

Nos Lun, Tachwedd 18 am 7 o’r gloch. Mynediad am ddim gyda chasgliad tuag at Ffynhonnau Byw sef Apêl Undeb y Annibynwyr. Dyma eich cyfle olaf i glywed Lleuwen yn ardaloedd y de. Dewch i fwynhau noson wefreiddiol a fydd yn aros yn y cof. Croeso i bawb.