Mis Mawrth

Newyddion Mis Mawrth

1/03

Gwasanaeth Gŵyl Dewi

Cawsom ddathlu Gŵyl ein nawddsant gyda gwasanaeth yn trafod stori ein hiaith a  rôl crefydd yn ei chynnal a’i chyfoethogi. Dechreuwyd gyda hanes dymchwel Tŵr Babel a hwnnw’n symbol o awch y ddynoliaeth am rym a’r unig ffordd i’w hatal oedd dymchwel y tŵr a chymysgu’r ieithoedd. Mae’r syniad o genhedloedd ac ieithoedd gwahanol yn beth positif, yn cyfoethogi’r byd, yn dod ag amrywiaeth a lliw.  Defnyddiwyd y gyfrol Stori’r Iaith a olygwyd gan Ceri Wyn Jones fel sail i’r wers hanes ar ddatblygiad yr iaith a rôl crefydd yn ei chynnal. Darllenwyd nifer o gerddi ac unawd gan Hefina. Braf oedd gweld cynulleidfa dda a thua 20 yn cymryd rhan.

The story of our language and the pivotal role of the translation of the Bible in 1588 was the theme of our St David’s day Service.

2/03

Dillad gwely i’r Lloches

Derbyniwyd llythyr o ddiolch gan Wendy am ein cefnogaeth i’r Lloches. Dyma lun o rai o’r setiau o ddillad gwely a gyflwynwyd iddynt ynghyd â’r cyfraniad ariannol o £214.

The Refuge was very grateful for our continued support – a donation of bed linen – a selection in the photo below – and a sum of £214 – with many thanks to all who contributed from the chapel and community.

4/03

Noson Gawl a Chân 

Daeth 60 i’r noson i ddathlu Gŵyl Dewi a chafwyd noson hwyliog dros ben – diolch i’r rhai a wnaeth y cawl a’r treiffl. Roedd Bois y Frenni yn eu hwyliau, yn enwedig y ddau blismon direidus!

Llwyddwyd i godi £640 ar gyfer yr elusen Alzheimer’s Cymru.

15/03

Gwasanaeth Gibeon ar Sul y Mamau

Cawsom ymuno ag aelodau Gibeon i wasanaeth yn dathlu mis Mawrth dan arweiniad y  bobl ifanc ac anerchiad Beti-Wyn. Cyflwynwyd blodau i’r ddwy fam!

24/03

Côr ysgol yn diddanu cynulleidfa Croeso Cynnes

Roedd yn hyfryd medru croesawu côr Ysgol Griffith Jones i ddiddanu mynychwyr Croeso Cynnes. Gobeithio iddyn nhw fwynhau’r perfformio a’r bisgedi!  Byddem wrth ein bodd i’ch croesawu yma eto! Cafodd y pennaeth syndod i weld cymaint yno a braf meddai oedd cwrdd â chyn athrawon yn eu plith.

All attending Croeso Cynnes thoroughly enjoyed the children singing. Please come again!

24/03

Talwrn y Beirdd

Roedd yn braf medru cynnig gofod i recordio dwy raglen a daeth cynulleidfa ardderchog i gefnogi’r noson. Ym mis Ebrill caiff ddwy rhaglen eu darlledu.

Dyma dri bardd  wrth y meic. Fe holodd rhai am y wyau Pasg oedd wedi’u casglu ac ar ôl clywed am ein hymdrechion yn cefnogi’r Lloches fe roddodd Sion Tomos Owen arian papur o gyfraniad. Diolch iddo am ei haelioni.

25/03 Stori a Chân

Criw da o famau a phlant yn y sesiwn bore ma!

29/03 Oedfa Bore Sul

Cafwyd oedfa gofiadwy o dan arweiniad Elonwy Phillips ar ffurf monolog yn adrodd hanes yr Wythnos Fawr a beth fyddai ein hymateb ninnau pe byddem ni yno.

Buom yn cyfri wyau wedyn! Dros 100 ohonynt gyda mwy i ddod eto!

Diolch o galon i bawb a gyfrannodd ac i Pethau Olyv am ein helpu yn ôl eu harfer.

Following our morning Service the eggs were counted  – over 100 with a few more to be added again – a big thank you to all and particularly to Pethau Olyv for their continued support.

31/03

Dosbarthu’r wyau!

Roedd yn hyfryd bod Annalyn wedi medru dod pan ddaeth Wendy o’r Lloches i gasglu’r wyau i’w dosbarthu i’r rhai yn y Lloches a phlant yn y gymuned a gefnogir ganddynt – tua 96. Yn y llun hefyd mae Audrey gan ddiolch iddi hithau am fynd â digon o wyau i bob un yng nghartrefi Brookfield House a Frondeg – cyfanswm o 36 arall!

Below a photo of Annalyn with Wendy who came to collect 96 eggs to be distributed to families supported by the Refuge. Also Audrey who kindly delivered 36 eggs to Brookfield House and Frondeg. Your ongoing support is much appreciated and it was great to see Annalyn!

31/03

Age Concern yn Croeso Cynnes

Diolch i Lucie King a ddaeth i rannu gwybodaeth am waith Age Concern.

Rhaghysbys!