Mis Awst
1/08
Difflibriwr i’r capel
Yn dilyn cyngor penderfynwyd prynu diffribliwr i’r capel gan fod cymaint o fudiadau’n defnyddio’r adeilad bellach – ar gost o oddeutu £1,000. Cynhaliwyd hyfforddiant achub bywyd dechrau’r flwyddyn ond bydd rhaid cynnal sesiwn hyfforddiant eto cyn hir.
A defribillator has been purchased for the chapel – as several groups meet in the chapel regularly – we shall arrange a second session of training soon.

7/08
Apêl y Lloches
Cafwyd ymateb rhyfeddol unwaith eto i Apêl Tŷ Croeso am nwyddau golchi ac ymolchi ar gyfer y Lloches. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd mor hael ac i Pethau Olyv a Mols Bistro am dderbyn llawer o’r nwyddau ar ein rhan.
What an amazing response once again to Tŷ Croeso’s appeal for the Refuge. Sincere thanks to everyone who donated so generously and to Pethau Olyv and Mols Bistro for receiving many of the items on our behalf.

11/08
Bws Cymunedol
Mae’r bws bach wedi cyrraedd ac yn cael ei gadw ym maes parcio’r capel. Mae Annalyn wedi llwyddo cael rhestr o wirfoddolwyr i’w yrru. Ryland James oedd y cyntaf i’w yrru ac Eric y teithiwr cyntaf i’w ddefnyddio i ddod i Groeso Cynnes.
The community bus has arrived and we are glad to provide parking for the vehicle in the chapel’s car park. Annalyn has a list of volunteer drivers – Ryland James was the first to drive it and Eric the first passenger to oin us at Croeso Cynnes.

13/08
Daeth llond capel o fabanod a phlant i’r sesiwn a diolch i Gwyneth am arwain y sesiwn fyrlymus ac i Enfys am ddarparu gweithgareddau celf. Roedd rhai o’r babanod wrth eu bodd yn chwarae yn y pasta a’r coco pops! Diolch i Huw, y trydydd o’r Fenter a ddaeth i gynorthwyo hefyd.
The floor of the chapel wa full of infants for the session – with thanks to Gwyneth for a fun story and singing session and to Enfys for entertainig older children with craft actiities. It was indeed messy play in the pasta and coco pops!



15/08
Priodas Elin a Siôn
Roedd y capel yn edrych yn hyfryd ar gyfer y briodas a diolch i bawb a fu wrthi’n clirio’r gofod yn dilyn y sesiwn i blant a’r sesiwn grefft yn y capel ddeuddydd cynt – yn enwedig ar ôl y coco pops!

Cyrhaeddodd Elin ar dractor gyda’i thad a chafwyd seremoni arbennig dan arweiniad y Parch Beti Wyn James a gwledd o ganu gyda’r ensemble lleisiol – Sioned Beynon, Elin James, Elin Phillips, Hannah Richards a Gwenllian Phillips – ac wrth gwrs, Côr Meibion Hendy-gwyn a’r cylch dan arweiniad Heather Jenkins a oedd yn dirprwyo i fam y briodferch ac arweinydd y côr, Hefina. Braf oedd gweld Owain Lewis yn cyfeilio ar yr organ a’r piano gyda’i gysylltiadau agos â theulu annwyl iawn i ni ym Methlehem, sef Sgubor Fawr.
Llongyfarchiadau felly i Mr a Mrs Skinner!
The bride arrived and left in a tractor – quite a challenge in a wedding dress with train- but managed so elegantly!
Those who attended enjoyed wonderful singing with the ensemble and Whitland Male Voice choir. Hefina, the mother of the bride conducts the choir.
Congratulations to Elin and Siôn on their marriage.

Cyngerdd Mis Medi
Cofiwch am y gyngerdd mis nesa ar y 12fed.
Hefyd ar fore dydd Gwener y 12fed bydd Ioga yn ail ddechrau am 9.00-10.00 am £5.
Yoga will re-start on Friday 12th at 9.00-10.00 for £5.
