Mis Ionawr

Blwyddyn Newydd Dda!

Mae Tŷ Croeso a’r capel yn brysur bob wythnos a rhag ofn na wyddoch chi, mae nifer o ddigwyddiadau wythnosol yn y capel.

Below is a list of current activities:

Dydd Llun: Ffitrwydd am 9.00 – 10.00 / Fitness with bands

Dydd Mawrth: Croeso Cynnes 10.30-12.30

Bore dydd Mercher: Am 9.30 – 11.00: Adweitheg i fabanod am y mis hwn ac yna bydd Stori a Chân yn ailddechrau. Reflexology for babies for 4 weeks and then Welsh story time will restart.

11.15-12.15: Ffitrwydd/ Fitness

Prynhawn dydd Mercher: 2.00 – 4.00: Sesiwn grefft / Crafting.

Bore dydd Iau am 9.30: Siawns am Sgwrs

Ac am 11.00 Sied y Dynion / Men’s Shed

Fel arfer ar fore Gwener am 9.30 mae Ioga cadair – sydd wedi’i ohirio am y tro oherwydd salwch.

Chair yoga on Friday mornings postponed for a few weeks.

Ar Chwefror 4ydd am 4.30-6.30 – gwers gyntaf y dosbarth Cymraeg wythnosol  i ddechreuwyr.

 4/02/2026:  First weekly Welsh lesson for beginners on Wednesdays 4.30-6.30.

Mae Merched y Wawr a’r WI yn cwrdd yn fisol a chlwb darllen Cymraeg.

The WI meet on Tuesday afternoons once a month: 1.00-4.00

Oedfaon Mis Ionawr:

Oherwydd yr eira ni chynhaliwyd gwasanaeth ar Sul cyntaf y flwyddyn. Cafwyd gwasanaethau dan arweiniad Mrs Maria Evans a Mr Dafydd Evans ac un ar y 18fed o dan arweiniad yr aelodau gan ganolbwyntio ar y Gair a ddaeth yn gnawd  a’r hanes yn dilyn geni’r Iesu yn Efengyl Ioan.

14/01: Adweitheg i Fabanod

Roedd y plantos wedi mwynhau’r sesiwn gyntaf gyda Meleri Brown.

Babies enjoyed their first session of Welsh reflexology.

20/01 Pecynnau cyntaf i’r di-gartref wedi cyrraedd

Fe dderbyniodd Annalyn gais am gymorth i’r di-gartref ddiwedd y flwyddyn a chasglwyd £578.50 a hynny’n ddigon i brynu 2 becyn gydag ychydig dros ben i gael talebau bwyd. Cafwyd cyfraniadau hael gan nifer o unigolion, casgliadau’r gwasanaeth Nadolig a bu aelodau Sied y Dynion hefyd yn eithriadol hael. Cynhaliwyd Noson Garolau yn Eglwys Llanwinio ac roeddent hwythau am gyfrannu at apêl Tŷ Croeso gyda chyfraniad o £265.77 – digon am becyn arall.

Yn y llun mae cynnwys dau becyn.

With generous contributions from several individuals, a substantial amount from the Men’s Shed and a Christmas collection in chapel we raised £578.59 – enough to buy 2 packs for the homeless with a little left over to purchase food vouchers. Another pack was bought thanks to the sum raised in the Llanwinio Carol Concert who wanted to support Tŷ Croeso’s appeal.

The picture below is the contents of two packs.

Rhaghysbys!