Mis Tachwedd

11/11

Adweitheg Merched y Wawr

Cawsom noson mor ddifyr yng nghwmni Meleri Bowen. Fe gysgodd rhai ohonom yn dda iawn ar ôl tylino ein dwylo.

A fabulous reflexology session!

15/11 Cyfraniad Tir Dewi

Anfonwyd cyfraniad o £150 i elusen Tir Dewi yn dilyn y cwrdd diolchgarwch fis diwethaf. Roedd hynny’n ychwanegol i’r hyn a godwyd gan gwrdd diolchgarwch y Gymdeithas Holstein gyda diolch i Margaret a Meirion Lower Court, Sanclêr.

The thanksgiving service contribution  to the Tir Dewi charity which was in addition to  substantial sum raised by the Holstein Society.

17/11 Grant Mannau Cynnes

Buom yn llwyddiannus eto eleni i gael nawdd cymhorthdal y Cyngor Sir i gynnal Croeso Cynnes – a fydd yn fodd hefyd i gael oergell newydd a rhewgell fechan i gadw bara dros ben.

We were successful again in our application for a grant from the County Council which enables us to buy a small freezer –  Audrey / Janet –  won’t have to take left over bread home or remember to return it the following week!

18/11

Apêl Cadw’n Wresog

Casglwyd mwy o gotiau a dillad cynnes eto a chyfrannodd Ann Morris, Maenclochog bentwr o gwiltiau bendigedig wedi’u gweu. Daeth Christine Randall  i Groeso Cynnes i’w casglu ar gyfer y banc yn Eglwys Crist, Caerfyrddin – ac rydym yn ddiolchgar iawn i hithau am ei chyfraniad caredig i ymdrechion Tŷ Croeso.

Such a wondeful response again to our Winter Warmers appeal which were collected by Christine Randall from Christ Church Carmarthen, as well as the beautiful quilts woven by Ann Morris.

22/11

Mae Rhys wedi bod yn brysur eto!

Roedd y ddarllenfa arall yn rhy dal i rai wrth gymryd rhan yn y capel – ac mae modd addasu uchder yr un newydd! Gwych!

We now have two lecterns – one for tall presenters and another for the shorter amongst us – thanks to Rhys again!

23/11

Apêl Jamaica

Roedd y cwrdd bore Sul yn trafod un o’r teitlau a roddir i’r Crist – Mab Dafydd – a nifer wedi cymryd rhan. Yn dilyn, cafwyd cyflwyniad gan Natalie am yr heriau a wyneba aelodau ei theulu yn Jamaica yn sgil corwynt Melissa. Roedd wedi archebu 2 faril –oddeutu £300 yr un  – a’r aelodau a chyfeillion wedi casglu bwydydd ac angenrheidiau eraill i’w hanfon atynt. Cyfrannodd y capel £200 a rhoddodd nifer arian ychwanegol iddi hefyd.

Following our morning service, Natalie gave a presentation of the challenges facing members of her family in Jamaica following the hurricane. We as members were pleased to be able to make a contribution to her efforts to send two barrels of aid.

24/11

Lansio apêl Nadolig

26/11

Clwb Crefft

Mae’r criw yn cwrdd bod prynhawn dydd Mercher a dyma rai o’r addurniadau Nadolig a grëwyd ganddynt yr wythnos hon – gyda diolch i Sue am eu hysbrydoli.

Sue is such an inspiration, providing all the materials for all the Wednesday pm sessions.

Mwy o ddillad cynnes!

Aeth Margaret Lower Court â llond car o gotiau eto i Eglwys Crist, Caerfyrddin yn dilyn yr apêl i aelodau’r gymdeithas Holsteins am gotiau.

Thanks again to the members of the Holstein Society who responded to our appeal for winter coats – and to Margaret who delivered them to the food bank at Christ Church, Carmarthen.

30/11

Sul cyntaf yr Adfent

Cafwyd oedfa gofiadwy dan arweiniad Elonwy Phillips heddiw a’i myfyrdod arbennig ar ffurf monolog Mair. A diolch i Annalyn am baratoi’r dorch hyfryd.