Mis Hydref
1/10
Banc bwyd
Cafwyd cais arbennig gan y Banc Bwyd yn Hendy Gwyn gan fod prinder grawnfwydydd ac roedd yr ymateb i’r apêl gan aelodau a mynychwyr Croeso Cynnes yn rhyfeddol eto. Roedd car Verian yn llawn – a diolch iddo am eu cludo yno.
Such a wonderful response to the Food Bank’s emergency appeal for cereals .

Roedd angyles wedi gadael y rhain i gyd tu fas i’r capel!
There’s an angel in our midst – who left all these as well!

5/10
Dathliad Priodas Aur
Yn dilyn gwasanaeth aelodau ar hanes Ruth cawsom ginio hyfryd i ddathlu priodas Aur Rhodri a Marian Medi’r 20ain – ac mae’r ddau yn ddiolchgar iawn i bawb am fod mor feddylgar.

13/10
Diolchgarwch Clwb CFfI Sanclêr
Cafwyd oedfa hyfryd dan arweiniad y bobl ifanc a’u cadeirydd, Aled Owens fferm y Manor ac anerchiad hwyliog gan y Parch Wyn Maskell.
It was great to see a large congregation of young people and their famillies – all enjoying refreshments and a chat following the service of thanksgiving.


21/10
Dyma welliant!
Mae ail ochr y capel wedi’i orffen erbyn hyn – gan ddiolch eto i Rhydian, Rhys ac Andrew am eu gwaith – arbennig!
Renovations almost complete!

24/10
Gwirfoddolwyr yn joio yn Nhalacharn
Braf oedd cael cyfle i fwynhau cinio yng nghwmni ein gilydd ac mor falch bod y ‘boss’ wedi medru dod.
Big thanks to Audrey for arranging our lovely lunch for many of the Croeso Cynnes volunteers.

25/10
Noson Pethau Olyv
Diolch i Olive ac Yvonne am agor drysau’r siop i 50 i fwynhau’r Sioe Ffasiynau ar nos Sadwrn ac yn enwedig am benderfynu y byddai elw’r noson yn mynd tuag at elusennau Tŷ Croeso. Agorwyd y noson gan Annalyn a roddodd gyflwyniad byr am yr elusennau hynny.
What a great event arranged by the two fashionistas – wonderful clothes modelled with such flair and humour! We at Tŷ Croeso Bethlehem are so grateful for your continuous support for all our appeals.

19/10, 26/10 a 31/10
Tair oedfa ddiolchgarwch arall
Y gyntaf yng nghapel Gibeon dan arweiniad rhai o’r ieuenctid; yr ail ym Methlehem newydd dan arweiniad yr aelodau ar y damhegion o fyd natur ac amaeth a’r trydydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas Holstein De Cymru a’r llywydd Meirion Williams, Lower Court gyda’r Parch Eileen Davies yn arwain yr addoliad mor ysbrydoledig. Cyfrennir casgliad y ddwy oedfa yn Methlehem at elusen Tir Dewi. Roedd Meirion wedi gwneud apêl am gyfraniadau at y Banc Bwyd a llawer iawn o’r mynychwyr wedi cyfrannu cymaint – diolch yn fawr i bob un. Roedd gwledd o fwyd yn dilyn y gwasanaeth a chyfle i gymdeithasu.
Several thanksgiving Services held – the last by the South Wales Holstein Society as Meirion Lower Court is the current president and collection made to the Tir Dewi charity and we are so grateful also for the generous donations made to the Food Bank appeal by many who attended that evening.

Apêl mis Hydref

Pan gysylltodd rhywrai ag Annalyn bod angen dybryd am gotiau a dillad cynnes fe lansiodd yr apêl – a bu’r ymateb yn rhyfeddol – gan aelodau’r capel, mynychwyr Croeso Cynnes a’r grwpiau eraill sy’n cwrdd yn wythnosol yn y capel. Diolch yn arbennig eto i Pethau Olyv am fod yn fan casglu i rai hefyd.
The response to the appeal was exceptional from across all the groups who meet at the chapel nd Pethau Olyv – and thanks to Lawrence of the Men’s Shed who took the first load up to Christ Church in Carmarthen.
