Mis Mehefin
Mis Mehefin
Suliau cymdeithasol:
1/06: Oherwydd bod Tudur Dylan yn medru dod atom y prynhawn i gynnal oedfa penderfynwyd y dylen ni gael te prynhawn i ddilyn a phawb wedi mwynhau’r sgons a’r hufen. Diolch i’r rhai fu’n gweini.

8/06: Yr wythnos ganlynol roedd Alun Lenny wedi trefnu pererinod i ofalaeth Bwlch y Corn a Pheniel gan ddechrau trwy ymuno â ni yn ein gwasanaeth, a hynny dan arweiniad Catrin Isaac Thomas a’i neges hi mor rymus ac addas ar Sul y Pentecost a’r canu’n ardderchog! Roedd wrth Dai wrth ei fodd!

15/06: Daeth mwy o ymwelwyr eto’r Sul canlynol o ofalaeth Tabernacl, Caerfyrddin – 18 ohonynt. Y tro hwn yr aelodau oedd yn cynnal yr oedfa gan ddefnyddio deunydd o nifer o wasanaethau diweddar. Roedd 15 wedi cymryd rhan ac yn dilyn y gwasnaeth dros baned bu Annalyn yn rhannu gwybodaeth am weithgareddau Tŷ Croeso – cyn iddynt fynd am eu cinio yn Hen Ysgol y Bord, Sanclêr. Roedd yn braf iawn cael cynulleidfa niferus, oddeutu hanner cant.

