Mis Rhagfyr
1/12
Cyflwyno sieciau
Yn dilyn Sioe ffasiynau Pethau Olyv cyflwynwyd siec o £225 yr un i ddwy elusen Tŷ Croeso. Daeth Wendy o’r Lloches a Catrin Eldred o Blant Dewi draw i’r siop i’w derbyn.
We are so grateful to Olive and Yvonne for raising the sum of £450 to be shared between two charities supported by Tŷ Croeso – the Women’s refuge and Plant Dewi.

8/12
Cwiltiau Iona i Blant Dewi
Casglwyd y cwiltiau bendigedig hyn gan Blant Dewi gan ddiolch i Iona Cartrwight am ei charedigrwydd.
These beautiful quilts woven by Iona Cartrwight were collected by Plant Dewi.

Diolch i Lynette o Sefydliad y Merched sy’n cwrdd yn y capel a Rhiannon am greu’r bagiau a’r sanau yma gyda losin i blant y lloches.
Cyflwynwyd siec ychwanegol i Blant Dewi o £45 o werthu nwyddau yn y capel.
These bags and stockings with sweets made by Lynette from the WI and Rhiannon for children in the refuge. An additional sum of £45 donated also to Plant Dewi from the proceeds of selling various items.

9/12
Llond lle o siocledi!
Daeth Wendy draw i dderbyn y rhoddion o siocledi a gasglwyd mewn gwasanaethau diweddar ac yng ngweithgareddau Tŷ Croeso. Byddant yn cael eu rhannu i blant mewn gofal yn ardal Caerfyrddin a chartrefi preswyl Fronhaul a Brookfield yn Sanclêr.
A great response again to our appeal for chocolate gifts to be distributed to children in care and the two residential homes in St Clears.

14/12
Gwasanaeth Nadolig Gibeon
Cafwyd gwasanaeth arbennig dan arweiniad yr ieuenctid ac aelodau yn y prynhawn. Roedd Siôn Corn wedi galw heibio a chawsom fwynhau paned a mins peis yn dilyn – diolch i Beti-Wyn a Iona am drefnu’r cyfan.

17/12
Stori a Chân
Yn sesiwn olaf y flwyddyn cafwyd gweithgareddau crefft yn ogystal â sesiwn stori – diolch i Janet a’r Fenter Iaith.


18/12
Cracyr Nadolig Merched y Wawr
Daeth y criw ynghyd i fwynhau paned a mins peis tra’n gwylio’r Cracyr ar Zoom – gan ddiolch i Beti-Wyn am lunio’r sgript ac i Angharad am ein ffilmio.

21/12
Gwasanaeth Nadolig
Dros Suliau’r Adfent buom yn trafod teitlau’r Crist – Mab Dafydd, Mab Mair gan ganolbwyntio ar ei Magnificat. Ar y pedwerydd Sul hwn – Mab Duw, y gair a ddaeth yn gnawd gyda darlleniadau a charolau ac eitemau cerddorol yn unawdau a deuawdau gan Elin Fflur, Daniel, Anwen a Sioned. Diolch i bawb a gymerodd ran.


A diolch i Hefina am gyfeilio.

Cafodd Annalyn wybod y byddai rhai yn ddigartref yn ardal Caerfyrddin dros yr Ŵyl a chasglwyd i brynu sawl pecyn argyfwng a thalebau bwyd i’w cynorthwyo.
A collection made towards the purchase of ‘rough sleeper packs’ and food vouchers as sadly there are some who are homeless over Christmas.