Chwefror
02/2026
Oedfaon Chwefror
1/02
Cafwyd oedfa gymun ar ddechrau’r mis a’r gwasanaeth dan arweiniad aelodau ar y thema Trugaredd. Diolch yn enwedig i Daniel am ganu unawd. Cafwyd gwasanaethau eraill dan arweiniad y Parch Euros Jones-Evans a Dr Ryland Jones a gwasanaeth hyfryd yng nghapel Gibeon gan ddefnyddio’r gyfrol Hoff Adnodau’r Cymry fel sail i’r addoliad – gan ddiolch i Beti-Wyn am ei drefnu.
4/02
Gwersi Cymraeg wedi dechrau!
Mae 16 wedi cofrestru a’r tiwtor David wrth ei fodd gyda’r lleoliad a’i gyfleusterau.
16 have enrolled for the beginner’s Welsh course.
6/02
Hyfforddiant Deffib / Defib Training
Cawsom hyfforddiant i ddefnyddio’r difflibiwr fore Gwener. Dyma’r ail sesiwn o hyfforddiant i rai ohonom ac ymunodd sawl un o Sied y Dynion gyda ni’r tro hwn ac ambell un arall o’r gymuned.
Roedden ni wedi prynu pecyn atal gwaedu hefyd a chawsom ddysgu sut i’w ddefnyddio.
In the morning, defibrillator training along and a few members of the Men’s Shed and individuals from the community joined us. We also learnt to use the bleed control kit which the chapel has also purchased.


Nwyddau’r di-gartref / Emergency Rough Sleeper packs
Yn y prynhawn daeth Amanda Lince i gasglu’r nwyddau a brynwyd i’r digartref gyda chasgliadau dros y Nadolig. Derbyniwyd cyfraniad sylweddol hefyd gan Bwyllgor Adloniant Llanwinio i brynu un pecyn argyfwng a phrynwyd dau becyn arall gan y capel gyda chyfraniadau hael hefyd gan Sied y Dynion. Hwy sydd yn y llun gyda Rhys ac Amanda.
In the afternoon, Amanda Lince came to collect the 3 Emergency Rough sleeper packs for the homeless – paid for with chapel collections, donations from individuals and the men’s Shed and a donation from Llanwinio Entertainments Committee. Sincere thanks to everyone who donated so generously in order to provide shelter for those locally who find themselves homeless.

13/02
Dillad Coda ni
Mae Tŷ Croeso yn cefnogi Coda Ni, grŵp Cristnogol sy’n casglu dillad a’u gwerthu er mwyn codi arian i estyn cymorth i elusennau lleol a thramor.
Daeth Maria, Morfydd a Fioled i gasglu pentwr o fagiau o’r capel a’r ysgoldy. Daethant hwythau â bagiau o ddillad plant bach hyd at 18 mis gyda hwy ar gyfer Plant Dewi. Diolch i bawb a gyfrannodd ac i Rhys a Janet am helpu i lwytho’r cyfan a hynny yn y glaw!
Another charity supported by Tŷ Croeso is Coda Ni – a Christian Group which collects and sells clothes to raise money for local and overseas charities. They also brought bags of clothes for young children to be distributed by Plant Dewi. Sincere thanks to all who contributed and helped to load the cars – in the pouring rain!

21/02
Casgliad i’r lloches
Deallodd Annalyn bod prinder dillad gwely yn y Lloches ac mae casgliad wedi dechrau a nifer wedi prynu setiau yn barod i’w trosglwyddo iddynt.
Annalyn understood there was a shortage of bedding in the Women’s refuge and a collection started and several individuals have bought sets to be taken to them.
Rhaghysbys:
